Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
hewyddion Cymreig-
hewyddion Cymreig- Trywanwyd Goodman Nuttall yn ddifrifol, nos Sadwrn, yn Fflint, gan un o'r enw Francis Rogers. Mae'r dirwestwyr wrthi yn ddiwyd yn mhob rhan o Gymru yn gwrthwynebu adnewyddiad trwyddedau y tafarnwyr. Etholwyd Mr. R. 0. Roberts yn ddiwrthwyneb- iad ar Gynghor Trefol Arfon yn lie R. Ll. Jones, benodwyd yn fesurydd y Cynghor. Torodd tan allan ganol nos Sadwrn yn adeiladau Mr Wilson Griffith, groser, Glodcleeth Street, Llan- dudno, a gwnaed cryn niwed. Mae 500p wedi eu casgla yn barod gan Gyngrair Rhyddfrydol y De at ddwyn materion Cymreig gerbron yr etholaethau Seisnig. Ddydd Mercher, agorwyd nodachfa yn Nhrefriw gan y Mil. Higson, l'las Madog, elw yr hwn aiff at dynu dyled capel yr Annibynwyr i lawr. Cafwyd hyd i gorph Frederick Bowdeii, llyfr- werthydd, Abert&we, mewn rhwyd bysgota allan yn y bau, ddydd Gwener. Er cof am y diwecldar Arglwydd Penrhyn, gosodwyd ffenestr liwiedig hardd yn Eglwys St. Mair, Bangor, ddydd Mawrth. 71 Mewn cyfarfod arbenig o Gynghor Dinesig Ban- gor, nos Wener, penderfynwyd myned yn mlaen ar unwaith gyda'r Pier newydd, a dewiswyd Mr J. J. Webster, Llundain, yn beirianydd. Ddydd Mawrth, yn y Llys Sirol, traddodwyd Jesse Taylor, Ifton Heath, Croesoswallt, i sefyll ei brawf am dwyllo Cyfrinfa Odyddol Trevor o lOp tra'n gweithredu fel ysgrifenydd y gymdeithas. Yn llys ynadon Merthyr, ddydd Llun, traddodwyd Samuel Blissett i sefyll ei brawf yn y frawdlys nesaf ar y cyhuddiad o lofruddio ei wraig yn Now- lais. Torodd rhyw leidr beiddgar i fasnachdy Mr Joseph Roberts, Stryd y Llyn, Caernarfon, nos Sabboth diweddaf, ond ni chafodd ond chwe' chein- iog a gwlawlen am ei drafferth. Mae y ddeiseb at y Trysorlys er cael b!wydd-da' i'r heddgeidwad lien gar, Mr Charles Ashton, Dinas b Mawddwy, wedi ei harwyddo gan brif ddynion y genedl. Bu corau tair Eglwys Gymraeg Llundain yn mwynhau eu hunain y dydd o'r blaen yn neuadd y Parch. G. Hartwell Jones, Rheithor Nutfield, Surrey. Yn yr hwyr, caed gwasanaeth Cymreig, dan arwemiad y rheithor galluog. Mae'r Ddirprwyaeth Dirol Gymreig, a lywyddid gan Argl. Carrington, wedi cyflwyno ei hail adrodd- iad i'r Senedd. Cynwysa'r gyfrol yn agos i 1,000 o dudalenau, a cheir ynddi dystiolaethau y 23 eis- teddiad gynaliwyd yn Llundain ac mewn amrywiol drefi yn y Dywysogaeth. Mewn cyfarfod o bwyllgor gweithiol Cynghrair Rhyddfrydol y De, yn yr hwn yr oedd yn bresenol ddirprwyaeth oddiwrth Gyngrair Rhyddfrydol y Gogledd, penderfynwyd cynal cynadledd genedl- aethol yn Aberystwyth, o leiaf lis cyn ymgynull- iau y Seaedd y tymhor nesaf, i ystyried darpar- iadau Mesur y Dadgysylltiad. Mae emvnyddiaeth y cysegr yn cael cryn sylw yn Nghvmru yn bresenol Llywydda