Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
* CYNGHOR GWLEDIG DOLGELLAU.
CYNGHOR GWLEDIG DOLGELLAU. Cynaliwyd dydd Sadwrn, Mr Morris Evans, Egryn, yny gadafr.—Cynygiodd y Cadeirydd gydymdeimlad a gweddw Mr William Jones ar farwolaeth ei gwr, yr hwn oedd yn swydd- og gyda'r Cynghor.—Cefnogodd Mr Owen j Jones, a chariwyd yn unfryd.-Gwnaeth y Cynghor drefniadan i gael dyn yn He Mr Jones. Pasiwyd fud i'r ymgeisydd fod o dan ddeugain mlwydd oed, ac i gael yr un gyflog, ac iddo basio yr arholiad priodol yn mhen blwyddyn o amser.—Daeth tri chynygl mewn am gario y carthion yn Llwyngwril. Der- byniodd y Cynghor gynyg Mr Morgan Ed- wards, Llwynsrwril, am up.—Dywedodd y Swyddog Meddygol (Dr Hugh Jones) ei fod wedi chwiJio dyfr-gist oedd yn Nhlotty Dol- gellau, a'i fod wedi rhoddi gorchymyn iddynt wneud gwelliantau yno. i'r oedd yn dys- gwyl y gwneid hyny yn fuan. Dywedodd fod un dan y frech goch yn Penmaenpool ao un arall dan y dwymyn ysgarlad yn y Gan- llwyd, ond nid oedd y naill glefyd na'r llall yn drwm iawn.
MARWOLAETH SYDYN YN PLYMOUOTH…
MARWOLAETH SYDYN YN PLYMOUOTH PA. Plymouth, Pa, Mai 9.—Tua II o'r gloch, bo farw gyda sydynrwydd QcS taflu y gymy- dogaeth i brudd-dc-, bu farw Mrs John J. Jones, Gardner St. Merch ydoedd i Griffith ac t'lzibeth Roberts, Trawsdir, Gorwydd, Brithdir, Sir Feirionydd. Ymbriododd yn Dolgellau 29 mlynedd yn ol gyda John J. Jones, 0 Dan y Fynwenfc, Llanberis. Ym- fudasant i'r wiad hon 22 0 flynyddau yn ol, gan ymsefydlu yn Bangor, Pa, ac oddiyno symudesmt i'r lie hwn tua deg mlynedd yn ol. Yr oedd yn un o aelodau ffyddlonaf y T C., ac yn ymyl 48 mlwydd oed. --Drych.
OYMRU A'R MESURAU ADDYSG.
OYMRU A'R MESURAU ADDYSG. Mesur Esgob Llanelwy a Mesur yr Awdurdodau Lleol Cyhoeddus. Dywedir, a hyny oddiar yr awdurdod oreu fod trefniadau wedi cael eu gwneud trwy yr hwn y byjid i Fesur Diwygiadol Esgob Llan- elwy, ar Addysg gael ei gynyg yn Nhy yr Arglwyddi yr wythnos gyntaf yn Gorphenaf. Nid ydyw y diwrnod wedi cael ei nodi eto, Yn y cyfamser, y mae y Llywodraeth mewn anhawsder gyda golwg ar Fesur Addysg (yr J Awdurdodau LIeol Esgeulus). Y mae ail ddarlleniad y mesur hwn i lawr ar lyfr yr archebion am ddydd Gwener, yr wythnos hon; ond dywedir na bydd iddo gael ei gymeryd ar y dyddiad hwnw; ac fel y mae pethau yn sefyll yn awr, gellir ei 5 styried I wedi cael ei ohirio hyd amser anmbenodol,
NEWYDDION. j
NEWYDDION. j Bydd Undeb yr Annibynwyr Cymreig yn { cael ei gynal yn Mangor, yr wythnos nesaf. j Dysgwylir cynulliad lluosog n weioidogion a Ueygwyr 0 wahanol ranau o'r Dywysogaeth. Yn. arddangosfa fawr St Loais ceir darlun- iau 0 ebwarelan a mwngloddiau tanddaearol Gogledd Cymro, wedi eu cymeryd gan Mr G J Williams, un o arolygwyr y llywodraeth. Dywed Mr Bircham fod tlodioc wedi lleihau yn Ngogledd Cymru mewn deng mlynedd gymaint a naw ar hugain y cant, ac yn Undeb Llanfyllin bedwar ar hugain y cant. Yr oedd lleihad 0 dri y cant yn y ireuliau yn Ngogledd Cymru, a denddeg y cant yn Undeb Llanfyllin, yn ystod yr an cyfnod Yr wythnos ddiweddaf collodd Mr Osmond I t Williams ei fam, yr hon a fu farw yn LIun- dain, yn 84 mlwydii oed. Yr oedd Mrs Williams yn weidw i Mr David Williams, A.S, CtJstell Deadraetb, yr hwn a lwyddodd am y waith gyntaf i enill sir Feirionydd i'r t Rhyddfrydwyr. Aeth dau ddyn o'r enw Daysan, 18 mlwydd oed, a Bryant, 26 mlwydd oed, ar bleserdaith In Penybont-ar-Ogwy i Porthcawl dydd Mercher, ac ni cbafwyd dim oIu hanes yn ystod y dyddiau dilynol. Tybir eu bod wedi boddi. Hysbyswyd clerc pwyllgor addysg sir Feir- ionydd, gan y Bwrdd Addysg, y bydd i ym- chwiliadau gael eu cynal mewn cysylltiad ag ysgdion gwirfoddol Aberdyfi, Towyn, Llan- f air, ar yr 20fed a'r 21ain 0 Gorphenaf, mewn canlyniad i'r gwrthwynebiad oedd yn cael ei godi gan y Oynghor Sirol yn erbyn darpa iaethau neillduol yn yr archebion terfynol. Y mae'r trefniadau tuag at agor Capel Coffadwriaethol Ann Griffiths wedi eu cwbl- hau: Cynbelir cyfarfodydd pregethu nos Iau, a thrwy ddydd Gwener, Gorphenaf 7fed a'r 8fed.
