READ ARTICLES (9)

News
Copy
MWIAFEIF TORIAIDD YN ANMHOSIBL- ¡ Y Times a ddywed :—Y mae yn awr yn am- lwg nas gall y Ceidwadwyr sicrhau mwyafrif clir o'r Ty. O'r 95 eisteddleoedd canlyniad yr etfcoliad am ba rai sydd eto beb ei fynegu, y mae 35 yn Scotland, yr Iwerddon, a Chymru, a delir hwy yn bresenol gan 5 o Geidwadwyr, 2 Rhyddfrydwyr Undebol, 15 o Gladstoniaid, a 18 o Parnelliaid. Nid oes tebygolrwydd o gyfnewidiad yn nghynrychioliad y seddan hyn i fantais y Ceidwadwyr. A chymeryd yn gan- iataol y bydd i'r cyfartaledd presenol gael ei barhau o berthynas i'r eisteddleoedd hyn, byddf yn rbaid i'r Ceidwadwyr enill 42 allan o'r 60 seddau sirol mewn trefn i ddyogelu mwyafrif hollol yn y Ty. ODd delir y seddau hyn yn awr gan 20 o Undebwyr (10 Ceidwadwr a 10 Rkyddfrydwr) a 40 o Gladstoniaid. Nis gall y Toriaid obeitbio am ddim mwy na tbraws y Toriaid obeitbio am ddim mwy na tbraws newidiad y cyfartaledd presenol gyda golwg ar y seddau hyn. Ond os bydd i'r Gladstoniaid ddal meddiant yn haner yr eisteddleoedd hyn, I. bvdd v Ceidwadwyr 10 neu 15 yn fyr o fod yn haner nifer Ty y CyfEredin. Y tebygrwydd ydyw y bydd iddynt rifo 320.

News
Copy
PRIODAS Y PARCH JOHN EVANS (b). Yn ngbapel y Wesleyaid yn Ealing, dydd Inn diweddaf, Gorpbenaf 8fe<?., priodwyd y Parch John Evans (Eglwysbach) gyda Miss Clara Kate Richardson, Castle Hill, Ealing. Gweinyddwyd ar yr achlysnr gan y Parch Richard Roberts, Llywydd y Genadledd, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch W. L. Slack, tra y safai y Parch G. Talalun Newton fel gwas y priodfab. Diangenrhaid dywedyd gair am yr Eglwysbach wrtb Gymry, y mae ei ddawn a'i athylith yn bysbys er ys ugain mlynedd trwy y wlad, ac nid oes angen ddywedyd gair am y foneddiges sydd heddyw yn wraig iddo wrth neb o'i chyd- nabod yn Ealing a'r arogylchoedd, canys y mae ei dylanwad wrtb ei chymeriad a'i sefyllfagym- deithasol yn ei gosod yn mblith goreuon y dref yn mhob ystyr. Yr oedd yn llawenydd mawr genyf fod y gwr o Eglwysbach yn ym. briodi gyda boneddiges o deulu anrbydeddns, o ddoniau a grasnsan neillduol sydd yn ei cby- faddasa mewn modd arbenig i fod yn wraig i un o orenon y genedl Gymreig. Anfynych y caed cyfarfyddiad mwy bapas o gyfeillion Cymreig a Saesoneg mewn gwledd briodasol, ac ni eisteddasom erioed wrth ford oedd wedi ei gorlwytho a'r danteitbion goreu yn gyffelyb i hon. Da genym fou Mr Evans wedi llwydrio i ddwyn oddiar y Saeson un o'r merched sydd yn anrhydedd i unryw gylch mewn cymdeithas, a hyderwn y bydd ei dyfodiad i Gymry yn hyrwyddiant i fwy o undeb a cbariad oydrhwng y Wesleyaid Cymreig a'u brodyr Selsnig. Yr oedd yraddoldy wedi ei addurno a blcdau, a chynulleidfa o bobl wedi ymgasglu i ddangos eu adymnniadau da i'r priodfab a'r briodasferch, ao yn eu plith gwelsom amrai Gymry, cyfeillion o'r gylchdaith Gymraeg. C'anlynwyd y briodas- feroh gan chwech o enethod ieuainc yn forwyn- ion glan yn cario blodau heirdd, a digon o swynion yn eu cylch i lygad-dynu bardd, Eisteddodd oddeutu haner cant i frecwast wrth fwrdd Dr, Richardson, brawd y briodasferch,yn j Barnes, a cbawsom anerchiadau byrion gan Barnes, a cbawsom anerchiadau byrion gan amrai o'r cyfeilliOD, ac yn eu plith gan Lywydd j y Gynadledd, y Parch G. Talalun Newton, a I Mr Griffiths, City Road, ac ni angbofiodd yr an j o honynt eu bod yn Gymry. Yn nghanol cawod o rice yr ymadawodd Mr Evans a'i briod am Edinburgh am ychydig seibiant cyn y Gynadledd a'u dyfodiad i Fangor. Bydd yn golled anrhaethol i Gymry Llundain golli yr Eglwysbacb, ond y mae yn dda genym ei fod yn dychwelyd yn ol i Gymry, a dymnnem iddo hir oes o wir fwyniant, a bendith y nef arno ef a'i briod hyd y diwedd.

