Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
/&' Ax-yiu^ <0 Afl i!F« V« A. WEEKLY JTETt8¥A 2>E7i. ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y.
-OER YW'R HIN.
OER YW'R HIN. L, NGLYNION A GYFANSODDWYD WRTH DDAR- LLEN ENGLYNION DONIOL DEWI HAYHESP "l'R OERNI." Ac ar y graig oer ei gwregys—y niwl Yn ben rioeth a erys; A'r eira 'ymgreinia'n ei grys Ar ochrau 'r Gludair echrys! Yn He darllaw gwlaw y glyn-cawodog, Dyma'r cadarn fuelwyn A wnaeth lam yn noethlymyn, O'i gorsiog wal, i'w grys gwyn! A gown gwyn sydd gan Gweno-i ddyfod Yn ddifyr o odro; A Ilawer grtidd tt Ili Nvlr gro, Sy'n gariadus yn gwrido. Fairhaven, Vt. IONORON GLAN DWYKYD.
ADGOFION BOREUOL.
ADGOFION BOREUOL. GAN Y PARCH. B. W. CHIDLAW. Fel mae oedran dyn yn cynyddu, mae cof am wlad ei enedigaeth, ei gartref, ei rieni, a'i gyfoedion yn cynyddu mewn melusder a dyddordeb. Heddyw, ar lan yr Ohio, mewn gwth o oedran, hyfryd,'meddwl am yr Hen Wlad, ei mynyddoedd creigiog, ei hafonydd grisialaidd, a'i maesydd gwyrdd- las. Pum' mlynedd a thrugain yn ol dechreuais fy ngyrfa ddaearol yn y Bala ar lan Llyn Tegid, ac yn ngolwg Berwyn, a'r Aran, a'u cribau creigiog yn eu gwisg o gymylau—chwareu ar y Green, dringo y domen, a thaflu cerig i Lyn Tegid, oedd hyfryd bethau pan oeddwn bleutyn. Car- tref crefyddol, rhieni duwiol, yr ysgol Sul, y capel, y Sabboth, a'r addoliad crefyddol, oedd y pethau da a fwynheais yn moreu ddydd fy oes, ac a'm dygasant yn ddyled- wr tragwyddol i Dad ein holl drugareddau. Yn yr ysgol Sul yn y "Capel Newydd" y dysgais i ddarllen y Beibl, ei gredu a'i garu. Dan ddylanwad addysg grefyddel glynodd pethau Duw yn foreu, ac yn rym- us yn fy meddwl. Er yn blentyn, enynodd ysbryd Duw gred, cariad a pharch at Iesu Grist a'i bobl, sy'n parhau yn brif ffynon- ell fy nghysuryn yr hen ddyddiau. Yn yr amser gynt, nid oedd plant yn cael eu hano, i bioffes gyhoeddus, ac i ymaelodi ag eglwys Crist; felly ni chefais y fraint hyd nes oeddwn yn un-ar-bymtheg oed. Colled fawr i blant yn caru Crist ac yn gorphwys arno am iachawdwriaeth, ac yn awyddus ei broffesu yn gyhoeddus, yw eu cadw oddiallan i ofal ac ymgeledd ei eg- lwys. Tra yn hogyn yn y Bala, ryw ddiwrnod wrth rodio gyda fy nhad ar ochr "Cae'r Graig," daliodd ei gadach pocet i'r lan, a dywedodd, fel yr oedd y gwynt yn ei ys- gwyd, "dyna wynt teg i fyned i'r America." Dyma y tro cyntaf y clywais y gair, a gof- ynais beth yw America? Atebodd fy nhad, "gwlad fawr tu draw i'r mor-IIe da i bobl i fyw-heb frenin nac esgob, a digon o afalau." Er nad. oeddwn yn dealInac yn gofalu am frenin nac esgob, cymerodd y gair afalau ddwys afael yn fy meddwl, a gofynais iddo paham nad allem fyned i wlad y falau? 