Esgob Bangor y 1 bwyllgor uadebol o'r esgobaethau er dwyn allan lyfr newydd at w&sanaeth yr Eglwys ac ar fyrder disgwylir llyfr emvnau newydd jyr Annibynwyr i tra mt.e'r Methodistiaid Calfinaidd wedi ethol pwyllgor i ddewis emynau, a disgwylir i'w llyfr hwythau fod allan yn mhen blwyddyn. Fis Mai 'diweddaf cynaliwyd ymchwiiiad gan Fwrdd Masnach yn y Wyddgrug, i gais Bwrdd Pysgodfeydd Lancashire am gael eangu eu rhan- barth fel ag i gynwys y mor ar ffiniau Rhyl. Yn ystod yr ymchwiiiad, gwrthdystiwyd yn erbyn yr eangiad gan bysgotwyr y Rhyl. Deallir yn av/r fod cais Bwrdd Lancashire wedi ei gadarnhau gan Fwrdd Masnach. Mewn llythyr yn y Times am ddydd Sadwrn, dywed Esgob Bangor nad oes sail o gwbl i honiadau Mr. D. Lloyd George, A.S., yn y Senedd parth Cyfrifiad Cymru, n.or bell ag y mae a fyno ef a'r cyhuddiad. Ni ddanfonais erioed gylc,l-ilytliyr i glerigwyr fy esgobaeth yn dal perthynas a'r Cyfnl- iad ac ni chyfeiriais erioed unrhyw ohebiaeth i'r Cofrestrydd Cyffredinol ar hyn nac unrhyw fater arall." Dyna ei eiriau. Mewn cyfarfod 0 Warcheidwad Conwy, ddydd Gwener, tan lywyddiaeth y Parch W. V enables Williams, hysbyswyd fod Mr Allan Picton, A.S., wedi ymweled a'r ty, ac wedi ysgrifenuyn llyfr yr yrnwelwyr ei fod yn ystyried "y cartref hwn i'r tlawd a'r methedig yn gynllun o'r hyn ddylai tlottai fod." Yr oedd yn y llyir amryw nodiadau canmoliaethus eraiil, yn cynwys un gan y Parch Dr Llugwy Owen.
-:0:-. Streic mewn Clofa yn…
-:0:- Streic mewn Clofa yn Sir Fflint. [AE'R dynion a weithiant yn Nglofa Bettis- field, ger Bagillt, wedi gwrthod gwoithio er nos Lun, oherwydd annghydfod gyda'r meistri parth y gostyngiad o 10 y cant a fwriedir wneud. Mae 800 o ddynion yn y lofa uchod, o'r rhai nid oes ond 200 yn gweithio wrth y dydd. Bore Mawrth, cynaliodd y dynion gyfarfod mawr wrth y pwll, pryd y siaradodd Mr E. Peters, goruchwyliwr y glowyr yn sir Fflint, gan gyfeiiio at gyflogau bychain y dynion yn y lofa uchod. Ni ddylai umhyw ddyn, meddai, fvned i lawr pwll, os nad oedd yu werth o leiaf 4s y dydd. Angen mawr y dynion ydoedd undeb, a dylai gweithwyr Bettisfield, fel y glo- feydd eraill, fod yn aelodau yn N ghynghrair Glowyr Gogledd Cyror ■. Ar ol cryn siarad, penderfynwyd gan y "gweithwyr wrth y dydd nad oeddynt i dderbyn y gostyngiad o 10 y cant ac hefyd eu bod oil i uno a'r Cynghrair uchod, ac fod pob un na ymuuai yn mhen y mis gael ei orfodi i wneud neu adael y gwaith.
[No title]
-0- Cynaliodd Cymdeithas Amaethyddol Uwch Aled ei harddartgosfa flynyddol yn Nglierrig- y-Druidion, ddydd Mawrth diweddaf. Col. Ivlaiuwairing, Galltfaenan, oedd y llywydd. Daeth torfeydd lluosog yn nghyd, ac yr oedd yr anifeiliaid arddangosid yn llawer mwy mewn nifer na r blynyddau o'r blaen, ac o ansawdd rhagorol.