News
Copy
I LLOFRUDDIAETH YN TRALLWM. DEDFRYD MARWOLAETH. Yn mrawdlys air Drefaldwyn, ddydd Gwener, o I flaen y Barnwr Grove, ojfhnddwyd Wm. Samuels, grocer, o lofrnddio William Mabbot, grocer, marwol- aeth yr hwn a gymerodd la ar y Llungwyn, o dan amgylcbiadan arghyffredin. Erlynid gan Mr Cle- ¡ ment Higgins, Q.C., a Mr F. Marshall: ao amddi- ffynid gan Mr F. Douglas. Daeth y earckaror, yr hwn sydd ddyn ienano oddeutu 23aio oed, i gydna- byddiaeth a'r tranoedig beth amser yn ol yn yr Amwythig, lie yr oeddyct ill dan yn cgwasac- aeth yr on firm. Wedi hyny symudodd Samuels i Trallwm i fyw, i ba le hefyd yr elai Mabbott ar ddyddiau Mercher a Sadwrn i gymeryd gofal oangen (asnachdy pertbynol i'w feistradoedd. LluDgwyn pwrcasodd Samuels beint o boiter, a chariodd ef drosodd i siop Mabbot, gan ofyn iddo gymeryd llym- aid, Gwnoeth Mabbott hyny, eymerwyd of yn glaf, a bn farw yn mben hanner awr. Cyn i Mabbott farw, dywedodd yn ngwyddfod y caroharor, a'r heddgeidwad, fod Samuels wedi rhoddi rhywbeth yn y porter. Cafwyd awm o strychnine yn ngwaelod y piser, ao ar ol post-mortem examination, oafwyd yr un defnydd gwenwynllyd yn ystumog y tranoedig. Galwyd chwech neu saith o dystion i broh fod Samuels wedi gofyn iddynt i bwroasu strychmns yn enwan pobl eraill; a phrynodd un John Pugh beth yn enw masnaohwr parohus dan yr esgus ei fod ei eisian i ladd llygod. Cafwyd y caroharor yn enog, a ded- frydwyd ef i farwolaeth.

