Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
SPECIAL SHOW —————— 9 Of LADIES, MAIDS & GIRLS JACKETS, PALETOTS & DRESS SKIRTS. Light Grey Cloth Jackets. Light Fawn Cloth Jackets. Black Cloth Jackets. Black Caracul Jackets. Grey Caracul Trimmed Kid. v Maid's Long Jackets in Grey and Light Checks. Dress Skirts in Heather Tweed, Navy and Black. Motor Caps in great variety-White, Red, Greys, Navy, Brown, &c. The Mercia Ladies Hat at 2s lid. Few trimmed Felt and other Hats-a well selected lot! Shirt Blouses just in for the coming Season. A CALL IS RESPECTFULLY SOLICITED AT Shop-yr-Eryr, 81. Festiniog, and Maentwrog.
AT EIN GOHEBWYR. J
AT EIN GOHEBWYR. J NODWR O'R MAEN.—Heb enw priodol. I IF,LYGADOG. -Dan ystyriaeth. RICHABD JONES, FOUUCROSSES.—Cymeradwy. Yn ein nesaf. I CR^GHOK YR EGLWYSI EHYDDION.—Drwg I genym fod dan orfodaeth i'w adael allan hyd yr wythnos nesaf. ¡
NODIADAU WYTHNOSOL.I
NODIADAU WYTHNOSOL. I Ar yr enw yma y gelwir un o Ethol- i Etholiad Barkston Ash. aethau Caer e fro g Orllewinol yr hon hyd yn awr a gyfrifid yn un o amddiffynfeydd cadarnaf y Toriaid, Dydd Gwener diweddaf enillwyd hi gan y Rhyddfryd- wyr, y rhai a gawsant fuddugoliaeth nodedig iawn. Mae'r ffigyrau a ganlyn yn werth sylw ac ystyriaeth, oblegid y mae yn eithriadol. Etholwyd yr aelod diweddar, Syr Robert Gunter, yn 1885, pan oedd ei fwyafrif ar yr ymgeisydd R13Vddfrydol yn 1906. Yn etholiad 1892 gwrthwynebwyd ef draehefn gan Eyddfrydwr, ond yn ofer, oblegid yr oedd mwyafrif Syr Robert yn 1,241. Byth er hyny, cafodd lonydd; barnodd y Rhyddfrydwyr mai gwaith ofer fuasai iddynt ei wrthwynebu. Ond ar ei farwolaeth, dygodd y Toriaid Mr. Lane Fox fel ymgeisydd, a gwrthwynebwyd ef gan Mr. Andrews, Rhyddfrydwr cwbl iach. Gwnaeth Mr Lane Fox ymdrech galed i enill y sedd, O'r braidd yr oedd yn cyfrif fod dim yn ormod iddo ei wneyd. Ddwy flynedd yn ol yr oedd yn ddisgybl aiddgar iawn i Mr. Cham- berlain ac yn ddiffyndollwr mor rhonc a'i athraw, end yn fuan wedi dechreuad y frwydyr sydd erbyn hyn drosodd gwelodd nad oedd eysgod o obaith y Ifwyddai oni chefnaf ar y gwr o Birmingham gan wadu yr athrawiaeth yr oedd wedi ei phleidio mor selog. Gwnaeth hyny, gan waeddi yn groch yn mhob man yr elai iddo na chytunai ef byth i dolli bwyd y bobl. Ond ofer fu ei waith. Dydd Gwener trodd y mwyafrif oedd gan y Toriaid o 1241 yn fwyafrif Rhyddfrydol o 228. Rhoddwyd i Mr. Lane Fox agos gymaint o bleid- leisiau ag a. gafodd ei flaenorydd yn 18C2 tair-a'r-ddeg yn llai a gafodd. Ond chwyddodd y bleidlais Ryddfrydol o 2,920 yn 18^2 i 4,376 yn 1905. Dyma atebiad pobl Barkston Ash i apel Mr. Lane Fox i'w ethol i'w cynrychioli hwy ac i gefnogi y Llywodraeth yn Nhy y Cyffredin. Os gall Mr. Balfour a'i blaid wneyd y ffigyrau hyn yn fiynon o'r hon i dynu cysur iddynt eu hunain, y mae croesaw iddynt wneyd hyny. Ond nis gallant Er nad addefant y maent yn gwybod