! Nodion o Fon ac Arfon.I…
Nodion o Fon ac Arfon. Nos Lun. I Y BYRDDAU WEDI TROI. TRWY'R holl flynyddoedd y Toriaid sydd wedi dal y gaerfa yn Nghor Trefol Caernarfon, ond erbyn hyn y mae y byrddau wedi troi, ac y mae tri ar ddeg o Ryddfrydwvr ar gyfer un ar ddeg o Dori- aid, yn eistedd yn ein Senedd Drefol. Etholwyd Mr R. O. Roberts ddydd Sadwrn fel olynydd i Mr R. Lloyd Jones, surveyor. Y mae Mr Roberts yn hogyn u'r dre' ac yn Rhyddfrydwr pybyr. Efe oedd agent Mr Lloyd George yr etholiud diweddaf, pryd y caed mwyafrif mor sylweddol. Mae'r dref wedi llefain er's talm am gael gwaed newydd i'r Cynghor, ac o fewn y tri mis diweddaf, dyma ni wedi cael tri o rai "newydd spon," sef Mri D. Pierce, yr Afr Aur a Mri J. T. Roberts a R. O. Roberts, cyfreithwyr. Disgwyliwn lawer oddi- wrthynt.
ER COF.
ER COF. Bore ddoe, cafwyd gwasanaeth neillduol yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd Saes-ieg yn Castle Square, er coffadwriaeth am yr Is-gadben Walter Davies, yr hwn a foddwyd yn yn y Fenai flwyddyn i'r wythnos ddiweddaf. Aeth seindorf y gatrawd, i ba un yr oedd Mr Davies yn perthyn, i'r capel, a chwarenasant amryw donau yn swynol. Y mae hyn yn rhywbeth newydd mewn capel Meth- odistaidd, ac y mae yn lied debygyr edrycha rhai ar y peth gyda gwg ond a dweyd y lleiaf, yr oedd yn arddangosiad o deimladau da, tuag at yr ym- adawedig, yr hwn oedd yn fachgen ieuanc caredig, ac yn aelod ffyddlawn a haelionus yn Castle Square.
Ap FFARMWR.
Ap FFARMWR. Y mae ein cyfaill llengar Ap Ffarmwr yn myn'd i'n gadael, ac yn myn'd i Ferthyr Tydfil. Er's talwm, pan y byddai dyn wedi cyflawni rhyw dros- edd yn Nghymru ao eisiau osgoi y gyfraith, i'r Merthyr a fo yn syth, a byddai yn lied ddyogel. Dyna oedd dinas noddfa pechaduriaid Gogledd Uymru. Ond nid ffoi rnae ein cyfaill, ond yn myned i lanw cadair clygyddol y Merthyr Times-newydd- iadur Rhyddfrydol a chylchrediad helaeth yn tnro Morganwg. Er mor ddrwg genym weled Mr Jones yn cefnu arnom, da genym ei weled yn cael ei an- rhydeddu. Y mae yn lienor gwych, yn Rhydd- frydwr pybyr, ac yn gyfaill cywir. Nid ydyw yn ddyeithr i ddarllenwyr y Cymro. Bu rai blynydd- oedd yn ol yn eu dyddori gydag ysgrifeniadau bywiog. Yr ydym yn cofio yn dda ei ysgrifau dy- ddorol ar ei ymweliad a. Lleyn. El ein cyfaill gydag ef ddymuoiadau goreu cylch eang o gyfeill- ion yn Mon ac Arfon. Eiddunaf finau i'm cyfaill hoff, Duw yn rhwydd. CYMRO GWYN.
Ymgeäsydd Bwrdsisdrefj Maldwyn.