News
Copy
STOCKTON-ON-TEES. Y mae hysbysiadan pellach wedi eu derbyn o India Orllewinol, parthed priodas y Parch. John Price (gynt 0 Stockton), a Miss M. L. Aubrey, unig ferch Mr William Aubrey, un o bregeth- wyr cynorthwyol bynaf a mwyaf parchus y jjylchdaith hop, a nith i'r diweddar Baroh. j hos, Aubrey. Cychwynodd Miss Aubrey ar ei mordaitb, i'r lie pellenig hwn, ychydig wyth- nosan yn ol, a chafwyd, y pryd hwnw, arddang- iad sylweddol iawn o'r ferch a'r edmygedd gyda pha nn yr edrychid arni gan luaws o drigolion Stockton-on-Tees, yn Gymry ao yn Saeson. Dylifodd anrhegion iddi o bob cyfeiriad, ac oferedd fyddai i ni geisio eu rbifo na'n desgrifio. Aeth ymaith i Southampton gyda'i brawd, ac wedi myned yno, derbyniorld pob caredigrwydd oddiar law awdurdodauy Genhadaeth Dramor, pa rai ai hebryngasant ar fwrdd yr agerlong Don, yr hon lestr oedd i'w chludo i Barbadoes. Teimlodd ei rbiant a'i cbyfeillion gryn bryder yn ngbylch pa fodd y byddai iddi sefyll y for- daith, gan na bu erioed o'r blaen ar y dwfr. Drwg genym fod y foneddiges ieuanc ddewr, wedi cael amser byrod oddrwg, bu yn yn wael ar byd y fordaith, a thystiai, oni b'ai am ofal diflino y stewardes, a charedigrwydd pawb ar fwrdd y llong, mae dyfrllyd fedd fuasai ei rhon, Cyrbaeddodd Barbadoes ar y 5ed o Fai, He y dyegwylid y buasai Mr Price wedi d'od i'w cbyfarfod, ond oberwydd rhyw gamddeallt- wriaeth, nid ydoedd ef yno, ond yr oedd amrai o wyr parcbedig eraill yn ei baros heb yr un ysmotyn gwyn arnynt, ond eu cadachau gwyn- ion, ond sercb hyny, cafond Miss Aubrey dder- byniad parehns a charedig iawn gan y bobl byn. Wedi cael ychydig seibiant yn Barbadoes aetbpwyd drachefn am fordaith o dri diwrnod, am St. Kitts. Da genym ddeall fod Miss Aubrey wedi cael amser gwell ar y fordaith hon, ac wedi cael golygfa tecach ar y landing stage, oblegid yma y cyfarfyddodd Mr Price a Miss Aubrey, ar y mae yn haws dirnad na desgrifio y cyfarfyddiad hwn—yr hyfrydwch a'r llawenydd oedd yn llenwi eu mynwes wrth weled y naill a'r Hall, ar ol bod am amser mor hir yn mblith y dyeitbriad duon. Derbyniodd Miss Aubrey pob arwydd o barch oddiar law y brodorion yn y lie hwn eto, a cbafodd pob lie i gredu y byddai yn byw yn mhlith bobl caredig a hynaws iawn. Yma yn St. Kitts cymerodd y bricdas Ie. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. Thomas Chambers, M.A., Cadeirydd Talaeth St. Kitts, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch— Podd.St Kitts. Gwnaeth Mr Chambers, mab hynaf cadeirydd y Dalaetb, was priodas o'r iawn ryw, a boneddiges barchus o'r ynys a fu yn forwyn briodas. Mr Telley, boneddwr parchus, a gyflwynodd Miss Aubrey, "er gwell ac er gwaeth i ddwylaw Mr. Price. Yr oedd yr adeilad wedi ei orlenwi, a derbyniodd y par ieuanc beth diwmbreth o anrbegion, a derbyn- iasant wahoddiadau gan bobl mwyaf parchus yr ynys i aros gyda hwy byd nes y byddai Mr Price a Mrs Price (bellach) yn dychwelyd i'w gylchdaith eu hnnain. Mae rbai o ddywediadau y brodorion pan y byddai Mr a Mrs Price yn myned i ymweled a hwy, yn codi gwen ar ei gi udd. Un o'u datganiadau mwyaf mynych bwy ydoedd, God bless the parson and his good lady." Yr hysbysiadau diweddaf a dder- byniwyd ydoedd fod Mr a Mrs Price wedi cyrhaedd yn ddiogel i St. Martin, cylchdaith bresenol Mr. Price, ao eu bod wedi cael derbyn- iad gwresog a theilwng iawn yma, ac fod y naill fel y llall yn bynod o ddedwydd. Nawdd y nef fyddo drostynt. Gwnaeth Miss Aubrey lawer o waith o blaid y Genadaeth Dramor. Tra yn Stockton gwelwyd fod ei chalon a'i henaid mewn cydymdeimlad a'r gwaitb, ao nid ydym yn petruso dywedyd nad aeth yr un ferch ieuanc mwy cymhwys, nag addawol a chrefydd. 01 i gymeryd rhan yn y gwaith cenhadol erioed. —Penmaenfab.