nad yw amgen nag un arwydd sicr arall o'r gorchfygiad llwyr a gant gynted ag y caiff y wlad gyfie i wneyd yr hyn y mae yn ewyllysio ei wneyd. Gwelodd hyd y nod y Times nas- Yr Arweinwyr Rhyddfrydol. gallai anwybyddu yr Etholiad yma, a dywed ei fod yn dangos fod vr etholwyr wedi Ilwyr-Bino ar y Weinycl?l- iaeth bresenol, ond nad yw yn profi fod ) ganddynt ymddiried yn Arweinwyr yr Wrthblaid. Nid yn fynych y byddwn yn cael ein hunain yn cytuno a'r Times ar faterion fel hyn, ond y waith hon yr ydym o fewn ychydig i gytuno ag ef. Teimlwn, er's llawer o fisoedd bellach, fod yn hen bryd i Arweinwyr yr Wrth-blaid wneyd eu bwriadau yn fwy hysbys i'r etholwyr nag y maent wedi gwneyd hyd yn hyn. Er nad ydym yn credu y byddai yn ddoeth iddynt gyhoeddi rhaglen hir o'r materion y bwriadant eu cymeryd mewn llaw pan roddir iddynt fwyafrif yn Nhy y Cyffredin, barnwn y dylent ddywedyd yn eglur beth a fwriadant ei wneyd ynglyn a rhai materion pwysig. Cyn belled ag y mae a wnelont a chyfundrefn fasnachol (fiscal system) y deyrnas, ni raid iddynt wneyd dim ond gadael llonydd iddi, ond y mae genym hawl i wybod bellach pa beth y maent yn feddwl ei wneyd ynglyn a Deddf Addysg 1902 a Deddf Gorthrech 1903, a Deddf Trwyddedau, a Llafur Chineaid yn y Transvaal. Pe siaradent yn glir ac yn foddhaol ar y cwestiynau hyn enynid sel Rhyddfrydwyr y wlad drwyddi draw, a chanlynia.d hyny fyddai gwneyd yr Etholiad Cyffredinol pan y daw yn fuddugoliaeth fwy i'r Rhyddfrydwyr nag a gawsant yn nghof neb sydd yn fyw. o Dydd Mawrth chwanegwyd un at nifer Ysgol Gwrthryfel "I arall. yj "Ysgol- ion wrth raid" sydd wedi eu hagor yn Meirion, fel y maent yn awr yn bump mewu nifer. Ceir hwy yn Llandecwyn, Carrog, Llawr y Bettws, Gellilydan, ac (yn awr) ger Ynys Domos, Trawsfynydd. Mae hyn yn dangos fod Pwyllgor Ymgyrch Meirion yn gweithio yn ddyfal ac yn effeithiol er mai ychydig o swn a wna, ac yr ydym yn ei longyfarch ar lwyddiant ei ym- drechion. Golyga agoriad yr ysgol newydd hon gauad ysgol Eglwysig Ynys Domos. Dichon na chymer hyny Ie am ychydig wythnosau, ond y mae ynhollol sicr ac anocheladwy. — o Bu Mr. Carnegie yn anerch myfyrwvrl Mr. Andrew Carnegie. Prif ysgol Glasgow dydd Mawrth, a thraddododd araeth sydd yn i?icr o dynu sylw cyffredinol. Ni ddarfu i John Bright a Henry Richard erioed gondem- nio ffolineb a drygioni ysgeler rhyfel mewn geiriau cryfach nag a arferodd ef dydd Mawrth. Wedi gwneyd hyny, a dal ar y symiau anferthol a werir bob blwydbyn gan y wlad hon a gwledydd eraill i gynal eu byddinoedd a'u llynges- oedd, gofynodd ond yw yr amser wedi dyfod i rai o'r prif-alluoedd ffurfio Cyng- rair Heddwch gyda'r amcan o ddwyn teyrnasoedd gwaraidd y ddaear i ben- derfynu y dadleuon a godant rhyngddynt o bryd i bryd ynghylch gwahanol arfer- ion mewn dull mwy rhesymol a dynol na thrwy ladd en gilydd fel bwystfilod gwylltkxn. Yna apeliodd at y