MARWOLAETH ARGLWYDD HARLEOfT.
MARWOLAETH ARGLWYDD HARLEOfT. I Bu farw Arglwydd Harlech yn Llundain, forea Sul. Efe oedd yr ail i ddwyn y teitl. J Mab ydoedd i William Ormsby-Qore, a'i fam oedd Mary Jane Ormsbyj merch ac aeres Owen Ormsby, gwr Margaret Owen, Bro- I gyntyn, sir Amwythig, a Chlenennau, sir Gaernarfon. 1'1' teulu olaf yr oedd Syr John Wynn, y Brenhiniaethwr enwog yn amsar y Rhyfel Mawr, yn pertbyn. Ganed Arglwydd Harlech yn 1850, a pbriododd yr Arglwyddes Emily Charlotte, ail ferch Syr G F Seymour, achwaer Ardalydd Hertford. Ba'n Seneddwr dros Sligo, Iwerddon, o 1841 hyd 1852, a i thros Leitrim, Iwerddon, o 1858 hyd nes aeth i Dy'r Arglwyddi yn 1876. Efe oedd pen- I aeth y Seiri Rhyddion yn Ngogledd Cymru. Ei fab, Mr G R 0 Ormsby-Gore, yr aelod Toriaidd drcs Groesoswallt, ddaw i'r teitl yn ei le. Bydd etholiad feliy yn Nghroesoswadt. Yr oeddJJ y mwyafrif Toriaidd yn i90i yn Yr oeddJJ y mwyafrif Toriaidd yn i90i ya 1,088.
CORRIS.
CORRIS. Drwg genym orfod cofnodi marwolaeth Mr Humphrey Davies, Corris. Gwr da a blaenor gyda'r M.C. am dros 30 mlynedd Yr cedd hefyd yn Ynad Heddwch. Y Rechabivd. Nos Fercher diweddaf, yn Nghapel Salem, cynaliwydcyfarfoder sefydlu canghen o'r gymdeithas hon. Llywyddid gan y Parch W T Ellis, B. D, Sylwai mai mantais neilldnol ydyw Cymdeithaa y Rechab- iaid i hyrwyddo achos dirwest yn y wlad, ac felly gefnogi buddianau goreu cymdeithas. Dyweaai y Parch Rhys Davies (A), fod y I gymdeithas yn unragorol i gychwyn plant yn ffordd sobrwydd, yn fanteisiot i iechyd, ac i hirhoedledd. Dadleuai Mr E L Rowlands, Aberdyfi, mai Cymdeithas y Rechabiaid ydyw y gymdeithas agosaf at Gymdeithas yr Eglwys Gristionogol. Mae y Rechabiaid wedi llwyddo er eu cychwyo, ac yn ddfau i lwyddo I eto yo y dsfodol. lionai Mr Jenkins, Aber- ystwyth (ysgrifenydd Cymdeithasau Rechab- iaid y dosbarth) mai nodwedd wahaniaethol y gymdeithas yma ydyw "lIwyr ymwrthod- iad." Anfantais fawr ydyw cychwyn cym- deithas o'r enw y Rechabiaid, heb ymuno &'r Urdd. Anaml, os yn wir 0 gwbl, y bydd i gymdeithasau a ymunant &'r Urdd yn methu. Penderfynwyd yn y diwedd ffurfio 'pabell,' a chaed pymtheg i arwyddo. Dewiswyd Mr John Griffith, Ffynonbadarn, i ymohebu ag ef, hyd nes y dewisir swyddogion. 0
IJ..,U.J d U [\,11. U JLD…
I J.U.J d U [\,11. U JLD 1\14 VV U U VV x Dydd Gwener, o flaen R Wynne Willitms a John Jones, Ysweiniaid, cyhuddwyi Wil- liam Morris, crwydryn 0 Caerdydd, gan Supt Jones 0 dori i mewn i Glyn Cleifion cottige, Mallwyd, nos Iau, y 231in o'r mis hwn, a liadrata llaeth ac ymenyn oddiyno. Erlynid gan Mr R Guthrie Jones. Dewisodd y carcharor i'r Y nadon wrando yr achos, yn hytrach nag iddo gael ei daflu