Ymgeäsydd Bwrdsisdrefj Maldwyn. RHYFKDD y darganfyddiadau a wneir ar adeg etholiad. Yr wythnos ddiweddaf, yn y Montgom- eryshire Echo cyhoeddwyd y paragraph canlynol- MAE Mr J. W. Willans (yr ymgeisydd Rhyddfryd- ol) wrth ei alwedigaeth yn beirianydd trydanol. Efe hefyd sy'n llanw y safle o Gadeirydd Bwrdd Masnach Llundain, yr hyn, ynddo ei hun, sydd yn brawf digonol o'i allu masnachol—elfen a amvybyddir yn rliy ami mewn ymgeiswyr am anrhydeddau seneddol. Erbyn hyn, mae rhyw "Etholwr" wedi dargan- fod fod y newydd yma. yn anwir ac fel dyn wedi darganfod byd newydd yn y fTu,-faf,n, ysgrifeni i'r papur y cyfeirir ato fel y canlyn— Ai ni hysbyswyd chwi fod y pwff bychan byr yna heb unrhyw seiliau ffaith, ac nad oes gan Mr J. W. Willans gysylltiad na pherthynas o gwbl a Mr Wil- lans, Cadeirydd Bwrdd Masnach Llundain, a chyfar- wyddwr Pawson a Leaf, cyf.? Mae yn edrych yn annghyffredin fod Mr J. W. Willans wedi ymdoithio trwy y chwe tref bwrdeisiol yr wythnos ddiweddaf ar bwys bod yn berson arall, ac heb wneud cyfiawnder a'i gymeriad trwy wrthddweyd yr ad- roddiadau camarweiniol. Diau genym fod Mr Willans, yr ymgeisydd, yn gwybod mai nid efe oedd y person arall, ac yn gwybod y deuai pawh arall i wybod hyny yn bur fuan ar adeg etholiad, ac felly ni thraSerthodd i wadu yr honiad.
-0-Sedd wag yn Birkenhead.
-0- Sedd wag yn Birkenhead. TRWY farwolaeth larll Albemarle, dyrchefir yr Is-iarll Bury i Dy'r Arglwyddi a chan mai efe ydyw cynrychiolydd Ceidwadol Birkenhead, bydd sedd wag i'w llanw. Yn yr etholiad di- weddaf llwyddodd Mr W. H. Lever, yr ymgeis- ydd Rhyddfrydol, i gael 5,159 o bleidleisiau yn erbyn 5,760 ei wrthwynebydd.
: o : Marchnadoedd.
o Marchnadoedd. YD. Lerpwl, Awst 2. Cyflenwad da yn y farchnad heddyw, ond y fasnach wedi gostiviig Ixe i -1 c y cental ar brisiau y dydd blaen- 2 orol. Gwenith yn gadarn, a galwad da am dano. River Plate. 19s 10c; Califfornaidd, 24s; Awstral- 2 aidd, 24s Walla Walla, 23s. Indrawn, er nad yn fywiog, eto yn gadarn, Danubaidd, 19s 9c, Haidd yn dawel, Azoff, lis 3c. Dim masnach mewn ffa.
Llundain, Awst 28,
Llundain, Awst 28, Y fasnach yn sefydlog heddyw, a'r prisiau yn gadarn. Gwenith, Califfornaidd, 4s 10c; Manitoba, 5s Olc i 5s 1c. Ffa wedi gostwng ychydig, Saidi, 22s i 22s 6c. Indrawn yn gadarn, cymysg, 5s 1c i os llc.
Caer.-Awst 25.
Caer.-Awst 25. Y chydig iawn o fusnes a wnaed heddyw, ac nid oedd dim hen ydau ar werth. Cyflenwad bychan a phrisiau isel am geirch, ffa, a haidd. Dangosodd Indrawn duedd at ostwng yn y boreu, ond erbyn yr hwyr cadwodd ei bris blaenorol i fynu. Gwenith coch, hun, 3s 10c y 75 pwys; haidd at fragu, hen, 4s y GO pwys; ceirch, newydd, 2s 3c i 2s 4c y 46 pwys eto, hen, 2s 10c i 3s; ffa, hen, 5s 6ch y 80 pwys; Indrawn, hen, lis 6ch i 13s 6ch y 240 pwys.
ANIFEILIAID
ANIFEILIAID Caer, Awst 25. Cyflenwad mawr, ond vehyclig o brynwyr. Gwar- theg godro, 14p i 18p cyfioion, 12p i 16p heffrod, Sp i 13p. Defaid, 14s i 32s.
