Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
Hide Articles List
19 articles on this Page
'." Amrywion.
News
Cite
Share
Amrywion. Ar gynhygiad y Parch. John Morgan, Aberdar, ac eiliad y Parch. W. D. Morris, Cwmaman, pasiwyd cadarnhau y cofnodion. Gohebiaethau.—Darllenwyd llythyr oddi wrth weddw y Parch. Thosi. James, LLandysstii, yn cyd- nabod cydymdeimlad a hi yn ei phrofedigaetb, ac hefyd lythyr oddiwrth Ysg. y Genhadaeth Dramor yn galw sylw at Anerchiad y Parch. R. Hughes Morris, Lerpwl, 'Y Byd i 'Grist.' Gofynai am ^20 o Gym- deithasfa'r De tuag at gynorthwyo i ledaenu yr anerchiad. Pasiwyd gan nad oedd arian yn y Dry- sorfa, i ofyn i'r Eglwysi ychwanegu yn eu cyfraniad- au eleni i wneud i fyny yr £ .20. Ysgrifenyddion y gwahanol C.M. i'w hannog i hyn. Coffad.—Enwyd i wneud coffad am frodyr ym- adawedig, Am y Parch. Wm. Morgan, Garn, y Parch. R. J. Rees, M.A., Aberystwyth, a Mr. W. Edwards, Penygarn. Am y, Parch. John Owen, Burry Port, y Parch. D. E. Jones, B.A., Pembrey, a Mr. Eynon, Llanelli. Am y Parch. David Rees, Defynog, y Parchn. Rhys Evans, Llanwrtyd, a Thos. How at, B.A.
Gwerthu Eiddo.
News
Cite
Share
Gwerthu Eiddo. Wedi gair o eglurhad gan Mr. Thomas Davies, Pontarddulais, pasiwyd rhoi caniatad i werthu y Manse sydd, ym Mhenybont. Hefyd pasiwyd i gan- iatau gwerthu nifer o dai yn ymyl y capel ym Mhontfaen.
Boxing Contests.
News
Cite
Share
Boxing Contests. Galwodd Dr. Phillips, Tylo-rst-own, sylw y Gym- deitha.sfa yn ol y penderfyniad a ddaeth o G.M. Dwyrain Morgannwg, at y Boxing C'ontestsi. Dr. Cynddylan Jones a ddarllenodd benderfyniad i'r un perwyl, a dynwyd allan gan y Parch. John Morgan Jones, ar ran y Cyn-Lywyddion. Boddlon- odd Dr. Phillips i'r penderfyniad, ond gosododd air i fewn ynddo am y gorymdeithiau. Y Parch. John Thomas, Caerdydd, a ddymunai am i'r gair Cinema gael ei gynnwys, yn y penderfyniad. Dywedodd nad oedd neb dan 16 oed yn Germani yn ,cael ei ganiatau i fyned i'r Cinema. Darllenodd y Parch. J. M. Jones y penderfyniad wedi ei ddiwygio. Y Parch. Clement Evans., Gwaencaegurwen, a bwysleisiai am i air parthed oadwraeth y Saboth fod yn y penderfyniad. Y Parch. Samuel Prydderch a sylwodd fod pob un am ychwanegu gair. Dymunai ef dynnu brawddeg allan. Nid mantais fyddai cyhoeddi fod y cyfar- fodydd crefyddol yn ,cael eu hesgeuluso. Y Parch. W. D. Rowlands a ategai hyn. Y Parch. J. M. Jones a wrthwynebai i hyn. Ymha le ond yn y Gymdeithasfa, ac o honni trwy y C.M., y mae hysbysu hyn. Y Parch. W. W. Lewis, Abertawe, a gefnogodd hyn, gan ofyn, Beth oedd ystyr halogi Dydd1 yr Arglwydd, a oedd yn cynnwyls gwerthu tocyn; yn yr orSiaf yn ogystal a gwerthu mewn sdop? Ar gais y Llywydd, tynnodd Mr. Prytherch1 ei gynhygiad yn ol, nid o argyhoeddiad, ond o barch iddo ef. Yna pasiwyd y penderfyniad fel y canlyn: E,;n bod yn galw sylw yr Eglwysi at gynnydd difrifol llygredigaeth yn y wlad yr adeg bryderus hon arni, pan y mae ei rhyddid a'i hannibyniaeth yn swn perygl. Gwelir y cynnydd hwn ynglyn a'r lliaws sydd yn mynychu y tafamdai, y poblogrwydd a berthyn i'r Boxing Contests, a'r lie a roddir iddiynt yn y newyddiaduron Seisnig, ynghyda'r gorymdeith- iau cysiylltiedig a hwynt. Y, torfeyddi sydd yn mynychu y chwareudai a'r cinema, a.c ar yr un pryd y cvfarfodvdd crefyddol wythnosol yn cael eu hes- geuluso. Yn wyneb hyn, teimlwn y dylem fel gwlad ymostwng gerbron Duw a gwneud ein goreu i atal y ilife;riant ynghyda'r halogiad poenus sydd ar ddydd yr Arglwydd."
