Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Nodion Ned Huws.

News
Cite
Share

Nodion Ned Huws. YR oedd llawer o wir yn yr hyn a ddywedodd Mr J. R. Davies y dydd o'r blaen yn Nghynadl- dd yr Ymneillduwyr yn Nghaernarfon. Ac frior hawdd ydyw dweyd llawer o wir, a hwnw in wir miniog, heb ddweyd yr boll wir. Gwir garw a gwrthun ydyw yr eiddigedd sectol y cyfeiriai Mr Davies mor briodol ato, ac nid all beidio peri poen dirfawr i bob Ymneillduwr Cydwybodol ac anhunanol. Hwn ydyw y pryf Sydd yn bwyta mer ein hesgyrn ni y Cymry yn .Y y dyddiau hyn. Nid pwy ydyw y dyn goreu erbyn hyn ydyw y cwestiwn pwysig, ond i ba Beet y perthyna. Gwisga yr eiddigedd hwn, taewn rhai amgylchiadau, weddfgreulon a dieflig. Oddeutu mis yn ol yr oedd gweinidog nid an- enwog yn traddodi darlith yn yr ardal hon. Bywyd y Cristion fel e'i dangosir yn Nhaith y Pererin, neu rywbeth i'r perwyl yna, oedd testyn ) gwr parchedig. Yr oedd elw y ddarlith, wrth gwrs, i fyn'd at yr achos yn y lie. Yn mhlith y gwrandawyr yr oedd lluaws mawr o Fethodist- iaid Calfinaidd, y rhai a brynasant docynau er Oawyn cynorthwyo eu brodyr gweiniaid. Ond %chymyger eu teimlad, pryd y dywedodd y darlithydd hyawdl, yn mhlith llawer o bethau c&redig eraill am y Calfiniaid, Wyddoch chwi beth 1 byddai yn well genyf ymddangos gerbron Duw yn y farn fel anffyddiwr trwyadl a phroffes- edig nag fel Methodist Calfinaidd Wrth gwra, ystyrid y gwr yn y fan a'r lie gan y bobl gallaf t)edd yn gwrando arno fel un oedd yn dyoddef gan wallgofrwydd amserol. Ac eto dyma'r gwr y nlynai rhywrai ei wthio fel ymgeisydd Sen- eddol dros Orllewinbarth sir Ddinbych yn yr etholiad diweddaf! Gwared ni, Arglwydd daionus Tra y bydd yr ysbryd anfrawdol ac "n-Nghristionogol hwn yn cyniwair ac yn caelei ^•chlesu yn ein gwlad-ta-ta i Gymru a ffarwel n dyheuadau cenedlaethol. Ond fe ddywedir fod mwy o ffyliaid nag o bobl gall yn marw yn y dyddiau hyn a'r awr hon, ttieddir, y cyflawnir y gair-" cenfigen a ladd ei pherchenog." Oes, y mae gwell gobaith yn aros lOYinru. Mae sectyddiaeth wedi gweled ei man tochaf. Wedi i'n harweinwyr ieuainc ymgymysgu s-'u gilydd yn y colegau, ac adnabod a deall eu gilydd yn well, edrychir yn y man ar y ere bachod culfarn fel hen ffosiLs neu ancient history. Ond son yr oeddwn am sylwadau Mr J. R. Davies. Gobeithio nad ydyw y darlun a dyna o YlStâd ysbrydol yr eglwysi Ymneillduol yn hollol gywir. Cyn belled ag y mae fy mhrofiad i yn lnyn'd, nid Dadgysylltiad a Dadwaddoliad ydyw yr unig bwnc sydd yn llenwi meddyliau ein hbglwysi a'n gweinidogion. Mae yr Efengyl, dialch am hyny, yn cael ei phregethu gyda grym a tterth y dyddiau hyn, ac os ydyw y dychwel- ^digion yn anaml, nid yw hyny ond yr hyn a fu 0 ? blaen pryd nad oedd son am Ddadgysylltiad 114 Dadwaddoliad. Braidd na feddyliwn fod Byniadau Mr Davies yn rhy gyfyng am waith Duw yn y byd. Gyda pharch a gwyleidd-dra y flylllunwn ddweyd nad Duw y seiat, y Gymanfa, yr Undeb, a'r Conference yn unig ydyw ein Duw ni. lVIae ei oruwchreolaeth yn cymeryd i mewn hyd Yn nod wleidyddiaeth ac yn rhychwantu dros loll amgylchiadau dynolryw. Ac os o gyfeiriad Yr Eglwys Wladol, fel y prophwyda Mr Davies, y tyr y wawr, pa wahaniaeth a wna hyny ? am y bydd yn wawr mewn gwirionedd ac yn datguddio ein pechodau a'n gwendidau. Ond pan ddeil attibell glerigwr ei lantern gorn rbyngddo a'r tywyllwch, na tbybied neb fod y wawr ar dori. Pan goda hi, ffy defodaeth a sectyddiaeth i'w llochesau, a bydd coed y maes yn curo dwylaw

: o : NQDIAQAU 0 IM Y'TAFWYS.

-0-Etholiad Trengholydd Dosbarth…

[No title]

Newyddion Cymrefg.

Nodion o Rydychen.

---0-Elelynt y Degwm yn Sir…

-0--Marohnad Yd Liverpool.

Advertising

o Y Boddiad yn y Ribble.