'Roedd fy nhad wedi bod yn America, a threuliodd ddwy flynedd yn New York, sef 1797 a 1798. Yn 1821, gyda fy anwyl fam a'm hunig chwaer, ymfudodd i r wlad lie nad oedd gorthrwm, brenin nac esgob, a Ile ffrwythlon a da i fyw. Gadew- Beibl it Jn Gymr° glan' yn meddianu a'i srredn n! ddarllen> a chal°o i'wbarchu daith ar y "l" °l ° f°r" New York Mae fl^an^attau" 0 Lerpwl i aros hyd hedfvw- °n y fordaith ais erioed—iaith nad oerM Cynta]f a wel" y morwyr yn dringo y cynddeiriogwyllt y Wei] U a thonau cyntaf ar dir America f 'r y g°lwg Hook, a^m cynhyrfodd f enynwyd disgwyhadau gwres„g L gafael ar y falau. Arosasom am ddyddiau yn New York yn parotoi i daith hirbelI I ganolbarth Ohio. Cymerwyd "sloop" yn rhwym i Albany, a buom wythnos ar y daith. Oddiyno mewn gwagen i dref Schenectady; yna mewn "Reel-boat" ar afon Mohawk i Utica. Yma yn mhlith y Cymry, bum wrtli fy modd am ycliydig ddyddiau yn chwareu yn Gymraeg, ac yn gwledda ar afalau mawr a nielus. 0 Utica gwledda ar afalau mawr a nielus. O Utica yn mis Awst, 1821, cychwynasom mewn gwagen i Black Rock, porthladd ar lan Lake Erie, gerllaw lie mae Buffalo yn bresenol. Yna ar yr agerdd-fad, "Walk in the Water," y cyntaf a ymnofiodd ddyfr- oedd llynoedd mawrion ein gwlad i San- dusky, porthladd yn Ohio. Buom yma yn agos i fis yn aros eyfleusdra i gyraedd Del- aware. Mewn wagen a ddaeth o Chilli- cothi i ymofyn nwyddau (merchandise), yr hon a gyflogodd fy nhad, ac aethom drwy anialwch gwlad y Wynandotte mewn deg diwrnod i Delaware. -Gwersyllu yn y coed-gweled lluoedd o Indiaid, a hel cnau {nuts), oedd bethau newydd i fachgen y Bala yn ei ymddangosiad cyntaf yn Nhal- aeth Ohio. (Pw barltau.)
... YR lIEN FRUTANIAID.
YR lIEN FRUTANIAID. Safle Dysgeidiaeth yn Mhrydain o'r flwyddyn 55 Oyn Crist, hyd ddyfodiad y Saxoniaid i'r Ynys yn yfl. 449 o Oes Gred. GAN BRYTHON HEN. TSGBIF lL Rhaid yw cyfaddef fod Derwyddon Gaul a Phrydain wedi benthyca rhai awgrym- iadau, neu syniadau, o'u hathroniaeth o blith y Groegwyr hyny, ag oedd wedi ym- sefydlu yn drefedigaeth yn Marseilles yn Gaul, ac feallai ogyfeiriad arall hefyd; ond y mae genym reswm dros gredu fod syl- wedd eu gwybodaeth mewn pathau athron- yddol yn perthyn yn wreiddiol iddynt hwy eu hunain. Mae rhai haneswyr yn lied awgrymu fod y Derwyddon wedi derbyn eu hathroniaeth oddiwrth "Pythagoras," yr hwn a gyhoeddodd ei athrawiaethau yn Crotona, yn Itali, yn mha le y bu ef yn byw, ac yn sefyll yn uchel mewn cymer- iad, rhinwedd, gwybodaeth a dysg, am dros ugain mlynedd. Gellid meddwl fod rhywbeth yn yr awgrymiad uchod, wrth graffu ar yr hyn a ddywedwyd gan Am- mianus Marcellinus. Dywed ef "fod y Derwyddon yn ffurfio yn gymdeithas, fel yr oedd awdurdod Pythagoras wedi trefnu." Canfyddwn fod athroniaeth y Derwyddon yn llawer tebycaeh i'r eiddo Pythagoras nag i un arall o'r henafiaeth- wyr. Ond y mae yn bosibl nad oedd Am- mianus ddim yn golygu dim mwy wrth yr awgrymiad uchod nagegluro