Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
Ait Dalaith Gogledd Cymru. [? CYNHELlR Y Cyfarfod Cyllidol Yn ABERFFRAW, MEDI 26ain-2gain, 1915. Trefn y Cyfarfodydd. Pregethir yn holl gapeli y Gylchdaith, Sabboth, Medi 26ain, gan Weinidogion Dieithr. Nos Lun, Medi 27ain. ABERFFRAW, am 6.30, pregethir gan y Parchn. R. J. Parry, Penygroes, a T. C. Roberts, Conwy. MAELOG, am 6.30. pregethir gan y Parchn R. Conway Pritchard, Dolgellau, a Dan- iel Williams, Feninachno. j Nos Fawrth, Medi 28ain. ABERFFRAW, am 6.30, pregethir gan y Parchn. A. W. Da-ue3, Bethesda, ac R. Jones Williams, Blaenau Ffes- tiniog. Oydd Mercher, Medi Z9 ai ft. Seiat Fawr, Am 8.45 a.m. Dechreuir gan y Parch. E. A. Morris, Eglwysbach. yn 1854 a 1915," gany Parch. Hugh Jones, D.D Bangor. Mater: "YBywydYsbrydoL" I' (1), Ei ddechreuad: Yr hwn a ddechreuodd ynoch waith da," gan Parch. T. Gwilym Roberts, Towyn (2), Ei gynnydd "Oynhyddwch mewn graa," gan Mr W. 0. Jones, Ban- gor. I (3), Ei berffeithiad: A'ch sanct- eiddio yn gwbl oil," gan y Parch. Ishmael Evans, Caernarfon. Am 10.30. a.m., pregethir gan y Parch Thomas Hughes (Cadeirydd y Dal- aith). aitb). Am 2.30 o'r gloch, pregethir gan y ¡ Parchn R. Mon Hughes, Tregarth, ac Owen Evans, Llanrwst. Am 6 ol r gloch, pregethir gan y Parchn O. Madoc Roberts, Bangor, a W- O. i Evans, Porthmadog. Hysbysiadau. Cynhelir y Cyfarfodydd yng Nghapel y Wesleaid a'r Eisteddiadau yng Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd. Dymunir ar 11 aelodau Pwyllgor y Capeli -a'r Genhadaeth Gartrefol ddod prynhawn Llun, gyda'r tren sydd yn cyrraedd Gorsaf Tycroes 1.16 j a'r Cynrychiolwyr ereill gyda'r tren 3.1ü.1 Trefnir i gerbydau gyfarfod y trens hyn. Fare. 6c. Darperir Te i'r holl gynrychiol- wyr am 4 o'r gloch, prynhawn ddydd Llun, yn Ysgoldy y Wesleaid. 4'ajr ystafell hon hefyd y bydd y Cimaw a'r Te y dyddiau dilynol. Gall dieithriaid hefyd gael ymborth ddydd Mercher am bris rhesymol. Dym- unwn wasgu ar i'r holl gynrychiolwyr fanteisio ar letygarwch ein cyfeillion yma. Siom faw i'r teuluoedd fyddai i'r rhai sydd i lefya gyda hwy beidio dod, neu fyrhau eu harosiad. Os analluogir rhai o'r cynrychiolwyr i ddyfod i'r cyfarfod gofaler anfon gair yn brydlon i'r Gweinid- og neu i'r Ysgrifennydd. R. MORTON ROBERTS, Gweinidog. J. R. WILLIAMS, Trefri (Ysgrifennydd). BWRDD Y GOL. CRICIETH -Rhy hwyr y tro yma. Drwg gennym. ALLAN o DDIFFIG Gof..OD.-St. Paul's, Aber- ystwyth Ysgeifiog Cwm Penmachno Gronant. At ein Darllenwyr a'n Dos- barthwyr. Hwn yw Rhifyn olaf y chwarter, ac mae'r biliau yn yr holl barseli. Diolchwn os bydd i'r derbynwyr dalu cu cyfrifon YR WYTHNOS HON i'n dosbarthwyr, fel y gallo y dosbarthwyr dalu yn ddiymdroi i ninnau. Y mae oedi y taliadau yn peri pryder ac anhwylusdod mawr iawn i ni.