Brenin lorwerth o Brydain a'r Ymherawdwr Gwilym o'r Almaen i gymeryd y flaen- oriaeth yn y gwaith da yma. Pan mae gwr a'i gysylltiadau y fath ag ydyw cysylltiadau Mr. Carnegie yn llefaru geiriau fel hyn, ac yn eu llefaru nid mewn araeth fyr-fyfyr ond mewn araeth wedi ei pharotoi yn bwyllog ac yn ofalus y mae gobaith y ceir rhyw symudiad yn mhlith llywodraethwyr y gwledydd yn y cyfeiriad yma. Pe gwnai ein Brenin ac Ymherawdwr yr Almaen yr hyn a awgrymwyd gwnaent wasanaeth an- mhrisiadwy i'r ddynoliaeth a enillent glod mwy nag a enillodd neb erioed a chlod mwy nag a enilla neb byth trwy dywallt gwaed dynol. o Pwy sydd nad yw yn adnabod yr enw W. H. Smith a'i Feibion. yma yr hwn a welir mewn cynifer o orsaf- oedd rheilffyrdd yn mhob rhan o'r wlad. Ni welir ef yn ngorsafoedd Cwmni Rheilfforda Llundain a'r Gogledd-Or- llewin ar ol y dydd olaf o'r flwyddyn hon gan fod Cwmni arall wedi prynu yr hawl a dalwyd gan W. H. Smith a'i Fcibion am 56 mlynedd. Ar ol y dydd a nodwyd, gan y Mri. Wyman a'i Feibion yn unig y bydd hawl i werthu llyfrau a newyddiaduron yn ngorsafoedd, y Cwmni a enwyd. Gellir bwrw eu bod wedi cytuno i dalu am yr hawl bris mwy nag yr oedd y Mri Smith yn foddlon i'w dalu. Ehaid fod y cyfnewidiad yn peri nid ychydig bryder i'r miloedd sydd yn gwasanaethu y Mri. Smith, er ei fod yn rhesymol i ni gredu y cymerir hwy drosodd gan y Cwmni newydd. —o Bu yr actwr enwog fawr yn ddisymwth MarwoSaeth Syr Henry Irving. yn Bradford yn hwyr nos Wener. Nid cynt y cyr- haeddodd y gwesty yr arhosai ynddo, ar ei ddyfodiad o'r chwareudy, nag yr ehedodd ei ysbryd ymaith. Edrychai holl actwyr y deyrnas arno fel eu penaeth, ac yr oedd iddo yn nghyfrif y wlad le amlwg yn mysg ei henwogion penaf. Fel actwr cyfrifir ef yn gydradd a dweyd y lleiaf, a Garrick, Kemble a Siddons y rhai a aethant oi flaen, a rhoddir lie bedd iddo yn Abaty West- minster heb fod yn mhell oddiwrth fedd Shakespeare fawr, Yr oedd yn wr a fawr hoffid gan y rhai a ddilynant yr un alwedigaeth ag ef, oblegid yr oedd yn hynaws a charedig dros ben tuag at y distadlaf o honynt, ac yr oedd yn enwog am ei barodrwydd i estyn cymorth i rai mewn caledi. Efe dybygwn, oedd vr actwr cyntaf i gael ei anrhydeddufa theitl gan Deyrn Prydain Fawr. -0 Aeth y gair allan fod yn mryd Eglwys Eglwys FSydd y Cymry." Rydd yCymry i ymgysyllu aw Anibynwyr, ond y mae yn amheus lawn genym a oes rhyvvbeth yn y peth. Ymholodd gohebydd y Liver- pool Daily Post ct Mercury" a gwyr ag y gallesid disgwyl iddynt wybod, ond ni fynant hwy gydnabod fod sail i'r ad- roddiad. Yr un pryd, sylwn nad oedd eu gwadiad yn bendant iawn. Cyn belled ag y gwyddom, nid yw Eglwysi yr enwad dan sylw wedi tynu allan gyfansoddiad iddynt eu hunain. Ni chamgymerwn wrth ddweyd eu bod fel y maent yn awr yn Eglwysi Anibynol yn ymarferol, er nad ydynt felly mewn enw. Hwyrach y ceir clywed mwy am danynt ar fyrder.