Ymadawiad,
News
Cite
Share
Ymadawiad, Hysbyswyd fod y Parch. Illtyd1 Jones, Ton.ypandy, wedi ymadael a'r Corff, ac wedi ymuno ag Eglwys Loegr. Pasiwyd nad, ystyrir ef mwyach yn aelod yn ein plith.
-Cais y Cadfridog Owen Thomas.
News
Cite
Share
Cais y Cadfridog Owen Thomas. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Gadfridog Owen Thomas, yn gofyn i'r eglwysi ddanfon; eynrychiolwyr i'r Gynhadledd a gynhelir mewn eysylltiad a'r clwyfedigion ymh'lith y miyr1. Hysbysodd y Parch. John Morgan Jones y cynhelir un. Gynhadledd yng Nghaerdydd, ac un arall yng Nghaerfyrddin, ac y bydd hawl gan yr eglwysi i ddanfon cynrychiolydd am bob cant o aelodau. Pasiwyd ein bod yn cyd- ymffurfio a'r cais. Terfynwyd y cyfarfod gan y Llywydd.
Y Symudiad. Ymosodol.
News
Cite
Share
Y Symudiad. Ymosodol. Dathliad Chwarter Ganrif y M'udiad.- Y Parch. J. Morgan Jones, 'Goruchwyliwr y Mudiad, mewn araith wresog, a r odd odd1 fras amlinelliad o'r hyn a wnaed trwy y Symudiad yn ystod y 25 mlynedd diweddaf. Y Parch. Rhys Evans, Llanwrtyd, a gynhygiodd ein. bod yn datgan ein gwerthfawrogiad o'r gwaith. a wnaed gan y mudiad a gerir ymlaen gan yr Ystgrif- ennvdd, y Parch. John Thomas, Caerdydd, a phas- iwyd hyn.
Trysorfalr Gweinidogion.
News
Cite
Share
Trysorfalr Gweinidogion. Y Parch. T. E. Roberts, M.A., Aberystwyth, a gyflwynodd' adroddiad Trysorfa y Gweinidogion. Hysbysodd fod' £ 800 wedi eu talu i weddwon a gweinidogion yn ystod y flwyddyn. ddiweddaf. Dy- wedodd fod treth yr incwm wedi effeithio ar y Gronfa, ac yn herwydd y lapses wedi myned y'n ei hoi y flwyddyn ddiweddaf. Onibai am y Gronfa hon, byddai nifer o weddwon a gweinidogon yn y tloty. Y mae mewn Ilaw 66p. 9s. 6c.-—Paswyd yr adroddiad.
Cynhaliaeth y Weinidogaeth.
News
Cite
Share
Cynhaliaeth y Weinidogaeth. Cwestiwn llosga vl y Sasiwn oedd "Cynllun Cyn- haliaeth y Weinidogaeth." Y Parch. R. T. Rees, M.A., a gyflwynodd y cynllun, gan ddangos mai ei amoan oedd (a) I ofalu am arolygiaeth fugeiliol gyflawn, a phregethiad rheolaidd o Air Duw yn holl eglwysi Cyfundeb y Deheubarth. (b) I sicrhau lleiaf- swm o 4op. y flwyddyn fel cyflog pob bugail, a lleiafswm o ip. los. fel tal Sabothol. i bob gweinidog ordeiniedig am ei wasanaeth ar y Sul. Darllenodd yr Ysgrifennydd, y Parch. B. T. Jones, bendterfyniadau y gwahanol jQyfarfodydd Misol mewn eysylltiad a'r cynllun, a'r rhai hynny yn bur gyffredinpr mewn, cydymdeimlad! a'r cynllun o ran ei egwyddor. Siaradodd amryw flaenoriaidyn frwd. o blaid y mudiad, ac yn eu plith gwrandawyd ar hyawdledd Mr. H. W. Evans, Y.H., Solfa, yr hwn a gynhyg- iodd -ein bod yn mabwysiadu y cynllun yn. ddiym- droi. Mr. T. E. Lewis, M.E., Blaengarw, yr hwn a eiliodd y cynhygiad, gyda Mri. John Davies, Cas newydd, Philip Thomas, Castellnedd, Evan Evans, Aberystwyth, a T. E. Davies, Pontygwaith, yn cefnogi. Pwysleisiai y naill a'r Hall ei bod yn llawn bryd .cydnabod y gweinidogion yn well. Y Parch. Rhys Evansi a siaradodd yn gryf o blaid y cynllun, a hysbysodd fod nifer eisoes 0 bersonau wedi addaw symiau sylweddol at y mudiad. Credai y dylai fod cant o leiaf ymhlith y Methodistiaid a roddai ioop. yr un., Y Parch. R. J. Rees a ddymunai ar i'r aelodau fod yn deyrngrarol i'r mudiad. Y mae'r cwestiwn eisoes. wedi bod am naw mlyneddi 0. flaen yr eglwysi. Wedi ychydig o ddadIeu, pasiwyd y cynllun, fel y cynhy'gid ef gan y pwyllgor gyda brwdfrydedd mawr trwy i'r cynrychiolwyr godi ar eu traed: a safodd pob un yn syth. Terfynwyd gan y Llywydd.