neu ddarlun- io natur y cymdeithasau Derwyddol, trwy eu cydmaru hwy a'r eiddo y Pythagoriaid, y rhai oedd yn wir adnabyddus i'r Rhufein- iaid. Dichon y gellir cyfrif am y tebygol- rwydd oedd yn bod cydrhwng athroniaeth y Pythagoriaid a'r Derwyddon, fel hyn, sef drwy dybio fod y Pythagoriaid wedi dysgu a mabwysiadu rhai o syniadau y Derwyddon, yn gystal ag fod Pythagoras wedi cyfranu iddynt hwy rai o'i ddargan- fyddiadau. Mae yn wybodus fod yr athron- ydd hwn yn egniol, ac yn awyddus yn ei gariad am wybodaeth, teithiodd ef i am- ryw wledydd i chwilio am dani, a chafodd ef dderbyniad i lawer cymdeithas ag oedd oedd yn uchel ei safle mewn dysg. Gan hyny y mae yn dra phosibl yuddo ei hun, yn gystal ag yn awgrymiad uniawngyrchcl amryw awduron, fod Pythagoras wedi clywed Derwyddon Gaul yn traethu eu barn o berthynas i'w hathroniaeth, ac fod Pythagoras mewn canlyniad wedi ei initiatio i athroniaeth y Derwyddon. Nid yw yn anhawdd iawn profi trwy resymau, ac awdurdod dda, fod Derwydd- on Prydain, a Gaul, yn athronwyr, eto y mae yn dra sicr ei fod yn anhawdd iawn i ddarganfod a deall egwyddor-bwnc eu hathroniaeth. Gwnaeth enwogrwydd eu dysg eu goroesi; ond y neillduolion a goll- wyd ac a gladdwyd, pan y terfynodd eu hoes hwythau. Yr oedd hyn yn benaf, fe ddichon, o herwydd eu dull dirgelaidd o guddio eu hegwyddorion a'u golygiadau oddiwrth yr holl fyd tuallan i'w cymdeith- as hwy eu hunain. Gan eu bod hwy yn gwneyd felly, ataliodd hyny y Groegiaid a'r Rhufeiniaid, yn nghyd a llawer eraill i wybod ond ychydig am grefydd, athron- iaeth a dysg yn mhlith y Derwyddon, yr hyn fe ddichon sydd yn rhesw m cryf ein bod yn gwybod mor lleied am y ddysgeid- iaeth a'r wybodaeth oedd yn eu plith hwy. Ymddengys yn naturiol fod holl ddynol- ryw pan ddeuant hwy yn ddarostyngedig i ddeddfau gwareiddiad, eu bod yn dechreu ymholi ac ymchwilio, a throi eu meddyl- iau i fyfyrio a deall gwraidd a natur deddf- au, a sylweddau materawl yr amgylchynir hwy ganddynt. Wrth graffu ar dystiolaeth amryw awdur- on, gwelwn fod anianeg, neu athroniaeth naturiol. yn hoff study gan Dderwyddon Gaul a Plirydaiu. Yn ol yr awduron hyn, gwelwn eu bod yn traethu ac yn dadleu ar eu hegwyddorion yn ami yn eu hysgol- ion o berthynas i ffurf a maintioli y bydys- awd yn gyffredinol, ac yn neillduol y ddaear hon, ac amrywio] ddirgeledigaethau natur. Ar y rhai hyn a'r cyffelyb wrth- rveliau,, yr oeddynt hwy yn ffurfio amryw- iol gyfundraethau a thybiaethau, y rhai a drosglwyddent i'w dysgyblion ar gan, a rhaid oedd iddynt i'w cofio a'u dal yn eu cof, gan nad oedd caniatad iddynt i'w hys- grifenu. Mae Strabo wedi cadw ar gael un o olygiadau amanyddol y Derwyddon; o berthynas i'r bydysawd, dywedant nad oedd y bydysawd i gael ei Iwyr ddinystrio a'i ddiddymu, ond ei fod i fyned dan gyf- newidiadau pwysig, pa