News
Copy
BOOTLE. CAPEL Y WESLEYAID.—Cynaliwyd ein cyfarfod pregethu Sabboth a nos Lun, Gorphenaf 4ydd ar 5ed. Cawsom i'n gwaaanaetiiu ar yr achlysur y Parchn W. Thomas, (A), a S. P. Jones, Widnes. Yr oedd y pregethau yn goeth, gafaelgar, a dylanwadol iawn, fel ag yr oeddym yn rhyfeddu ar y terfyn, am nad oedd neb o'r newydd wedi aros ar ol. Ein gweddi ar Eduw, ynngwynebyraflwyddiant presenol ar grefydd, Bywha dy waid yn nghanol y blynyddoedd." Dyma y tro cyntaf Mr Thomas, a'r ail waith i Mr Jones, fod yma, a dymuniad cyffredinol y cyfeillion ydyw iddynt dd'od eto yn fuan, a'r olaf i aros am dair blynedd o leiaf. Dwy flynedd yn ol yr oedd y diweddar John Hugh Evans yn ein gwasaethu yn effeithioi iawn, a thra yr ydym yn galaru, ac yn teimlo ein colled am dano, dù. yw i ni gofio yn ein trallod, fod yr Hwn a gymerodd yr anwyl Mr Evans ymaith, wedi gweled yn dda adfer Mr S. P. Jones i gynefin iechyd. Mite y ffaith ei fod wedi pregethu yn ddifwlch am dair blynedd yn eglur brofl hyny, heblaw ei dystiolaeth ef ei hun, sef ei fod yn iachacb, ac yn gryfach nac y bu erioed.-Oilcain.

News
Copy
LLANDUDNO- PKEGEXH ANGLADDOL.-Nos Sabbotb, Gorphenaf 4ydd, ymgynullodd cynulleidfa luosog yn Ebenezar i wrandaw ar y Parch. Hugh Hughes yn traddodi pregeth angladdel er serchus gofladwriaeth am y Pregethwr coeth, y Darlithydd hyawdJ, y Bardd uohelrydd, yr Arlunydd oywrain, a'r Cristion pur a didwyll y Parch. John Hugh Evans, (Cynfaen), Llanrwst. Deohreuwyd y wasanaeth gan yr bybaroh Clwydfardd yr hwn er ei fod uwohlaw 86ain mlwyddoed.oedd yn gallu darllen yrEmy naUja phenod o'r Beibl yn ddiwall, heb gynorthwy gwydrddryohau o unrbyw fath. Cymerodd Mr. Hughes yn destyn 2 Samuel iii 38. "Oni wyddoch obwi i Dywyaog, a gwr mawr syrtbio heddyw yn Israel. Wedi yohydig o sylwadau eglurhaol sylwodd Mr. Hughes, nad oedd yn bwriadu gosod ei anwyl, ie ei anwyl, frawd a cbyfaill gerbron ond fel arddatgosiad godidog o athrylith Duw, a Oras Duw. Nid oedd tebygolrwydd neillduol ynddo i Abner mab Ner, cefnder Saul yn neillduolion eu bywyd, ond y maent yn debyg mown bod yn Fawr-Mae yn ymddangos fod Abner yn Bywysog neu arweinydd Rbyfel am ei fod yn Fawr mewn athrylith, dyfeisgarwob, a gwr- oldeb. Felly yn slcr yr oedd ein cyfaill ymadawedig yn arweinydd meddyliol Tywysogaidd oblegid ei fod yn fawr wirioneddol mewn Athrylith, Gwybodaeth, a Doniau.—yn 1. Fel Abner yn Fawr-yn (1), mewn athrylith. 1. Gallu i osod gwirionedd mewn oyfuniadau a gweddau newyddioD. (2), Athrylith eang ao aml- ¡ ochrog, athronydd, bardd, arlunydd. (3), Yrnllyn yrnferwi yn ei gilydd yn ei erthyglau a'i brpgethau. 