Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL DINBYCH.

News
Cite
Share

(Galan Clwyd), Liverpool; John Mathews (loan o Lan YstWyth), Aberystwyth. Diwygiad Eisteddfodol. Ar ddiwedd y gyngherdd nos Iau, cynnalivtyd cyfarfod yn neuadd y dref, er dyfod i benderfyniad o berthynas i'r pwnc a fu dan ystyriaeth y pwyllgor y dyddiau blaenorol, sef Diwygiad Eisteddfodol." Dewisiwyd y Parch. H. Owen, Llanerchymedd (Meilir), i lywyddu. Rhoddodd Mr. J. Griffith, o Lundain, fraslun o'r amean oedd mewn golwg, a darllenodd i'r cyfarfod adroddiad o'r hyn a wnaethid yn y pwyllgorau a ymgyf- arfu amryw weithiau yn ystod y tri diwrnod. Cynnygiwyd gan y Parch. W. Roberts, Blaenau Gwent (Nefydd), a chefnogodd Nicander—" Fod y cyfarfod hwn yn ystyried y byddai yn dra phriodol ffurfio yr Eisteddfod yn sefydliad parhaol." Cynnygiodd D. Wiliiams, Ysw., (Alaw Goch), Ynys Cynon, Aberdar, a chefnogodd J. Ambrose Lloyd, Ysw., fod y sefydliad i gael ei alw "Yr Eisteddfod." Cynnygiwyd gan y Parch. J. Griffiths, periglor Castell- nedd, a chefnogodd Eben Fardd, fod trysorydd, ysgrifen. ydd, a chyfarwyddwyr, i'w dewis er dwyn oddiamgylch y penderfyniad uchod. Cynnygiwyd gan Mr. J. Griffith, o Lundain, a chefn- ogoddGlan Alun, fod D. Williams, Ysw. (Alaw Goch), i'w benodi yn drysorydd yjsefydliad. Cynnygiodd y Parch. W. Ambrose (Emrys), a chefnog. odd Creuddynfab, fod Mr. E. Wiliiams Gee i fod yn ys- grifenydd. Cynnygiodd Mr. T. Gee, a cbefnogodd Mr. J. Ceiriog Hughes, o Fanchester, fod y personau canlynol i gael eu nodi fel cyfarwyddwyr am y flwyddyn bresenol, gyda bawl i chwanegu at eu nifer :—dros Lundain, Mr. Grif. fith dros Manchester, Creuddynfab dros Liverpool, Dr. Games; dros Caerlleon, Mr. Ambrose Lloyd; dros y Deheudir, Mr. T. Stephen, Mertbyr; y Parch. R. Ellis (Cynddelw) loan Emlyn y Parch. W. Roberts (Nef- ydd), Blaenau Gwent; y Parch. J. Griffith, Castellnedd Aneurin Fardd; Gwilym Tawe; Gwilym Mai; Daniel S. Lewis dros y Gogledd, y Parch. J. Evans (I. D. Ffraid); Glan Alun y Parch. W. Ambrose (Emrys) y Parch. W. Jones, Nefyn; Ablthel; Mr. Davies, Dol- caradog. Cynnygiodd Mr. J. Griffith, a chefnogodd Gweiryddi ap Rhys, fod diolcbgarwch y cyfarfod yn cael ei rodd i Glan Alun a Chreuddynfab am en llafur yn darparu bras gynllun er diwygio yr eisteddfod. Cynnygiwyd gan Ciwydfardd, a chefnogodd Liystyn, fod diolchgarwch y cyfarfod i'w roddi i'r llywydd. Yr oedd y cyfarfod yn dra lluosog, a'r mwyaf brwd- frydig, yn ddiau, o holl gyfarfodydd yr eisteddfod. Tra- ddodwyd areithiau campus ac i'r pwrpas ar y pwys a'r dymunoldeb o sefydlu cymdeithas o'r fath gan y Parch. Wm. Roberts, Nicander, Alaw Goch, a'r Parch. J. Griffiths. Cynnaliwyd ail gyfarfod cyhoeddusam banner awr wedi pedwar dydd Gwener yn yr un lie. Dewisiwyd Mr. T. Gee i lywvddu. Eglurodd yr amcanion oedd mewn golwg, sef gosod yr eisteddfod ar sylfaen a fydd yn debyg o fod yn arosol. Galwodd Mr. J. Griffith i ddarllen y pender- fyniadau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod y dydd o'r blaen, pa rai oedd yn ymddangos yn hynod o gymmerad. wy gan bawb. Cynnygiodd Ab Ithel, a chefnogodd T. Oldfield, Ysw. (Eryr Moelfre), fod pob tanysgrifiwr o bum swllt ac uchod i fod yn aelod o'r sefydliad, ac i feddu pleidlais yn newis- iad swyddogion y gymdeithas Anerchwyd y cyfarfod hefyd yn wresog gan Emrys, Nefydd, a'r Parch. J. Griffiths, Castellnedd, a chan