Salford, Awst 28,
Salford, Awst 28, Gwell cyflenwad o anifeiliaid, ond marchnad dawel, a'r prisiau o'r braidd yn dod i fynu a'r wythnos flaen- orol. Heffrod a bustych goreu, Gie i 6^0 buchod, 5c i 5^c; Hoi, 6c i 7c defaid, S|c i 85c wyn goreu, 85c i 8ic.
-Birmingham, Awst 28.
Birmingham, Awst 28. Cyflenwad da o wartheg a defaid, ond moch yn brin. Masnach weddol. Biff, 5c i 7c; molltgig, 5c i 8c; wyn, 8c i 9ic; cig lloi, 7c i 8c. Moch bacwn, 2 8s 9c i 9s y scor pyres, 9s 6c i 9s 9c; hychod, 6s 6c y sc6r.
Clawdd Offa a'r Cyffiniau.
Clawdd Offa a'r Cyffiniau. Nos Fawrth, bu yr hen batriarch Thos. Hughes, Machynlleth, yn nghapel yr Adwy, yn traddodi ei gynghorion mewn perthynas i "Lyfrau, Darlieu, Moesau, a Chrefydd yr Oes." Llyw- yddwyd gan Mr. J. Lewis, Wern Villa. Prydnawn ddydd Llun, bu Mrs Raikes yn cyflwyno gwobrwyon i oreugwyr (neu yn hytracti blantos) chwareuaethau blynyddol Seindorf Arian Coedpoeth. Wrtb gwrs, yr oedd ei hanwyl briod gyda hi, yn nghyda lluaws o'r un gredo ag ef. Bhyfedd fel y mae y chwareuaeth- au hyn wedi tyfu yn ystod y ddwy flynedd ddi- weddaf ond pan i gymerir ystyriaeth y class o grefyddwyr sydd yn gofalu am eu tyfiant 'dyw byn ryfedd yn y byd 'chwaith. Yn nghwrdd llenyddol Nebo, Bwlchgwyn, ymgeisiodd 21ain ar englynu i'r Mul." Lot go dda, onide a'r un gaed yn oreu o'u plith yd- oedd yr englynwr penigamp J. Hughes (Ap Tegla), ac y mae eisiau un annghyffredin o dda i'w guro ef hefyd. Yr oedd Penrhynfardd, wrth fynegu ei feirniadaeth, yn trin un o'i ymgeiswyr yn trchyll im lenladrad. Fuaswn i ddim yn hoffi bod yn nghroen y gwalch hwnw, pwy bynag ydyw. Mae hogie y Gatewen a'r Plas Power yma yn gweithio yn gampus 'rwan, ac, o ganlyniad, yr ydym ninau yn y traws yma yn cael mwy o wageni; eto, gallem wneud ag ychydig yn ychwaneg. Choeliech chwi byth, Mr Gol., mor bwysig ydyw i ni fod ar delerau da a'r hogie, gan mai nhw (a dweyd yn ddistaw) sydd yn rheoli pethau. Pan fyddwn ni, yr hen lowyr, eisiau gwrthsefyll rhyw gais annghyfiawn, yr ydym ar unwaith yn myn'd yn ganddryll o fan bleidiau ond am yr hogie, y maent yn unol ar bob cwestiwn o'r bron nis gwn pa esboniad roir ar beth fel hyn, os nad heb dyfu i'w cyf- lawn faintioli mae cynffonau yr hogie, ai ynte fod y mil blynyddau yn ymyl, a bod oes y cyn- ffonwyr llechwraidd a bradwrus bron ar ten; gobeithio yr olaf. Yr oedd yn dda genyf glywed fod gweithwyr glofa'r Fron wedi penderfynu yrnuno ag Undeb y Glowyr, a thrwy hyny gydweithio a°ni yn y Plaspower. Da iawn, fe wnawn rywbeth ohoni fel yna. NED PUW.
0--Ysgol Ramadegol Rhuthin.