2. Mewn awybodaeth (1) Ehedai ei wybodaeth yn ¡ yr un cyfeiriadau a'i athrylith. (2) Yn eang iawu yn y oyfeiriadau hyny. 3. Mewn areithyddiaeth. (1) Anhawsderan natur- iol. (2) Yr elfen fwyuhaol. (3) Yrelfen Byfrdaenol ac arddunol. (4) Yr elfen ysgubol. (5)Ynfawryn mhob un. 4. Mews Dynoldeb. (1) Yn urddasol a mawreddus (2) Yn annibynol. (3) Yn amloohrog, yn mwynhau petbau gwir naturicl a phur. 5. Mewn Dnwioldeb. (1) Urddas a mawreddua- rwydd santeiddiedig. (2) Gostyngeiddrwydd ysbryd, neb yn rhy fychan i gael ei sylw. (3} Eiddigedd dros iawnder ac urddas Dow a Christionogaetb. Cymerai ei siawns gydaohanlyuiadall ufudd-dod i'w gydwybod. G. Fel Abner bu farw yn adeg ei wasanaeth mwyaf gwerthfawr, (1) Yr oedd yn codi yn y wlad, am fod y wlad yn codi ato ef. (2) Ba farw fel y bu fyw-yu fawr- dim yn fach ynddo ar lan yr afon. Dyna fraslun o brif bwyntiau y bregeth ragorol honsyr hon a dynwyd i'r terfyn trwy ddesgrifiad byw a dwfndreiddiol o oriau olaf y gwr mawr hwn yn Israel." Yn olaf oil, rhoddwyd cymhelliadau taerion ar i'r gynulleidfa fyny yr unrhyw graig i fod yn sylfaen eu gobeithiau yn y presenol ao erbyn yr amser a ddaw, fod yr ymadawedig wedi ei eni yn ymyl craig-wedi derbyn trugaredd i'w enaid o dan gysgod craig, wedi ei gladdu mewn oraig, ao yn fwy na'r oU, fod ei enaid yn awr yn niogelwoh Craig fawr yr OeBoedd. Cyn y bregetb, darfu i'r cor o dan arweiniad Mr H. Hughes, roddi datganiad o'r anthem, "Fy nyddiau a ddarfydda t," ac ar y terfyn, canwyd hen emyn bendigedig, "Bydd myrdd o ryfeddodau." Nawdd y net fyddo dros Mrs Evans a'i hanwyl Llywelyn.—Gohebydd.

News
Copy
DINBYCH. Yii ETHOLIAD.-Erbyn hyn, y mae y berw ethol- iadol yn ein tref wedi myned drosodd ond nid gyda dim anrhydedd. Pel y mae y gwaethaf modd, aafonodd Bwrdeisdrefi Dinbyoh y Tori i fyny etto I'n earn -gynnryohioli; ao y mae y modd y pleidleis- iodd yn ystod yr ychydig fisoedd y bu yn y Senedd yn profi hyny. Anfonwyd ef i fyny y tro hwn gyda tua chant yn Ilai o fwyafrif nag a gafodd chwe mis yn ol,jjyr hyn a ddengys fod yr etholwyr yn dechreu gweled eu ffolioeb. Deallwn fod Mr. Barlow, yr ymgeisydd Rbyddfrydig, yn bwriadu sefyll etholiad etto, yr hyn, yn ol pob arwyddion, sydd yn rhwym o gymeryd Ileyn bur fuan. Condemnir ymddygiad Syr Robert Cunliffe ynglyn a'r etholiad presenol yn ddiarbed yn y dref hon. Nos Iau,efe a fu mewn cyfarfod cyhoeddas yn y Drill Hall, yn areithio o blaid y gwr a wnaeth ei oren (yn ofer mae'n wir) yn ei erbyn yn yr etholiad diweddaf. Syr ROBERT CUNLIFFE yn areithio o blaid Mr. KENTON Yr ydym yn synu na fuasai ganddo fwy o barch i Rhyddfryd- wyrDinbyoh, y rhai fu yn gweithio mor galed drosto mewn dau etholiad, nag y daethai byth i'n tref i'n gwaradwyddoyn gyhceddus yn y modd yma. CUARFCD PREGETHU.