Undeb yr Anibynwyr Cymreig.
Undeb yr Anibynwyr Cymreig. Rhaglen y Cyfarfodydd Blynyddol yn Ffestiniog. I Cynhelir yCyfarfodydd Gorphenaf 9ted, lOfed lleg a'r 12fed, 1906. Er mwyn cyfleusderau Ileal trefnir i gynal dau Gyfarforl Dirwefctol nos Lun, Gorphenaf 9fed— un yn y Blaenau, a'r Hall yn Llan, Ffestiniog, Llywyddion, Mr. W. G. Owen, Metropolitan Bank, Llanrwst, a Dr. Rocyn J ones, Abertileri. Arefthir ga-n y Parch J. M. Williams, Towyn. ar Ddirwest yn ei pherthynas a Sefydliadau Addysgol;" y Parch E. C, JJavies, Ynyshir, ar Wasauaeth y Chwi oi- i .I Sobreiddio Cenedl y Parch J. Lewis, Libanus, ar Y dyn Ieuanc Sobr y Parch T. T. Jones, Maendy, ar 'Hawliau a Gwaith Dineswyr Crefyddol yn y Llysoedd Trwydded- ol Y Parch H.- Evnon Lewis, BryrcSthio, ar 4 Ddirwest fel un o Ffv wythau yr \rsbryd v Parch J. Rhydderch, Waenfawr, ar YModdion effeilhiolaf er Dyogelu y Dychweledigion rhag temtasiynau Ymyfed.' Am 7 o'r gloch, boreu Mawrth, Gorphenaf lOfed, cynhelir Cyfarfod Gweddi, o dan iywydd- iaeth y Parch Edward Morris, y Dyffryn. Am 10.30 cynhelir Cyfarfod y Gronfa cwblheir y trefniat^iu yn mhellach yn ml a en. Am ddau o'r glocb. bydd Cynhadledd Busnes, o dan lywyadiaeth Cadeirydd yr Undeb. Am 7 o'r gloch oherwydf? cyfleusderau y lie traddodir Pregethau yr Uadeb mewn dau gape!, gan y Parchn J. Da vies, Cad'e H. Ivor Jones, Caer J. Rogers, Pembre a T. Reea, Sirhowi. Am 9.30 boreu ddydd Mercher, Gorpheaaf lleg, traddodir yr Anerchiad o'r Gadair, gan y Parch Job Miles, Aberystwyth, Cadeirydd am y flwyddyn. Ar derfyn yr anerchiad, gwein- yddir yr Ordinhad o Swper yr Arglwycld, o dan arweiniad Mr. Miles, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch R. Evans, Penmain. Am 2 o'r gloch, cynhelir Cyfarfod Cenhadol o dan lywyddiaeth Mr. Daniel Lloyd, Abertawe. Darilenir Papyr gan y Parch G. Griffiths, Drefnewydrl, ar • Y Casgliad Cenhadol,' Siaradir gan y Parch W. Hopkyn Rees, China, a disgwyhr y cenadon Cymreig eraill fydd yn y wlad i fod yn bresenol Am 7 o'r gloch, cynhelir y Cyfarfod Cyhoeddus, o d>m lywyddiaeth Mr J. E. Jones, Tylorstown, Areithir gan y Parch Rowland