[No title]
Tros Undeb. Cynhaliwyd cynhadledd yn y Memor- ial Hall yn ddiweddar tan nawdd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion er ystyried beth allesid ei wueud i gael mwy o undeb a chydweithrediad cydrhwng yr eglwyai, yn enwedig, yn yr ardaloedd gwledig. Nid oes amheuaeth nad oes ,gwastraff mawr mewn dynion ac arian ar hyn a bryd, ac nid oes ychwaith nad oes rhwystrau enbyd ar ffordd undeb gwirioneddol. Priodol er hynny yw ougla ffeithiati a'i bystyried, a phar- otoi y gor.d i-unpad undftb Cristioac^ • ol yn rhywbeth heblaw breuddwyd. Bydd gan yr Eglwys Gristionogol waith mawr o'i blaen yn y dyfodol agos. Bydd ganddi i adfer moeseg y Bregeth ar y Mynydd, a chyhoeddi o'r newydd ddelfrydau Cri&t i'r byd. Ni all wneud fawr heddyw ond gweddio, a pharotoi. Ymddecgys y byd yn rhy wallgo' ar hyn o bryd i wraudo cennad- wri y Crist. Daw yr amser y bydd yn rhaid gwrando eto arno Ef. Mewn; brawdohaefch ac nid mewn brwydr y mae gobaith yr holl genhedloedd. Wedi'r frwydr faterol hon ddarfod, bydd brwydr egwyddorion yn dechreu. Y cwbl a benderfynnir ar faes y gwaed yw nid pwy sy'n iawn ond pwy sy gryfaf. Bydd brwydr fawr pob gwlad sy n ymladd heddyw yn cael el hymladd oddifewn i'r wlad ei hun, si brwydr egwyddorion fydd honno. Cynnyrehsyniadau cyfeiliorniis yw y rhyfel wedi'r cwbl, a'r unig ffordd i orchfygu syniad anghywir ydyw dysgu sypiad cywir! Rhaid argyhoeddi gwerin pob gwlad maicariad, cytiawnder a brawdoliaeth yw eu diogelwcb., Ï)ylem groesawu pob symudiad a wna. yr Eglwys Gristionogol yn fwy o allu i greu delfrydau iachach ym mywyd yr Ewrop newydd a gyfyd o'r drychineb fawr hon.
NODIADAU WYTHNOSOL.
NODIADAU WYTHNOSOL. Y Gyllideb. Cyflwynodd y Canghellor, Mr McKen- na, ei Gyllideb yn y Ty yr wythnos diweddaf, a daw cost aruthrol y Rbyfel greulon a gwallgo' hon adref i bob teulu. Cynhwysa R102,000,000 mewn trethiant ychwanegol, a gwna hyn gyfanswm o £ 387,000,000. Profa hyn i'r byd y rhan bwysig a gymer Prydain Fawr yn y Rhyfel bresennol. Rhoddwyd derbyn- iad gweddol ffafriol i'r Gyllideb yn y wlad, dherwydd y cydsynia pawb mai gpreu po gyntaf y decbreuir talu dyled fawr a ddaw arnom drwy yr aflwydd hwn. Treih Incwm. Gostyngir y safon i godi treth incwm hyd at y rhai a dderbyniant gyflog cyson o JElSO ac ucbod. Gweithia. aMn fel y,.canlyn: Gyflog Treth Treth B-lwyddyn. 1915-1916. 