Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Cofeb Daniel Owen.

News
Cite
Share

Cofeb Daniel Owen. BRYDNAWN ddydd Lluu, cynaliwyd cyfarfod yn nglyn a'r mudiad uchod yn y Westminster Hotel, Caer. Cymerwyd y gadair gan Mr J. Herbert Lewis, A.S., ac yr oedd yn bresenol y Parchn W. Morgan a John Owen, Wyddgrug; Mri Peter Jones, Bootle Henaduriaid Thomas Parry, John Price, G. H. Adams, E. P. Edwards, T. B. Wil- liams, H. Lloyd Parry, Mri 1. Foulkes; Kerfoot Evans, Treffynon A. Roberts, Bagillt; Llewelyn Eaton, ysgrifenydd mygedol, &c. Derbyniwyd liythyrau a phellebrau yn datgan eu hanallu i fod yn bresenol, a'u cydymdeimlad dwfn a'r mudiad oddiwrth yr Archddiacon Howell, Syr G. Osborne Morgan, A.S., Esgob Bangor, Prifathraw T. F. Ro- berts Idriswyn, Caerdydd; Prifathraw Prys, Mri O. M, Edwards, J. L Muspratt, J. E. Davies, Wyddgrug; John Morris, Lerpwl; R. W. Jones, Garston; J. W. Lnmley, Rhuthyn; Thomas Williams, Gwalchmai; Parch Wm. Hobley, Bont- newydd Mr Benjimin Thomas, Lerpwl; Parch T. M. Jones, Penmachno Heoadur Peter Jones, Helygain; Alafon, Gynghorwr Wright, Wyddgrug gol. y Goleuad; Mri T. M. Jones a T. Jones, Bwcle Cochfarf, Caerdydd E. Roberts, Rhuthyn R. E. Davies, D. P. Morris, Rhyl: J. Jones, Pres- tatyn Hnghes a'i Fab, Gwrecsam Peter Roberts, Llanelwy; T. C. Williams, Rbydychain R. Jones, Pertheirin E. S. Roberts, Lerpwl; R. Drury eto Parchn G, Ellis, Bootle; Proff. Ellis Edwards, Bala, &e. Y Cadeirydd a ddywedoJd eu bod wedi eu galw yn nghyd i ystyried y cwrs mwyaf teilwng i goffa enw a gwaith eu cydoeswr enwog Daniel Owen. Diangenrhaid oedd iddo ef ddweyd fod y gwaith wnaed gan y nofelydd ymada.wedig yn waith cen- edlaethol, ac yn waith fyddai byw tra pery'r Gym- raeg. Hyderai y byddai'r symudiad gychwynid y dydd hwnw yn abl i godi cofeb a gariai enw Daniel Owen i'r oesau a ddel. Ni pherthynai ei goffa i blaid na sect; eiddo y genedl ydoedd. Bfyddai i'r gwaith wnaed gan y nofelydd gynorthwyo pjtrhad yr iaith Gymraeg, a rhoddi i'r Saeson uwch a gwell barn am y Cymry fel cenedl. Gwaith anhawdd— yn wir, nis gallai ond dyn athrylibhgar ei wneud- oedd portreadu pobl yn y fath fodd fel y gaUai cenedlaethau dyfodoi gael darlun byw ohonynt; a dyna'r gwaith anmhrisiadwy a wnaeth Daniel Owen i Gymru. Da oedd ganddo weled sir Ffiint -y sir He bu Mr Owen yn byw ac yn llafllrio- wedi anfon cynrychiolaeth dda i'r cyfarfol, oblegyd gallent deimlo yn sicr y byddai i'r sir gael ei hen- wogi gan gysylltiad Daniel Owen a hi, Oafodd ef (Mr Lewis) yr anrhydedd o'i gynrychioli yn y Senedd, ac f lly priodol oedd iddo ef gymeryd rhan yn y mudiad. Eglurodd Mr Eaton fod syrnudiad ar droed i roi tysteb i Mr Owen