- Y Sabboth eyn y diweddaf bu y Parchn. Ishmael Evans, Rhyl, a D. Richards, BagiJlt, yn cynnal oyfarfod blynjddol Salem. Pregethwyd yn yatod y dydd yn Salem a Phendref. Cafwyd pregethau amserol a dylbnwadol dros ben, Yn ystod y dydd, gwnaed casgliadau at leihau rhyw ugain punt o ddyled sydd yn aros ar Salem. NODACNYI (BAZAAR) .—Y mae symudiad lied bwyeig yn oymeryd lie yn ein mysg feI Wesleyaid, nid amgea bazaar. Da genym fod pawb yn ymgymmeryd a'r symmudiad yn galonog; 60 y mae y chwiorydd wedi bod yn cynnal amryw eisteddiadau yn en mysg eu hunain er trefnu ar ei gyfer. Prydnawn ddydd Ian diweddaf, rhoddwyd fiEurf weithiol i'r aymudiad, trwy i'r ohwiorydd gynnal oyfarfod pwytno ao i Mrs. Boaz Jones barotoi te, am ba un y telid 6c. y pen, a daeth nifer lied dda ynghyd. Yr oedd y te yn cael ei rhoddi yn rhad gan Mrs. Jones. Diau ond i bawb wneyd ei ran, y try allan yn llwyddiauns. Bydd y symmudiad yn cymeryd agwedd gyhoedduB rhyw pythefnos o lfaen y Nadolig. Yr elw oddiwrth i fyned at ddileu y ddyled ar capel Pendref. Fel y eir yn mlaen gyda'r mudiad, fe allai y cawn hamr dden i roddi yohydig fanylion yn awr a phryd ara, j GOHEBYDD. IJriôhasau, &c. I Genedigaethau. DAVIES.- Gorphenaf 11, priod Robert Davies, (o swyddfa y Gwylicdydd), 2, Princes' Street, ar fab. PKOBTIT.—Mai 17eg, priod Mr Benjamin Proffit, 33, Cullen Street, Lerpwl (gynt o Birmingham), ar ferch. Bedyddiwyd bi yn Mynydd Seion dan yr enw Elizabeth. J oNEB-Gorphenaf 1, yn Tros y Maes Cottage, Treffynnon, priod Mr William Jones, stationer, a ferch. Priodasau. WiLUAMS—JoNES—Gorphemf 9, yn nghapel yr An- nibynwyr, Abergele, gan y Parch E. T. Davies, yn cael ei gynorthwyo gan Clwydfardd a Hwfa Mon, yn mhresenoldeb Mr W. Williams, Cofrestrydd, Mr T. P. Wi liams, yn awr o Llangefni, mab i Mr Edward Williams, Grove House, Pensarn, gyda Miss E. M. Jones, merch hynaf Mr John Jones, Bank House, Abergele. Marwolaetliau. JONES.—Gorphenaf 8, yn 17 mlwydd oed, yn Ty Canol, Bettws yn Rhos, Miss Jane Jones, merch Jane Jones, o'r un lie.

News
Copy
Ugain mlytjedd yn o), yn Sir Grant, Kentucky, owerylodd G. W. Osborn a Samuel Anderson, mei- bion amaethwyr oyfrifol, wrth werthu a pbrynu defaid, a saethwyd Osborn i farwolaeth gan Ander- SOD. Dywedir yr yatyfid y lofruddiaeth yr anesgu- eodol, a ffodd Anderson am ei fywyd. Yohydig amser yn ol, dyohwelodd trnan o ddyn deugain oed yn ol i'r gymydogaeth, lie y oyflawnwyd y weithred, a rhoddodd ei hun i fyny gan diweyd mai efe oedd y llofrudd. Ni ohredid ef ar y oyntaf, eithr ymhol- wyd i'r aohos, ac yn awr y mae ngarohar yn aros ei brawf.

