Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

----Rhawdiau Saethu ar y Sul.

News
Cite
Share

Rhawdiau Saethu ar y Sul. [CTFIBITHIAD 0 LTTHTR YN T Spectat01"]. ITa ydym yn cjfieithu y llythyr canlynol yn IIawn o'r Spectator, un o newyddiaduron parchusaf y t deyrnas, fel y dywedasom o'r blaen ychydig amser yn ol wrth sylwi ar yr un mater, i ddangos i ba le yr ydrm yn myned.] SYR,-Yn unol, efallai, a. holl ddarllenwyr y Spectator sydd wedi cymeryd rhan mewn ymdrechion i wella sefyllfa gorphorol a moesol dynion ieuainc Lloegr, darllenais gyda mawr foddhad awgrymiad Mr Baillie-Grohman y dylid cefnogi ymarferiadau saethu ar brydiiawn Suliau, yn nghyda'r brawddegau yn mha rai y datganasoch chwithau eich cymeradwy- aeth o'r awgrym. Y mae yn hyaod fod arweinwyr yr Eglwys Gristionogol, ac yn arbenig y rhai hyny sydd wedi dangos dymuniad ciyf i leihau meddwdod, erioed heb wneud cynygiad or fath, oblegyd y mae yr hyn a ddadleua Mr Baillie-Grohman mor angen- rheidiol fel moadion i amddiffyn ein gwlad yn erbyn y gelynion mewnol cryfion-meddwdod a betio-ag ydyw i'w hamddiffyn rhag gelyniou tramor. Pe buasai y bobl wedi dymuno gwthio pobl ieuainc y werin i arferioa mor dueddol ag a fyddo yn bosibl i wanychu eu hiechyd corphorol a moesol, y mae'n anhawdi dychymygu y cawsent afael ar gynllun teb- ycaeh i gyrluedd yr amcan drwg na thrwy wrthod caniatau un math o le o adloniant ond y dafarn i fod yn agored ar y Sabboih. Oblegyd yr hwn a ddysga hoffi'r ddiod un diwrnod a'i dymuna bob dydd arall. Y mae'n wir fod y ffolineb o gadw pob lie a gynygia ragorach ac iachach adloniant na'r dafarn yn gauedig ar y Sabboth, wedi ei gydnabod, ae y mae llawer am- gueddfa ac oriel ddanuniau wedi eu hagor am ran o'r Sabboth o leiaf Ond yn anffodus, nid yw yr amgueddfa a'r oriel ond yn atdyniadol i gyfran fechan iawn o'r b)bl sydd wedi dysgu cymeryd dy- ddordeb yn mywyd Natur ac mewn celfyddyd, a xhaid aros yn hir cyn y gallwn ddisgwyl i lawer o'r bechgyn a'r dynion ieuainc gael eu tynu o'r heolydd a'r cwterydd i'r fath leoedd ar y Sabboth. Agor r hawdiau stethu, lleoedd i ymarferiadau corphorol, &c., mor agos as svdd vn bosihl i'n fcrefydd a'n pentrefydd, fuasai yr ymgais gyntaf i alluogi y mwyafrif o wrywiaid y wlad i dreulio eu prydnawn Sabboth mewn ffordd fuddiol i iechyd a iawnderau cyffredin, ac ar yr uu pryd yn atdyniadol i'r bachgen a'r dyn ieuanc eyffredin. Buasai y bach- gen cyffredin, Dad yw yn rhy barod i gydnabod dyl- edswydd pan y daw i'w gyfarfod, ac heb fod yn rhy awyddus i wneud yr hyn a wyr yw ei ddyledswydd, yn llawer mwy ufudd nag ydyw yn awr i addef mai ei ddyledswydd ydyw, a dyiedswydd ddim i'w hysgoi, i beidio dyfod yn segurddyn a mynychydd tafarnau ar y Sabboth, pe gellid cyflawni y ddyledswydd hono trwy wneud pethau fuasent yn foddhaol tra heb fod yn niweidiol. Buasai darpaiu eyfleusderau i ddrilio a saethu ar Sabbothau yn sicr o fod yn f wy effeithiol i gynyrchu y teimlad o ddyledswydd yn y bechgyn a'r bobl ieuainc, na darparu cyfleusderau ar gyfer chwareuoa fel criced, a'r bel droed, oblegyd ni theimlir y chwareuon, er yn llawer gwell gwaith i'r Sabbothauj nac yfjd a betio, fel yn cyflawni un- rhyw ddyledswydd tuag at eu gwlad. Gobeithio y gofelir o'r dechreu i rwystro ynadcn y llysoedd trwyddedol rhag caoiatau trwj-ddedau i werthu diod A dai i'r rhawdiau $aethu a'r tiroedd i fyned -rajaflsa- »n?!wrol. Caniata arweinw-- j -4' -"7' trwy y.,r ymar I t-. 'Log YL,,I crefydd yn rhy ami i'r bobl ftlif fio art-et, a u- eyn datgan eu cymeradwyaeth neu eu hannghymer- adwyaeth Oni chynorthwyant yu yr achos hwn i gefnogi ffwrfiad arferica daionus trwy ddatgan eu cymeradwyaeth o awgrymiad Mr Baillie-Grohman ftr unwaith? Ydwyf, Syr, T. C. HOESPALL. Swansea Park, ger Macclesfield. [Cydolygwn yn galonog Nid oes ynom unrhyw ddymuniad i weled Saeson yn colli eu difrifwch, ac nid ydym ychwaith eisiau Sabbath y Cyfandir, ond dalivra na ddylid edrych ar ymarferiadau, yr hyn sydd yn uu o ddyledswyddau mwyaf difrifol dinasyddiaeth, yn beth anweddus hyd yn nod gan y Sabbothwyr mwyaf llym.-GoL. y Spectator.]'

'"..u...-Newyddion Cymrtlg,

Dyffryi Clwyd

Advertising

[No title]

PWLPUDAU CYMREIG, Mawrth 18.

Advertising

[No title]