0-- Ysgol Ramadegol Rhuthin. YJIDDANGOSODD y llytbyr canlynol yn y Times am ddydd LInn :— SYR,—Galwyd ein sylw at gylchlythyr dyddiedig Mai, 1888, ac wedi ei arwyddo genym ni, yn dweyd fod Ysol Ruthin yn anemvadol, ac nad oedd y dysgyblion yn gorfod myned dan un math o brawf crefyddol. Arferwyd y gair hwn genym ni yn syml i ddynodi'r ffaith ein bod yn derbyn plant Eglwyswyr ac Ymneillduwyr fel eu gilydd i'r ysgol; ac ni feddyliasom erioed am gyfleu'r syniad fod nodwedd grefyddol wahaniaethol yr ysgol i gaol ei roddi hoibio. Nid oedd y gair anenwadol yn cyfleu yr un ystyr i ni ag a roddwyd iddo wedi hyny. Ni ddisgwyliodd neb y buasai ymgais yn cael ei wneud i gymeryd meddiant o'n hysgol Eg- lwysig drwy y Ddeddf Addysg Ganolradd Gymreig. —Eich ufudd \vasanaethyddion, W. CORNWALLIS WEST, Arglwydd-Raglaw Sir Ddinbych BULKELEY 0. JONES, Cadeirydd Corph Llywodraethol Ysgol Rhuthin J. H. PULESTON.
---0---1 Llool.
-0- Llool. DANEONWYD 60 o lythyrau allan yr wythnos ddi- weddaf, yn gwahodd swyddogion y capelau Cymreig i bwyllgor nos Fawrth ar sefyllfa addysg ac Ymneill- duaeth yn y ddinas; a daeth wyth yn nghyd Y MAE'r Cambrian Quartette, yr hwn ydoedd bur gymeradwy yn nghyngherddau Lerpwl rai blynyddau yn ol, wedi adfywio. Y mae yn aros yma ddau o'r aelodau ar y cyntaf, sef Mri. D. J. Davies a J. T. Jones; a chymerir lie Mri. 0. J. Rowlands a D. Wil- liams gan Mri. Ben. Roberts a R. Wynne Jones. Buont yn canu gyda'u gilydd am y waith gyntaf o'r tymhor yn Llandudno yr wythnos cyn y ddiweddaf,- a chawsant encor bob tro. w
Advertising
At Gymdeithasau Darllen Gartref, &c YN BAROD MEDI 22, PRIS SWLLT, "Llythyrau Goronwy Owen," Wedi eu manwl gydmaru a chopiau mewn ysgrif,'yn nghyda rhai llythyrau nad oeddynt mewn casglioidau blaenorol. DAN OLVGIAKTH Y Proff, J. MORRIS JONES, M.A., COLEG BANGOR. I. FOULKES, Cyhoeddwr, 18, Brunswick Street, Liverpool. T RAI AR YMFUDOI AMERICA.—American Line—United States Royal Mail Steamers, Passage to PHILADELPHIA or NEW YORK for z21 16s.— Apply to WILLIAM THOMAS, Passenger Broker 34, Norton Street, Liverpool. OL-RIFYNAU, hen a diweddar, o'r holl Gof- 0 nodolion Cymreig. Goheber a DAVID ROBERTS, Bookseller, Ffestiniog. FOR COUGHS & COLDS, TRY A LLAN'S PINE TAR TABLETS. Immediate benefit. 1/11 of all Chemists. 2 T) L A U D PILLS, 1) 1s l'Bfi (JR0S3, 3 OliOSS FOE. 2 s 0D. WHY PAY EXORBITANT PRICES? Post Free from H. ALLAN, PHARMACEUTICAL CHEMIST, 59, BRECK ROAD, LIVERPOOL. TRAINED Male or Female NURSES supplied T to all parts, from a Guinea a week.—Institu- tion, 70, Hope Street. Telephone 570. Telegrams Nurses," Liverpool. Invalids received. GLANHAU TAI. THE NORTH OF ENGLAND CARPET SHAKING & CLEANING Co. 22, UPPER DUKE STREET, LIVERPOOL. CARPETS called for Lace Curtains, Shaken and returned Bed Drapery, following day. Blankets, Quilts, &c., TELEPHONK CLEANED, 2486.