Hughes, B.D., Bangor, ar Lais Morgan Llwyd at ein hoes ni;' y Parch E. Evans, Llanbedr, ar Fywyd y Gweithiwr yn ngoleuni Deffroadau Cymru yn ystod y Deugain mlynedd diweddaf a'r Parch H. M. Hughes, B A., Caerdvdd, ar Ofynion presenol yr Ymdrech vnglyn ag Addysg Gen- edlaethol Cymru.' Ni chynelir Cyfarfod ad- ranol yn nglyn ag Addysg, ond ceir araeth ar y cwestiwn yn y Cyfarfod Cyhoeddus. Cynygir penderfyniad ar Addysg gan y Parch J. Thomas Merthyr, ac eilir gan Mr. Josiah Thomas, Lerpwl. Bydd y gweddill o'r trefniadau ar gyfer y pregethu dydd Ian, Gorphenaf 12fed, yn nghofal y Pwyllgor lleol. Y mae pwyllgor cryf-70 mewn nifer—wedi ei ethol, an y mae hwnw wedi cyfarfod ddwy waith i diewis swyddogion, &c., y rhai ydynt :—Llywydd, Parch J. Rhydwen Parry islywydd, Mr. D. G. Williams trysorydd, Mr. W. C. Williams ysgrifenyddion, Parchn John Hughes, R. Talfor Phillips, a Mr. Lewis Thomas.
ILLWYDDIANT MEDDYGOL.
LLWYDDIANT MEDDYGOL. DR. T. J. CAREY EVANS, M.R.C.S. (ENGLAND). L.R.C.P. (LONDON). Bydd yn newydd da o lawenydd mawr gan ddarllenwyr y RHEDEGYDD, ddeall fod y myfyriwr meddygol ieuanc Mr. T. Carey Evans, mab y meddyg adnabyddus Dr. R. D. Evans, Y.H., wedi myned yn llwyddianus ac anrhydeddus drwy ei arholiad terfynol fel Member of the Royal College of Surgeons, a Licentiate of the Royal College of Physicians ac felly wedi enill ei M.R.C.S (England) a'i L.R.C.P. (London). Afraid yw adgofio ei adnabyddion o'i gamrau breision ac eithriad- ol lwyddianus yn ystod ei gwrs athrofaol, yr anrhydeddau a sicrhaodd, a'r gwobrau en- nillodd, a'r safleoedd 'gyrhaeddodd yn ei dd'osparthiadau, ac wele efe wedi myned drwodd mor gynar ar ei fywyd ag y caniat- eid iddo fyned gan nad yw heddyw ond newydd droi ei un-ar-hugain oed. Hyderwn y bydd i'r llwyddiant hwn yn achos ei fab addawol fod yn foddion i leddfu ychydig ar alaeth ei dad ar ol ei briod, a'i ddyfodiad adref yn beth cyfraniad at lanw y bwlch a'r gwagder mawr a deimla. Cyn yr ymddengys y llinellau hyn bydd wedi cyrhaedd i'n iplith, a dymunwn gyflwyno i Dr. Carey Evans longyfarchiadau gwresog a dymuniadau am hir oes o ddefnyddioldeb niawr.-Cyfaill.