1916-1917. t 2 s d J6 s d 131 0 19 9 1 3 1 150 2 14 0 3 3 0 500 36 0 0 42 0 0 1,000 90 0 0 105 0 0 5,000 904 3 4 .1029 3 4 Gwaith anodd yw cyfartalu'r baich pan y mae amodau bywyd mor anghyf- artal. Bydd gan y cyfoethog weddill sylweddol ar ol talu y dreth, a thra y trethir y dyn a enillo yn gyson P,2 10s yr wythnos, dianga cannoedd yn ddi- dreth o rai a enillant ddwbwl bynny ar hyn o bryd drwy overtime ar waith rhyfel. Trefnir i dalu y dreth os mynnir yn chwarterol, a diau y bydd yn dda i lawer wrth hynny. Trethu angenrheidiau bywyd. Trethir yn drwm iawn de, a siwgr, a llu o bethau sy'n lluniaeth hanfodol i'r gweithiwr. Mae costau byw yn awr yn uchel odiaeth, a phar yr ychwanegiadau hyn eto i ragolygon y gaeag fod yn ddu iawn i filoedd yn ein gwlad. Treth y Post, Dechreu Tachwedd nesaf, diddymir y Post Card a'r Stamp Dimai, codir pris y Parsel Post, a thelir 9c. yn He 6c, am anfon pellebr. Achosa hyn eto gryn benbleth a cholled i lawer. Cwyna ereill yn erbyn y Gyllideb oherwydd rhoddir dyrnod ynddi i Fasnach Rydd oherwydd y gosodir rhyw gymaint o doll ar rai nwyddau a gludir yma o wledydd ereill. Treth a groesawir. Ond y mae un dreth dderbynnir yn y Gyllideb hon, sef yw honno-y dieth o 60 y cant ar yr elw mawr a wnaeth rywrai oherwydd y rhyfel. Bu'r argyf- wng presennol yn gyfleustra i raib greulon wneud ei filoedd allan o ing a dioddef y misoedd poenus hyn. Cymerir ran go dda o'r elw hwn i dalu am y rhyfel, ac ni fuasai y mwyafrif yn i gwrthwynebu i'r ewbl ohonno fyned i'r un man. Diffyg mawr y Gyllideb. Ceisir rhannn r baich rhwng pob dos- barth-y meistriaid a'r gwveithwyr, amaethwyr a masnachwyr, y eyfoethog, a'r tlawd. Ond y mae un dosbarth ym Mbrydain. y rhaid ei barchu yn fwy na neb- Y Darllawyr. Ni ofynir dim rhagor ganddynt hwy! Yn ystod y chwe mis cyntaf o'r flwyddyn hon bu cynnydd anhygoel o £ 8,000,000 yn Bill y ddiod—y cynnydd mwyaf ers llawer o amser. Er fod miliynau o filwyr allan o'r wlad, ac er fod oriau ymyfed yn llai, mae cynnydd aruthrol hwn yn ffaith dorcalonus i'r eifchaf. Eto ni roddir dim yn ychwanegol ar y fasnach sy'n fwy o elyn i'r gwlad na Germani ei hun yn ol addefiad Mr Lloyd George. Trethir popeth bron ond y gwirodydd hyn. Y ffaith am daDi yw hyn-mae Haw greulon y fasnach hon ar wddf ein gwlad-yr ydym yn hollol at ei thrugaredd Buasai'n llawer hawddach talu am Y rbyfel petae'r Llywodraeth wedi bod yn ddigon dewr i roddi terfyn arni pan y torrodd y rhyfel Allan flwyddyn yn ol. Mae'n syn gennym os na bydd ar y wlad eisieu rbesymau cryfach o gryn lawer nag a roddodd Mr McKenna dros arbed y bobl hyn ————— —————
[No title]