Family Notices
GENEDIGAETHAU, PRIODASAU A MARWOLAETHAU. Codir chwe' cheiniog ar bob hysbysiad a ddanfontT dan y period hwn, a rhaid i'r danfonydd roddi e enio a'i gyfeiriad. (SeneDigaetbau. JYlomns-Awst 23, yn 32, Thurnham Street, priod R. D. Morris, ar ferch. TprioDaaau. GRIFFITH EVANS—Awst 28, yn Eglwys Dewi Sant' Lerpwl, gan y Parch James Davies, M.A., Wni- Owen Griffith", Llangefni, a Jane Evans, DinorWic Street, Caernarfon. PARKY—WILLIAMS—Awst 22, yn nghapel y M-1-" Gowerton, gan y Parch W. D. Williams, gweinidog y lie, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch D. Cunllo Davies, Caio, Mr S. Kirkham Parry, Cynwil-Gaio, a Mary, ail ferch Mr Edward Williams, Bryfl Martin, ger Llanelli, sir Gaerfyrddin. JONES—EDWARDS—Awst 20, yn Nghapel y Meth- Cyntefig, Rhosymedre, gan y Parch. Abel Taylor, » Mr. J. Denbigh Jones, cofrestrydd, William JoneS a Mary Ann Edwards—y ddau o'r Cefn, Rhiwabou- THOMAS- ROBEKTS—Awst 22. yn Nghapel y Taber- nacl, Bangor, gan y Parch. T. J. Wheldon, B. A-> Owen Thomas, Glan'rafon, a Mary Catherine R°' berts, Tabernacle Street-y ddau o Fangor. fftarwolaetbau. DAVIES-Awst 21, yn 68 oed, Ann, priod yr Henadttf Edward Davies, Dolcaradog, Machynlleth. GITTINS Awst 27, ar ol hir nychdod o'r darfocledig aeth Christopher Gittins, dilledydd, High Street, Llanfaircaereinion yn 38 mlwydd oed. i- JONES—Awst 23, yn 66 Tetlow Street, Kirkdak weddar o Rock Ferry), yn 19 oed, Samuel Heroes anwyl ac ieuengaf fab Samuel ac Annie Jones. LEWx!$Awst 21, vn ei breswylfod, Bodrida 1 » F Llangeinwen, M'un, yn 81 oed, Owen Lewis. Printed and Published by ISAAC FOULKES, his Printing Establishment, 18, BrunsWi Street, in the Pacirh of Liverpool, in the Couatf of Lancaster.
PWLPUDAU CYMREIG, Medi 2.
PWLPUDAU CYMREIG, Medi 2. LERPWL, -0- Y METHODISTIAID CALFINAIDD, Princes road— Am 10, E Jones, Dinbych; am 6, O J Owen, M.A. Davl,'(,l street-Aiii 10, 0 1 Owen, M.A.; am 6, E Jones, Fitzclarence st7-eet--A m 10. G- Ellis, M.A.; am 6, E J Evans. Netherfield road-Am 10. E J Evans; am 6. G Ellis, M.A, Chathav?, st?,eet-Am 10 a 6, E Jones, Caernarfon. Crosshall street-Am 10 a 6, A Roberts, TJundain. Arlield rOCld-Am 10 a 6, D Williams, Penmorfa. Newsham. Park -Am 10 a 6, R Richards, Rhyl. Bootie-Am 10 a 6, 0 Prys, M.A., Trefeoea. Birkenhead—Am 10 a 6, T Gray. Seacombe-Am 10 a 6. W Jones. Garston—Am 10 a 6, E 0 Davies, B.Sc. Rock Ferry—Am 10 a 6, L Lewis Walton Parlc-Am 10 a 6, D Jones, Disgwylfa. Water-oo—Am 10 a 8, flui/ton Quarry—Am 10.30 a 6.15, E Davies, Cilcen. Peel road—Am 10 a 6, "W Jones, tlanfairfechan. flolt road-A-m 10 a 6, H Jones. D.D. Webster roadg=Am 10 a 6, J H Morris, New Bright*Am 10 a 6. T Jones. Market street, Birkenhead—Am 6. E Edwards. Brassey street, Birkenhead—Am 6, West Kirby—Am 11, a 6.30, Owen Jones, Llanrug. Silsh