pan oedd ar ei glaf wely er mwyn ei gysuro. Cymerwyd yr awgrym i fynu gyda sel mewn llu o leoedd, ond bu ef farw cyn per- ffeithio'r trefniadau. Teimlai ychydig gyfeillion y buasai yn resyn gadael i'r cyfle fyned heibio, a chynaliwyd cyfarfod yn Wyddgrug i ystyried y modd goreu i symud yn mlaen. Penderfynwyd fiurfio cronfa goffadwriaethol, a bod y gofeb i fod yn genedlaethol. Teimlai Mr Eaton yn hyderus y gellid casglu 1,000p. Y Cadeirydd a sylwodd fod yn amlwg oddiwrth y tanysgrifia iau dderbyniwyd a'r liythyrau ddar- llenwyd fod dymuniad cyITredinol am i enw Daniel Owen gael ei anrhydeddu, ac felly yr oedd y cwrs gymerwyd ganddynt yn cael ei gymeradwyo. Yr oedd llawer o wir yn yr hyn ddywedodd yr Arch- ddiacon Howell, sef eu bod yn rhy barod i anrhyd- eddu v marw trwy gymeryd mantais arnynt i lesoli y byw i raddan. Dylent anrhydeddu y marw er eu mwyn eu hunam, yn neillduol mewn achos o'r fath yma. 0 berthynas i Surf y gofeb, tybiai y byddai raid iddynt dori y gob i ateb i'r brethyn. Gan fod cofgolofn wedi ei enwi gan amryw, credai mai gwell fyddai ystyried onid dyna y modd goreu yn gyntaf i anfarwoli enw Daniel Owen. Mr I. Foulkes a sylwodd mai ychydig nofelwyr Cymreig o fri a feddem. Hwyrach y gellid nodi tri neu bedwar heb fod yn agored i wawd. Hoffai ef weled y flaenoriaeth vn cael ei roddi i gofgolofn, am fod cyn lleied o golofnau yn Nghymru i gyn- hyrfu uchehjais yr ieuainc. Mr Arthur Roberts, Bagillt, a farnai nas gebid gwneud llawer i goffa'r ymadawedig trwy gynyg gwobr am y traithawd goreu ar ei weithiau, ond trwy roddi ei lyfrau yn nghvrhaedd y bobl. Aw- grymai ef y buasai Bryn y Seili, Wyddgrug, yn lie da i osod y gofgolofn i. fynu, Henadur Thomas Parry a gredai y byddai cof- golofn yn foddion i godi awydd ar bobl i ddarllen gweithiau Daniel Owen. Wedi ystvriaeth bellach, penderfynwyd fod y gofeb yn cymeryd y ffurf o gofgolofn i'w gosoa mewn lie amlwp; yn Wyddgrug, ac fod yr hyn wneir a'r gweddill arianol yn cael ei benderfynu gan gyfarfod eyhoec1dn¡;¡ o'r tanysgrifwyr. Ar gynvgiad Mr I. Foulkes, penodwyd Mr Eaton vn ysgrifenydd mygedol ac ar gynygiad Mr Eaton, penodwyd Mr T. B. Williams, Ariandy. Wyddgrug, yn drysorvdd. Hefyd, penderfynwyd pofvn i'r Parch J E. Jenkins, Cofrestrydd Coleg y Rrifvsgol, i weithredu fel ysgrifenydd dros Dde- heudir Cymru Yn ddilynol penodwyd pwyllgor gweithiol.

[No title]

Cwiknodion o Ddyffryn Maelor.

-0--Tanau ger Cwreosam

Clawdd Offa a'r Cyffiniau.

--0--Liadrad beiddgar yn fogholwyn…

[No title]

Pwysig i Lowyr.

Yn Nghwmni Natur a'i Phlant.

---0--Lioegr yn Imfydditio.

[No title]

Damweinlau Acswydus i Cymry…

o; -|Y Cymry a'r Celfau.

[No title]

Advertising