MARWOLAZTH MR. ROBERT WILLIAMS,…
MARWOLAZTH MR. ROBERT WILLIAMS, SHOP, MAENOFFEREN.. Bra.vychwyd yr ardal y Sadwrn diweddaf, gan y newydd fod y gwr tawel a charedig uchod wedi myned ffordd -yr holl ddaear. Yr oedd yn ymddangos yn ei iechyd aijferol pan yn myned allan o'r ty yn y boreu. Aeth i'r farcbnadfa oddeutu haner awr wedi un-a'r-ddeg, a tharawyd ef yn wae!. Clud- wyd ef gartref, a gweinyddwyd arno gan gynorthwywyr Dr. Jones, ond er pob ymdrech ehedodd ei ysbryd at yr Hwn a'i rhoes boreu Sadwrn. Brodor o ardal Llandderfel oedd Mr. Williams, ond daeth i'r ardal hon 25 mlynedd yn ol, ac enillodd iddo ei hun lu o gyfeillion trwy ei fywyd distaw a chymwynasgar. Bu yn aelod ffyddlawn a ga,eit,igar vn Eglwys y Tabernacl am flynyddau lawer, a phan ddechreuwyd yr achos yn Maenofferen taflodd ti hunan i waith, a bu yn ddefnyddiol iawn gyda phethau ailanol yr Achos. Daeth tyrfa fawr yn nghyd prydnawn Lluo i dalu y gymwynas olaf iddo. Claddwyd ef yn myntvent Bethesda, pryd y gwasaoaethwyd yn effeithiol gan y Parch H. Harries Hughes, B.A., B D. Gadawodd briod a pedwar o blant i alaru eu colled-meibion iddo ef ydynt Mri. Thomas a John Williams, Swyddfa'r Glorian. Y mae ein cydymdeim- lad dyfnaf a Mrs Willimas a'r teulu yn eu profedigaeth lem ac annisgwyliadwy. -I
[No title]
Y mae tuag ugain o bregethwyr ieuanc y Methodistiaid yn sefyll eu haroliad ordeinio yr wythnos hon yn Mangor.
Advertising
MAE.. JjgS RHAID ?T??S?!??k? ? (???\ ?? V I I f ° ,1, GWAEO. Y Gwaed ywlr Bywyd. Y Gwaed yw'r Nerth. Y Gwaed yw Pobpeth. Y mae pawb-y chwi yn eu mysg-yn ag-ored i nife! fawr o glefydau, Paham felly ? Am fod Anmhurdeb -,T -A,,?yr Anmhnrdeb y Dwfr, Anmimrdeb Bwydydd, ao Anmhurdeb pethau amgylchynol yn cren Anmhnrdeb v GWAED. A phan bydd y GWAI5D Y.'I ei I.Ygr-u ali wenwyno, m?e yn gwneyd yn bosibl i'r SCURVY, TARDDIANTAU Y CROEN, RASH, PENDDYNOD, CORNWYDON, ECZEMA, f LLYGRIADAU, COESAU CLWYFEDIG RHEUMATISM, NEURALGIA, A llu o Glefydan eraill y Corff a'r Ymenydd, i rnthro a. wahanol ranau o'r eyfansoddiad. Fe ellir atal a raagflaena y rhan fwyaf or olefydan sydd ynblino yr hil ddynol, drwy gadw y GWAED yn BUR. Y mae miloedd yn barod i dystio a phrofi fod HUGHES'S ,ir,Wuir.4 H kc YN PURO Y GWAED, AC YN EI GADW YN BUR. Mynwch weled llun y Galon ar bob box Heb \fi hyny Twyll ydyw. Os byddweh yn dioddef oddiwrth DOLUR PEN, DIFFYG TRAUL POEN Y CEFN, BILIOUSNESS, GWYNT, ISEL YSBRYD, AFU DDRWG, CORFPRWYMEDD, NERVES EGrWAN, ANHWYLDERAU Y CYLLA A'R ARENAU. Cofiweh fod gwreiddyn y drwg yn y GWAED, a bod va rhaid myned at y GW AED cyn y gellir cael iachad gwirioneddol. Mae HUGHES'S BLOOD PILLS yn cael effaith uniongyrehol ar y GWAED, ac ar yr holl gyfansoddiad. Rhoddwch brawf arnynt. Ar werth gan bob Chemist a gwerthwyr Patent Medicine am Is lie, 2s 9c, 4s 6c, neu danfoner en gwerfch mewn Stamps neu P. O. at JACOB HUGHES, M.P.B., L.D.S., Manufacturing Chemist, Penarth, Cardiff. ?'   ?' i?? ? ??J\J ■■  r .t<1\  Rhoddwch brawf ar Gomer's. Ba!m ■ Palm MAE "GOMEKS BALM" YN ELI AT BOB CLWYF, AC YN IIYNOD AC ANFFAELEDIG- AT BOB MATH 0 GLEFYDAU ALLANOL Y CWXF. A oes genych Goes ddrwg. Y mae GOMER'S BALM yn iachan y Clwyfau hyn braidd yn wyrthiol. Hefyd Archollion, Erysipelas, Llosgiadau, Tarddiantau y Onawd, Exzema. Cedwir Hawer Aelod. Drwy ddefnyddio GOMER S BALM. Y mae yn iachan: Crach ar y Pen a Gwynebau Plant, Yscaldanau, Piles, Llygriadan Plant a Benywod, Malaethau, Tarwdeu. Traed Chwyscdig, Gout, Gwynegon, Scurvy. Blood Poison. Gair at Famau, Gweithwyr Haiarn, Alcan, Glo, Cerriar Ffermwyr, Morwyr, Engineers, Ymdeithwyr, Crefftwyr 0 bob math. ni ellir cael dim mor effeithiol a sicr a Gomeris Balm, at bob Archoll a Damwain i'r Cnawd, a sicrhad d Poison marwol. SYNDOD YN SWYDD DEVON. Syr.-Mae eich Eli, sef Gomers Balm, yn feddyginiaeth rhyfedd o effeithiol. Fe gafodd wyr i mi ei ysgaldanu yn ddrwg iawn yn ei gefn a'r bol. Fe gafodd y Gamer's Balm, ei roddi arno mor fuan ag oedd yn bosibl, yn mhen, yr wythnos yr oedd yn abl I'w gael ei wisgo, ac yn bur fuan yr oedd ei wellhad yn drwyadl. Ar of hyny fe gafoddfy merch ymosodiad Ilym iawn can y Blast (neu Erysipelas) ar ei choes, ar ol dioddef am chwecli wythnos aeth o dan driniaeth Doctor, yr hwn wnaeth mawr ddrwg iddi. Wedi hyny hi a ddefnyddiodd Comer's Balm,, yr hwn a'i gwellhaodd mewn ychydig ddyddian. Mae dwseni wedi bod yn gofyn am enw yr eli, ac y mae pawb wedi ei brofi yn anmhrisiadwy. Mae yn "bifcy" nad yw pawb ddim yn gwybod am dano.- H. LEWIS, Brixham, Devon. CLWYF GYMAINT A SAUCER. Syr.-Ni allaf byth ddiolch digon am eich Corner's Balm, y mae yn iaciau fy nglun yn gyflym iawn. Mae fy nglun wedi bod yn ddrwg iawn am bum' mlynedd. elwyf mawr cymaint a saucer, ac yn boenus iawn, pawh yn rhyfeddu fy mod yn fyw, mae wedi esmwythau y poen yn rhytedd. Yr wyf wedi gwario punoedrt lawcr i ddim. diben. Fe ddylai pawb wybod am dano. J. BUTLER, Dale-end, Darlaston. Rhodder Prawf arno. Gofyner am Gomer's BaSm. Na thwyller chwi, mynweh weled enw "JACOB HUGHES" ar bob blwch. Ar werth gan bob Chemist pen werthwr Patent Medicine am Is lie., neu danfoner eu gwerth mewn Stamps neu P, O. i'r gwneuthurwr, JACOB HUGHES, &¥?.P.S,L.D.S, MANUFACTURING CHEMIST, 4a6 PENARTH, CAIFF.