Whiston-Am 10.30 a 5.45, John Evans, Bangor. Y BEDYDDWYR. Enerton Village Am 10.30 a 6, D Powell. Windsor street—Am 10 '0 a 6, W Samuel. Capel Seion, Bonn field street—Am 10.30, a 6. P Jones. Edtje Lane—Am 2.30 a 6 P ft EvHvards, Rhyl. Knowsley road, Bootic-Am 10.30 a 6, L W. Lewis. Braseiwse road. Bootle—nt 10.30, 2 a 6, Woodlands. Birkenhead-Am 10.30 a 6.15, J Davies, YE ANNIBYNWYR. Tabernad—Ara 10.30 a 6, R Thomas. Grove street—Am 10.30 a 6, D Davies, Llanharran. Park road -Am 10.30 a 6, D M Jenkins. Great Mersey street—Am 10.30 a 6 S Evans, Llandegla. Clifton road, Birkenhead -Am 10.30 a 6 15, R J Williams, Llandudno. Kensington—Am 10.80, R D Jones am 6, E Jones, Bangor. Trinity road, Bootle—Am 10 30, Ellis Jones am 0, RD Jones Marsh Lane- A ru 10.30 a 6, LI Williams, Coedpoeth. Seacombe—Am 10.30 a 6.30, Vittoria street, Birkenhead-Am 10.30 a 6.15, Y WESLEYAID. Shaw street—Am 10.30, W C Jones; am 6. J R Ellis, Boundary street-Am 10.30, D Jones am 6, 0 L Davies. Trinity road, Bootle-Aro 1030,0 L Davies; am 6, W C Jones. Edge Hill, Plimsoll street-Am 10,30, J R Ellis; am 6, D Jones Common Hall-Am 2-30, J R Ellis am 6, H Tudor. Knowsley road, Bootle-Ani 2.30 a 6, A Owens. Mynydd Seion -Am 10 30, J Hughes; am 6, D G Jones. Hirlcenhead—Am 10.30 D G Jones am 6, E Edwards. Widnes-Am 10 30, a 6, R Morgan. Garston-Am 2.30, D G Jones am 6, D Pugh. BaTlestown-Am 10.30 a 5.30, E Hughes, Llerinon-Am 10.30 a 5, H H Chambers. Golborite-Ara 2 a 5.30, W Williams. Seacombe-Am 10.30,0 L Davies; am 6, J Hughes. Bock Ferry—Am 2.30 a 6, W Williams. Wigan-Am 10.30, W Williams am 6, J Griffiths. Leigh-Am 10,30 a 6, R Roberts. St Helens-Am 10.30 a 6, 0 Hughes. FaTnwofth-Aro 2.30 a 6, W Williams. Darwen-Am 3.15, a 6, E T Hughes. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Sant Dewi -Am 10.30 a 6.30, James Davies. M.A. Sant Asaph-Am 10.45 a 6.30, J Myfenydd Morgan. Sant Nathaniel-Gwasanaeth am 10.30 a 6.30, 0 F Williams. St. Winifred Birkenhead—Am 10.45 a 6.30, Robert Edwards MANOEINION. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Moss Side-Am 10.30, Evan Davies, Trefriw am 6, R Jenkyn Owen. Pendleton-Am 10,30, T Lloyd, Ffestiniog am 6 30, E Davies lleywood st-reet-Am 10.30, R J Owen am 6.30, W James. B.A. Higher Ardwiclt -Am 10.30, W James, B.A.; am 6.30, T Lloyd. Tyldesley-Am 10.30 a 6, B Pritchard, Rhos. Y WESLEYAID St. Davids-Am 10.30, J Hughes am 6, W Jones. Collyhurst st.-Ara 10 30, W M Jones; am 6, J Hughes Gore St.—Am 10.30, W Jones am 6, T Pugh. Openshaw-Am 2.30, T Pugh am 6, W M Jones, CAER LLEON. Methodistiaid Calfinaidd, St. John Street-Am 10.30 a 6, J P Davies, M.A. ,A2tnibynwllr, Albion Park-Am 10-45 a 6, E Davies. Bedyddwyr, Upper Northgate Street-Am 10-30 a 6, Mf Wynne. Wesley aid, Queen Street-Am 10-30 a 6, W Thomas.