Alaw Goch. Hvsbysodd Alaw Goch y cynnelid eisteddfod genedl- aetholyn ystod haf 1861," yn Aberdar. Bydd yr eis- teddfod hono dan nawdd y.sefydliad newydd. DYDD GWENER, Awst 10fed. Ymgasglwyd i'r orsedd tua naw o'r gloch, pryd yr urddwyd y personau canlynol ARCHDDERWYDD. Y Parch. H. Owen (Meilir), Llanerchytnedd. DERWYDDON. Richard Ffoulkes Edwards (Risiart Ddu o Wynedd), Dinbych. Richard Griffith (Rhydderch ab Ciwydfardd), Dinbych. BEIRDD. Richard Jones (Berwyn), Llundain Owen Jones Hughes (Cynfarwy), Llanerchymedd John Jones (Gwyndaf), Llanwnda, Caernarfon Robert Rowland (Rowland ab Gwilym), Pentrefoelas; John Rowden Freme (loan Celli), Llys Pengwern, Llangollen Evan Roberts (Hermon), Tan y Gwaliau, Dinbych Issac Evans (Llewin Llwyd), Nantgwyn: Mary Watkin Williams (Mair Gwilym); William Jones (Gwilym Ogwen), Dinbych. OFYDDION. William Williams (Gwilym Meirion), Nantglyn; Richard Owen Williams (Rhydderch yCrythor), Dolgell- au Margaret Edwards (Morfydd Glan Teirig), Treuddyn, Wyddgrug; David Sephen Jones (Aeron), Llundain; Thomas Hughes (Clwysfryn Iâl), Bryn Eglwyslal John Henry Evans (Hari o Fon), Llundain; Humphrey Wil- liams (Glaslyn), Dinbych Ezra Roberts (Bleddyn), Din- bych. Agorwyd yr Eisteddfod am 10 o'r gloch gan y Llywydd ac wedi i amryw anercb y cyfarfod, darllenwyd beirniadaeth Eben Fardd, Cam Ingli, a Chynddelw, ar destun y gadair —yr Awdl oreu ar Dywalltiad yr Ysbryd Glan ar ddydd y Pentecost." Gwobr 20 gini. Pedwar a ymgystadleu- asant am yr anrhydedd, sef Joel, Awenydd, Pedr, a Gor- onwy M6n. Y goreu oedd eiddo Goronwy Mon." Dy- wedai y beirniaid fel y canlyn am Awdl Goronwy :— Awdl dda ragorol yw hon rhifa tua 1,040 llinell o hyd. Y mae y bardd dan ddylanwad ysbryd barddoniaeth yn ei elfen yn ymdrin á'i destun. Ei ddrychfeddyliau ydynt gymhwys a phrydyddol. Rhagflaenir yr awdiachyn. nwysiad cryno. Y mae yr lioil ganiad yn rhwydd ac es- mwyth, ac mewn ysbryd dymunol." Galwyd am Goronwy Mon, ac ymddangosodd y Parch. J. Emlyn Jones ( loan Emlyn). Arweiniwyd sf i'r gadair gan; Eben Fardd a Nicander. Addurnwyrl ef gan Lady Williams, Bodelwydden. Yr oedd rhai adgofion dyddorol mewn cyssylltiad a'r gadair yn yr lion y cadeiriwyd y bardd buddugol. Hi oedd y gadair yn yr hoc y caderiwyd Twm o'r Nant yn Llanelwy yn y ganrif ddiweddaf, leuan Glan Geirionydd yn eisteddfod flaenorol Dinbych, a'r un bardd yn eisteddfod Rhuddlan. Wrth gadeirio y prif-fardd, adroddodd Talhaiarn yr englyn canlynol Yn danbaid i Gadair Dinbych—codwyd Cadarn brif-fardd gorwych Cain yw'r clod-ceiiir y clych, Y llyw beiddiawg lie byddych. Sylwodd Talhaiarn inai hwn oedd yr amgylchiad cyntaf y mae genym lianes am dano, yn yr hwn yr aeth cadair Gwynedd i'r Deheudir ond yr oedd Dafydd ab Gwilym, er ys pedwar can mlynedd yn ol, wedi dwyn anrhydedd y Deheudir i'r Gogledd. Tri Chant o Holiadau ac Atebion goreu ar Hanes Cym- ru. Gwobr, 10 gini. Rhanwyd y wobr rhwng Mr. J. D. Jones, Rhuthin, a'r Parch. D. Griffiths, ieu., Bethel. Am y Folawd oreu i DdyfFryn Clwyd. Gwobr, 5 gini. Attaliwyd y wobr. Am y traethawd goreu ar y Rheffigorau. Gwobr, 10.6 Gohiriwyd y feirniadaeth. I'r cliwareuwr gyda'r delyn. Gwobr, h £ Buddugol, Mr. Llewellyn Williams, Blaenau Gwent. Am y Par Esgidiau cryfion goreu i feibion. Gwobr, 10s. 6c. Amy pâr ysgafn goreu, 10s. 6c. Y rhai cryfion, W. Williams a W. Conway, Dinbych y rhai ysgafn, Robert Foulkes, Dinbych.