Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Cynadledd Ymneillduwyr Lloegr.

News
Cite
Share

Cynadledd Ymneillduwyr Lloegr. DADGYSYLLTIAD. CYNALIWYD y gynadledd hon yr wythnos ddi- weddaf yn Manchester, a tbriniwyd amryw faterion pwysig yn nglyn ag Ymneillduaeth. Ddydd Mercher, pan lywyddai Dr. Herber Evans, daeth pwnc y Dadgysylltiad dan sylw. Cynygiodd Mr. Hirst, Hollowell, y penderfyniad canlynol Fod y Gyngres hon yn llawenhau wrth ganfod yr arddangosiad o unoliaeth syl- weddol fodola rhwng enwadau Ymneillduol Lloegr a amlygwyd mor eglnr mewn cynadleddau blaenorol, ac yn teimlo yn falch y gallant ddis- gwyl i'r oil gydweithredu i wrthwynebu lledaen- iad addysg ac arferion offeiriadol yn y wlad. Gofidia oblegyd yr erledigaethau eglwysig a thirol a ddyoddefir gan Ymneillduwyr mewn llawer o leoedd yn y wlad ac anoga yr amryw- iol enwadau i sefyll yn unol yn eu tystiolaeth dros Grist yn mhob ymdrech o blaid cydraddol- deb hollol yr holl enwadau yn ngwyneb cyfraith y wlad yn y modd y gwelont yn oreu yn eu gwahanol gyfundebau." Sylwai gan mai cyn- adledd yr eglwysi rhyddion ydoedd y dylent ddatgan eu barn yn groew ar gydraddoldeb cre- fyddol. Teimlai yn llawen nad oedd un awydd i geisio rhwystro y gynadledd i ddatgan ei barn ar, y mater. Angen mawr yr amseroedd oedd Ymneillduaeth heb arni gywilydd arddel ei hun —Ymneillduaeth fyddai yn falcb ohoni ei hun, ac yn arbenig yn yr amser presenol pan yr oedd Cymru o fewn cam i gael cyfiawnder Heblaw hyny, pe byddai y gynadledd yn ddystaw ar yr adeg bresenol, byddai byny yn rbwym o ddylan- wadu yn ddrwg. Credent hwy mewn eglwys yn ol y Testament Newydd, tra yr ymdrechai y Llywodraeth osod i fynu a chynal Eglwys Offeiriadol. Yr oeddynt hwy am ymwrthod yn hollol kg ailenedigaeth yn y bedydd, y gyffes- gell, yr olyniaeth Apostolaidd, &c. Y Parch Hugh Price Hughes, M.A., a eiliodd y cynygiad, ac a sylwai pe byddai rhyw ymdrech yn y gynadledd i gaethiwo yr enwadau mewn cysylltiad a'r manylion, y byddai iddo ef wrth- wynebu, gan nad oeddynt yn dyfod yno mewn unrhyw deimlad o elyniaeth at Eglwys Loegr. Credai llawer ohonynt y byddai Dadgysylltiad yn fwy o fendith i'r Eglwys na dim arall. Ni fynai ef i neb feddwl mai eu prif amcan yn cy- farfod yno oedd ymosod ar yr Eglwys, ac nid siarad am y pethau pwysig a berthynent i'w ffydd. Llefai y lluaws erbyn hyn am bleidleisio, a phan roddwyd y penderfyniad gerbron, pasiwyd ef heb fwy na dau yn codi eu dwylaw yn erbyn.

--:0:-Fe Ddywedir

Y Cymdeithas Cenedlaethol.

--0-Barddoniaeth.

-.;0;-Cystadleuaeth y "Cymro."

[No title]

Robin Ddu Eryri.

---0 Capel ar dan yn Mrymbo.

Siryddlon Newydd.

:o: Maerod.

Advertising