y i'r Frawdlys Chwarterol. Sydney Bailey, y tenant, a dystiai iddo weled y ffenestr wedi ei hagor bore draaoeth, a llaeth ac ymenyn wedi eu liadrata. Cyhuddwyd y carcharor hafyd 0 fod o gwmpas y Rectory, Mallwyd, gyda bwriad anghyfreithlawn. Mr Charles Thomas a dystiai iddo waled y carcharor am 3-30 bore Gwener, yn cais: 0 tori i mewn trwy ffenestr y cellar. Gsvaedd- odd, a diangodd y carcharor. P.O. Williams, Dinas, a dystiai iddo ddal y carcharor yn Aberangell, y bore liwnw am z5 5-30, ac iddo gael yr ymenyn yn ei feddiant. "Plediodd yn euog i'r ddau gyhuddiad, ac anfonwyd ef i garchar am 3 mis am bob un o'r ddau gyhuddiad
Y FRAWDLYS CHWARTEROL.
Y FRAWDLYS CHWARTEROL. Cynhiliwyd Brawdlys Chwarterol Meirion yn Nolgellau ddydd Mawith 0 flaen W'R M Wynne, Ysw. (Cadeirydd), Co). Evins-Lhyi (IE- l,adeirydi), a lluaws 0 ynadon erailJ. Oidiwrthadroddiad Major Best, y prif- gwnstab', yr oedd 2,070 o grwydriaid wedi bod yn y tlofcy yn ystod y chwarter o'i gyd- maru a 1,557 ar gyfer yr un chwarter y flwyddyn ddiweddaf, cynydd 0 513. Gwys- wyd 75 0 bersonau am gardota, cynydd o 22. Dirwwwyd 44 0 bersmau am feddwi ar gyfer 1°5 yrun chwartar y flwyddya ddiwedd- af, lleihad 0 61. Dywedai y cadeirydd wrth anerch yr uchel-reithwyr, blaenor pa rai ydoedd Mr W Allen, fod yn ddrwg ganddo eu bod yn gor- fod gadael eu dyledswyddiu pin nad oedd dim achosioa i'w profi, eto yr oeld ya fatero lawenydd fod y Sir yn glir oddiwrth droseddU au. Amlygai ei lawenydd fod lleihad mewn meddwdol. Credai mai y rheswm fod cyn. ydd mor fawr ya y crwydriaid oadd fod yr amseroedd yn ddrwg, a nifer ar ol dychwelyd o'r rhyfel wedi colli y gwaith oedd ganddynt yn flaenorol. Cyflwynodd Mr J C Hughes, is-sirydd fenyg gwynion i'r Cadeirydd. Ar gynygiad y Cadeirydd a chefoogiad yr Is-gadeiryd pasiwyd pleidla's 0 gydymdeimlad a MrOsnond Williams A.S, (Is-gadeiryd y Frawdlys) ar farwolaeth ei fam, ac hefyd a theulu y diweddar Arglwydd Hirlech, un o Ynadon hynaf y sir. Gwnaed Mr W H Moore (Harlech) a Mr W P Evans (Festiniog) yn Ynadon dros y Sir.
ABERMAW.
ABERMAW. Y mae Syr Lewis Morris wedi addaw tala ymweliad â'r lie uchod ar y yfed o Orphenaf, i agor llyfrgell y ddiweddar Miss Frances Power Cobbe.
Family Notices
Mehefia 24ain, yn swyddfa'r cofrestrydd, Dolgellau, yn mhresenoldeb Mr Tom Parry, cofrestrydd, Mr George Blaydes, The Smithy, Bontddu, L'aniber, a Miss Dinah Rosette Byddall, Torrent Walk Hotel, Dolgellau. matUtOlattIt. a Mehefin 241m, yn 61 mlwydd oed, Mrs Laura Roberts, gweddw y diweddar Mr David Roberts, Town Portor, Unicorn Lane, Dolgellau. Cafodd gystudd maith, Gadawa 5 o blant i hiraethu ar ei hol, a'r rhai y mae eiu cydymdeimlad dyfnaf.