Ordeinio.
News
Cite
Share
Ordeinio. Caniatawyd ceisiadau am ordeinio Mr. D. J. Evans, B.A., B.D., o Ogledd Aberteifi; Mr. Sidney Evans, B.A., Porth, a Mr. Victor Griffiths o Sir 'Gaerfyrddin, yr olaf gyda chymeradwyaeth y Bwrdd Addysg. A yn ol i orffen ei gwrs yn Oxford. Caniatawyd hefyd i'r rhai canlvnol i eistedd yr Arholiad Cymdeithasfaol: Mri. John T. Timothy Davies, Caerfyrddin, Morgan Rhys, Henaduriaeth Morgannwg, David Jones, Maesyffynon, Daniel Jones, Tregaron, Brynmor Jones, Pontygwaith, a J. Deans, Caerdydd. Y Parch. R. J. Rees, M.A., Aberystwyth, a ofynai beth oedd y rheol ar hyn. Caiff rhai ganiatad i fyn'd ymlaen, tra y gorfodir eraill i fyn'd trwy yr holl gwrs. Dylai yr oil gael eu hystyried gan y Pwyllgor Addysg. Gan i nifer o'r gwahanol siroedd roddi rhesymau cryfion dros ganiatau y ceisiadau hyn, ni atebwyd beth oedd y rheol. Pasiwyd yr oil.
Y Parch. S. E. Prytherch.
News
Cite
Share
Y Parch. S. E. Prytherch. Ar gynhygiad' Dr. Cynddylan Jones:, pasiwyd i roddi llythyr trosglwyddiad i'r Parch. S. E. Pry- therch i undeb a Chymanfa Minnesota, U.D. America, ar ei waith yn ymgymeryd a bugeiliaeth yr eglwys Fethodistaidd ym Minnesota; a thra yn datgan gofid yn wyneb ei ymadawiad, dymunwyd1 ei Iwydd yn fawr. Eil'odd y Parch. Samlet Williams, a phasiwyd. Y Llywydd a fynegai fod Mr. Pry- th-erch yn perthyn i deulu a fu yn wasanaethgar gyda'r Methodistiaid. Mr. Prytherch a ddiolchai am y teimladau caredig, ac am bob ffafr a gafodd yma, ond nid oedd hynny yn llawer, ac ni chollaf ddimwrth fyn'd i'r America (chwerthin mawr). Mi gofiaf yno yn arbennig am y brodyr da yn y weini- dogaeth.
Y Gymanfa Gyffredinol.
News
Cite
Share
Y Gymanfa Gyffredinol. Mr. Thomas Davies, Treorci, a wahoddodd y Sasiwn Gyffredinol i Bethlehem, Treorci, ym Mehefin 1917, gan ddweyd y croesiawid hi yno. yn galonnog. Derbyniwyd y gwahoddiad yn ddiolchgar, a diolch- odd Mr. Davies i'r Gymdeithasfla am basio iddi gael dod yno.
Cais am Eglurhad.