Advertising
Copy
SUMMER HILL DRAWING. WEDI EI SOHIRIO hyd AWST 2U. Llyfrau i fod mewn liaw Gorphenaf 28aiu, a'r winning numbers i'w gweled yn y Gwyliedydd Awst lleg, 1886. BEAVER LINE. LIVERPOOL TOJ AMERICA EVERY TUE S AY. SALOON to QUEBEC OR MONTREAL £8 8s & £10 0 2ND CABIN Do Do £6 0 STERRAGE Do Do £4 0 Do TI BOSTON, NEW YORK, OR PHILADEL VIIIA £ 3 16 ASSISTED PASSAGES TO CANADA P, 3 0 Passengers booked to all parts of Canada and U nited States at low rates. The Steamships of the Baaver Line land their Passengers at the Canadian Paoifio Railroad Station, Montreal. For farther particulars & to secure berths apply to R. W. ROBERTS, Manager, 21, Water Street, Liverpool. R. Lloyd, Cilgaraiot St Annes, Bangor; D. Jones, Stationer, Aralwob, O. Evans, Castle Street, Conwy John Roberts, 35, Vale Street, Denbigh; R. J. Johns, 8, S Arift Square, Holvhead; James Clarke, Chapel Street, Llangollen; J. O. Williams, Llangefni; John Foulkes, 24, High Street, Carnarvon. FESTINIOG WESLEYAN- CHAPEL. A GRAND BAZAAR In aid of the above will be held at the ASSEMBLY ROOM, BLAENAU FESTINIOG, On Thursday, Friday, & Saturday, AUGUST 19th, 20ih, and 21st, 1886, AND AT FFESTIN OG, ON FRIDAY AND SATURDAY, August 27th, p' 28th, 1886. The BAZAAR will be opened each day by distinguished persons. Any contributions towards he above in form of money, or any saleable articlos will be thankfully received by M. ROBERTS, Capel Gwyn, Treasurer. R. ROBERTS, High Gate, 1 Secretariea 01' J. H.JONES, Station Road &ecretariea B iT D D A K1) H A PA FODD I'W WELLA *y|"AE ystafelloedd ymgynghoriadol y Paroh E. J. lVi. SILVERTON yn agored bob dydd er inantais personau yn dyoddef oddiwrth Fyddardra, Trwst yn y Pen a'r Clustiau, Mater Annymunol allan o'r Olustiau, Clefyd y Llygaid,(Gwydraa oyfaddasol i bob golygon pan fydd angen,) Ysgyfaint Gwan, a Gwendid Oyffr-edinol. Gall unrhyw ddyoddefydd gaol ei weled yn ddidal. Mae Mr Silverton a'i Feddyg, wedi arohwiliadaeth fanwl, yn cynghori y Dyoddefydd pa gyffiriau i'w oymeryd, a phob oyfarwyddyd angen- rheidiol yn nghyleh ymborth. Mae eymaint 0 ddaioni wedi ei wneyd fel na raid i neb anobeithio. Mae nd ymweliad yn ddigonol. Mae yr ystafelloedd yn agored bob dydd o Un-ar-ddeg o'r glooh hyd Ddau (ao eithrio dydd Sadwrn). Bydd i Mr Jesse J. Bilverton ateb unrhyw ymholiad ar oriau ereill, ac ar ddydd Sadwrn hyd Un o'r glooh. Os bydd pellder yn gwneyd ymgynhoriad personol yn anmhosibl; ysgrifener am lyfr y Parch E. J. Silverton ar Glwy 1 Clustiau a'r Llygaid, yr hwn syddyu oynwys rhestr o ofyniadan er oyfarwyddyd i'r dyoddefydd, a nifer o dystiolaethau oddiwrth bersonau sydd wedi eft jq wella, pris AS ond i ddari!«mwyr y papyr hwn rhoddir ef am ddau stamp ceiniog. Sylwer ar f oyfeiriad-17. St. j Bride Street, Ludgate Ciroua. Uundaiii, 1! Post Free, with Sketches and Details for Self Cure (under cover), 6 stamps, From J. WILLIAMS, 22, Mar- ischal Street, ABERDEEN. The Pocket Medical Adviser FOR the Self-treatment of Nervous and Functional Ailments, induced by Overwork, Woiry,Excesses, and other enervating influences, and their Asso- ciated Evils. BY THE NEW LOCAL TREAT- MEivT- A boon to all desiring 'self-cure with- out recourse to physic or the family doctor.—Medical Review. A country parson writes thus ;—4 Your Guide has cured myself and many pai ish- ioners SufFKBEBS should procure this hand} Referee on Nervous Ailments, and thus avoid doctor's fees and objectionab medicine.-Gazette. Argrapbwyd gan Amos Brothers, yn ei swyd^9, argraffn, 13, Sussex sfcraa b, Rhyl.