Mf Lloyd George a Gorfodaeth. Par safle ein cyd-wiadwr enwog ar y mater hwn gryn lawer o betrusder ym meddwl ei gyfeillion. Ofnir ar brydiau! mae un o drychinebau y rhyfel fydd i werin ein gwlad golli ei harweinydd galluog. Bu ers amser yn chwarae gyda'r mater hwn, ag^l&yn hyn gosodir ef ymhlith pleidwyr Gorfodaeth Filwrol. Mae'n syn ei weled ef yn eilun ei hen elynion,-Arglwyddi Milner a Curzon Mewn llythyr o'i eiddo yn ddiweddar dwed mai mater o ffaith ac nid o egwyddor yw gorfeda-eth iddo ef. Os yw y ffeitbiau yn gyfryw fel ag i argyh oeddi y mwyaf rhagfarnllyd nad oes modd ennill y rhyfel hon ond trwy orfodaeth-yna dylem ar bob cyfrif ei dderbyn yn HaweD! Dylid bob amser wynebu ffeitbiau, ac os y gwneir hynny credwn y cedwir Mr Lloyd George a'i gyfeillion ymhell iawn oddiwrth son am! orfodaeth filwrol i'r wlad hon. Nis gwyddom pa ffeithiau cyfrin a ddichon fod yn meddiant y Llywodraeth, ond gan nad beth ydynt nis gallant new id ffeifchian sy'n amlwg i bawb. Ymunodd fwyafrif o'n bechgyn a'r Fyddin am eu bod yn ei thybio hi'n ddyledswydd arnynt i ymladd milwriaeth greulon Germani. Cysur prin iddynt hwy am eu baberth fydd gweled gorseddu milwr- iaeth ym Mhrydain wrth geisio ei lladd yn Germani. Codwyd byddin o dair neu bedair miliwn yn wirfoddol mewn blwyddyn, a rhuthrodd y miloedd ar alwad Mr Lloyd George i weithio yn y gweithfeydd milwrol. Mae gennym fwy o filwyr nag sydd o arfau ar eu cyfer. Brithir y newyddiaduron ag engrhreifftiau o grefftwyr sy wedi apelio am waith ers misoedd, ac yn aros heb waith hyd eto. Meddyginiaeth Mr Lloyd George ychydig yn ol oedd cau y tafarndai—ei feddyginiaeth yn awr yw Gorfodaeth, mewn llafur a milwriaeth. Nid oes neb yn ameu gywirdeb ei gymhellion ef, ond amheuir yn gryf fod llawer o'i gyfeillion yn fwy awyddus i ddinistrio y gyfundrefn wirfoddol nag i ennill a therfynu y rhyfel. Meddylier drachefn am safle glir llafur ar y mater. Nid oes amheuaeth pe ceisid gwthio gorfodaetb ar ein gwlad y gwelid un o'r rhyfeloedd cartrefol fwyaf enbyd yn ei hanes. Oredwa hefyd y codai fwyafrif yr eglwysi eu lief yn ei erbyn, ac y mae yn ddiogel gea^ nym tod llu mawr yn ein gwlad gyda'd a-rgyhoeddiadau ddigqn dwfn ar y mater fel ag i gymevyd eu saethu yn llawea oyn y gorfodid hwy i saethu neb aralL Mae unoliaeth a diogelwch ein gwlad mewn gadael pethau fel y maent, mor wir ag fod dinistr y methiant yn ei haros os ? ceisir gwthio gorfodaeth arni. Yr ydym wedi diolch llawer am Mr Lloyd George fel arweinydd a chyf- aiU y werin; nid oes neb a eniHodd ei cblust a'i chalon fel efe, ac nid oes neb y mae'n fwy parod i'w ddilyn eto nag efe, ond credwn yng ngeiriau un arall, na wrendy'r werin ddim ar Arglwydd Milner hyd yn oed pe llefarai drwy enau Mr. Lloyd George -—————
Advertising
GOREU ARF, A ARF DYSG. ) CYKHELIR Eisteddfod Nadolig Treffynnon, Mercher, Rhag. 22, 1915. Ceir manylion pellach gan yr Ysgrif- ennydd. yn fuan- R. GWFSPYR JONES, High Street, Holywell.