News
Cite
Share
Cais am Eglurhad. Dymunai Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg am arwe ia;-1 g d arwéniad gyda golwg ar y geiriau canlynol yn yr erthygl ar Fedydd yn y Cyffes Ffydd-" A bod! gan gredinwyr proffesedig vnghyda'u plant bychain hawl ysgrythn/rol i'r ordinhad hon." Dr. Cynddylan Jones a d'dywedodd nad oes dim posibl egluro mwy nag sydd yn yr erthygl. Beth sydd yn dywyll yn hyn ? Tybiaf fod Henaduriaeth Morgannwg yn teimlo ei bod' yn fraint cael danfon oenadwri i'r Sasiwn. Dr. Dewi Jones a ddywedoidd fod y penderfyniad mor eglur ag A B C. Synai fod y fath gais wedi dod. Y Parch. Christmas Lewis, Barry, a ddymunai am eglurhad1, gan fod gweinidogion: yn bedyddio plant nad ydynt yn blant i aeTodau, a.c y dadleuid gan rywrai fod rhai gweinidogion yn gwneud, a phaham na wna yr oil. Y Parch. W. W. Lewis, Abertawe, a ofynodd beth yw credinwyr proffesedig, a yd'yw yn golygu eu bod yn gysylltiedg ag eglwys? Gwelwn rai yn honni peth fel hyn heb fod yn gysylltiedig ag un- rhyw eglwys. Y Llywydd a eglufodd fod yn rhaid i'r tad neu'r fam fod yn aelod crefyddol.
YR AIL EISTEDDTAD AM CHWECH…
News
Cite
Share
YR AIL EISTEDDTAD AM CHWECH O'R GLOCH. Dechreuwyd gan Dr. Phillips, Tylorstown. Croesawiad. Rhoddwyd oroeslawcynneSl i'r1 Gymdeithasfa ar ran Cyngrairyr Eglwysi Rhyddion, Maesteg, gan y Parch. D. John, Llywydd y Cyngor, a'r Parch. C. T. Thomas,, yr Ysgrifennydd.
Dirwest a Phurdeb.
News
Cite
Share
Dirwest a Phurdeb. Cynhaliwyd cyfarfod Dirwest a Phurdeb yng nghapel Ebenezer, am 6 o'r gloch nos Fawrth. Cad- eirydd, Mr. E. Ceredig Evans, Y.H., Aberteifi. Wedi ychydig o. sylwadau 'byr a phwrpasol ganddo, yn dangos fel yr oedd pethau wedi cyfnewidi yn y dref yr oedd yn byw ynddi, trwy fod y tafarn- dai yn ystod' y 30 mlynedd diweddaf wedi lleihau o'r deugain i bedwar ar bymtheg, galwodd ar y Parch. W. W. Lewis:, Abertawe, i anner-ch y cyfar- fod. Siaradodd yn gryf iawn ar y cymhellion i Ddirwest yn ei gwedd Gristionogol. Hefyd cafwyd araith rymus gan y Parch. John Roberts, M.A., Caerdydd. Lluddiwyd Dr. R. T. Williams, Cwm- afon, i fod yn bresennol, a chafwyd ychydig eiri.au gan y Parch. Morris Morgan, Abertawe, yn ei Ie. Yr oedd y cyfarfod hwn yn un gwir dda.
DYDD MERCHER.
News
Cite
Share
DYDD MERCHER. CYFARFOD Y GWEINIDOGION AM 8.30. Dechreuwyd gan y Parch. Pumsaint Jones, Tre- harris. Agorwyd y mater, Hawliau presennol ar Gen- hadon Crist," yn feistrolgar gan y Parch. Morris Morgan, a siaradwyd ymhellach gan y Parchn. John Thickens, Llundain, W. W. Lewis, Abertawe, W. Mendus, Haverfordwest, Thomas Howat, B.A., Tre- fecca,, Thos. Francis, Hendre, T. E. Roberts, M.A., Aberystwyth, a Dr. Cynddylan Jones. Diweddwyd' gan y Parch. Rhys, Morgan, Llan- ddewibrefi.
Y SEIAT AM CHWARTER WEDI DEG.
News
Cite
Share
Y SEIAT AM CHWARTER WEDI DEG. Mater, "Crefydd," seiliedig ar Iago i. 27. Dechreuwyd gan y Parch. D. Howells, Pencoed. Agorwyd y mater gan y Parch. J. R. Evans, Cas- tellnedd. Pwysleisioddl fodcydymdeimlad a phur- deb yn nodweddion amlwg mewn crefydd, ac y dylid ei byw ac nid' ei phroffesu. Fel y dywedodd y Llywydd, yr oedd yn dda gan hawb am .adferiad Mr. Evans, ac yn bleser ganddynt wrando arn-o yn agor y mater mor ddeheuig. Yn ol trefniad y Pwyllgor Rhagarweinio-1, siarad- odd Dr. Cynddylan Jones ymhellach ar y mater mewn gwedd neilltuol. T'ra wedi gwella mewn gwareiddiad, ofnai ein bod wedi gwaethygu mewn crefydd a moesoldeb. Cyfeiriodd at y cariad at bleserau, y cynnydd mewn meddwdod, boxing contests,' etc. Siaradwyd hefyd gan Dr. Phillips-, Mr. William Thomas, Porth, Parchn. Rhys Evans a J. Morgan Jones. Terfynwyd y cwrdd rhagorol hwn gan y Parch. W. Jones, Aberdulais.
CYF ARFOD Y GYMDEITHASFA AM…
News
Cite
Share
CYF ARFOD Y GYMDEITHASFA AM UN O'R GLOCH. Dechreuwyd gan y Parch. B. T. Salmon, Llan- trisant. Adroiddiad y Colegau. Y Parch. Lewis James, Builth, a gyfbyynodd ad- roddia,d, y Colegau. Apeliodd yn daer am gasgliad da elenieto i glirio y ddyled o ^350 sydd yn aros. Gall cau y Cbleg er yn anfanteisiol ar ryw olwg fod yn fanteisiol i ddod yn rhydd o.'r ddyled. Diolch- odd am bob cydweithrediad yn y gorffennol. Yn absenoldeb Trysorydd Trefecca, cyflwynodd y Parch. J. Morgan Jones yr adroddiad fel y canlyn Current Account—Cash at Bank, £ 6y 4s. 8d. Due to Bank, £ 45 18s. 6d.-Cr. Balance, £ 21 6s. 2d. Account per Bank Book—Restoration Building Fund, June 29, 1915 Loan received, £ 700; Due to Bank, ^30.—Total, Z730- March 31, 1915 Cash at Cardiff Bank, £ 292 14s. iod. Present Liability, ^437 5s. 2d. Collected by Rev. T. Howat, B.A., January to March 24, 19x6, ^194 13s.—This sum is. included in the above.
Adroddiad Pwyllgor y Milwyr.
News
Cite
Share
Adroddiad Pwyllgor y Milwyr. Hysbysodid yr Ysg. fod y Mri. Haelfrydedd wedi adeiladu oartref gwerth £1000 i'r milwyr Cymreig yn Aldershot. Llwyddwyd i gael yr arian trwy y Parch. David Williams, M.A., a John Owens, Caer. Pa&iwyd i ddiolch am y rhodd, ac ar gynhygiad y Parch. J. M. Jones, ac eiliadf Mr. T. Lewis, M.E., Blaengarw, gan mai perthyn i ni fel Methodistiaid y mae'r adeilad, er fod croesaw i bob Cymro fyn'd iddo, pasiwyd ein bod1 yn dwyn y draul flynyddol o £ 100 neu ^150 i'w gynnal. Ychwanegwyd y Parchn. W. W. Lewis; Abertawe, a D. Williams, M.A., at aelodau Pwyllgor y Fyddin a'r Llyages.
CYMDEITHASFA'R GARTH, MAESTEG
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
wen, J. R. Evans, -Qa,stellneddi; Mri. Daniel Wil- liams, Brynynant, Treforris, Thomas Jenkins, Pen- cae, Aberafon, Jeremiah Lewis, Cwmderwen, Og- more Vale. Dwyrain Morgannwg.—Parchn. H. W. Thomas, Porth, T. E. Davies, Dov-.1.ais, Thos. J. Jones, Tre- forgan, Caerdydd; Mri. Wm. Evans, Ynyshir (a), Thos. Morgan, Y.H., Cwmparc, David Jones:, Hir- waun. Hen. Gor. Morgannwg.—Parchn. D. W. Howell, Pencoed, W. W. Lewis, Loughor; Mri. E. Davies, Port Talbot, T. Davies, Pontardulais, a Williams1, Briton Ferry. Hen. Dwyr. Morgannwg.—Parchn. John Thomas, Llandaf, J. L. Evans, Barry, Thomas Bowen, Caerdydd Mri. O. Williams, Pentre, Thios. Thomas, Merthyr, Daniel Jones, Caerdydd. Mynwy.—Parchn. D. M. Rees, Tredegar. T. Di2;v. ies, Beaufort, D L. Jenkins, Bargced; Mri. Daniel Williams, Tredegar, Morgan javueV. Maesycwmer, J. Davies, Newport. Brycheiniog.—Parchn. Rees Evans., Llanwrtyd, Lewis James, Buallt; Mri. Howell Phillips, Senny Bridge, Llewelyn Williams, Aberhonddu. Llundain.-—Parch. John Thickens, Llundain, a Mr. W. O. Edwards, Harrow.