rai a gynyrchid ryw bryd trwy allu a meistrolaeth dwfr, ac weithiau trwy dan. Awgryma Strabo fod y syniad hwn, nid yn unig yn cael ei gredu gan Dderwyddon Gaul a Phrydain, ond gan athronwyr cenedloedd eraill y byd, ac mae Cicero yn cryb|vyll am hyn fel gwir- ionedd a gredir yn gyffredinol. Yr oedd y syniad hwn yn cael ei goleddu gan y rhan fwyaf o'r athronwyr henafol, er eu bod yn byw ar wahan oddiwrth eu gilydd mewn gwahanol wledydd, yn gwbl anwybodus o syniadau eu gilydd. Os nad oedd y wybod- aeth oedd yn mysg athronwyr Gaul a Phrydain, wedi ei chyflwyno iddynt gan ddysgedigion eraill o wahanol wledydd, rhaid fod y wybodaeth oedd ganddynt wedi deilliaw o deulu Noah, ac yn parhau yn draddodiad yn y naill deulu ar ol y llall i lawr hyd amser Derwyddon Gaul a Phrydain; ond dichon fod y wybodaeth hono wedi ei llygru, a'i chamddeall mewn cyfnod o amser mor faith ag oedd o Noah hyd eu hamser hwy. Mae cysondeb golyg- iadau y Derwyddon ac athrenwyr eraill yn mysg gwahanol genedloedd, yn dangos eu bod yn agos o'r un farn o berthynas i gylchyniad, ymddatodiad a dadeneiddiad y byd; mae hyn hefyd yn rhoddi rheswm dros i ni gredu eu bod hwy yr un o ran barn am ddechreuad y byd, sef ei fod wedi ei achosi gan ddwy egwyddor wahanol. sef gan fod deallgar a hollalluog, yr hwn yw Duw, a'r rhan arall yn ddifywyd a musgrell, yr hyn yw mater. Dywed Csesar eu bod yn archwilio llawer i allu Duw, ac yn mysg pethau eraill i'w allu creadigol. Nis gwyddom pa un a oeddynt hwy yn credu fod mater yn dragywyddol, neu ynte eu bod fel rhai o'r dysgedigion eraill, yn credu mai peth creuedig oedd mater. Nis gwyddom beth oedd eu syniadau o berthynas i'r ddaear a'r bydysawd, ond y mae genym reswm dros ddychymygu neu dybio eu bod yn credu eu bod yn gyfrgrwn yn eu ffurf. Mae ffurt yr haul, y Ileuad a'r ser yn gan- fyddadwy i raddau helaeth i'rllygad noeth, ac oddiar y manau mwyaf amlwg o'r hen ddaear hon, y mae yn fanteisiol i gasglu y syniad mai cyfrgron oedd ffurf y ddaear a'r bydysawd. Gan hyny, ymddengys mai dyna oedd tyb athronwyr gwahanol gen- edloedd yn y cyfnodau boreuol; y cylch- gron oedd yr arddull mwyaf hoff gan y Der- wyddon, fel yr ymddengys oddiwrth ffurf eu tai a'u lie o addoliad. Heblaw eu golyg- iad cyffredinol o berthynas i ddechreuad, ymddatodiad, maintioli, a ffurf y bydys- awd a'r ddaear, yr oedd y Derwyddon yn neillduol yn gwneyd ymchwiliadau i natur ac anian yn eu gwahanol fathau o sylwedd- au. Ond, ymddengys, beth bynag oedd eu darganfyddiadau yn y gangen helaeth hon o athroniaeth naturiol, eu bod oil wedi eu colli. Sylwn yn ein llythyr nesaf ar ser- yddiaeth yn mysg Derwyddon Gaul a Phrydain.
[No title]
t.. t —Caed allan fod H. C. Kibbe, ysgrifen- vdd cwmni mwnol yn San Francisco, wedi lladrata$100,000, a bydd i'r swm syrthio 7 N. Y. Mining Co. Pan welodd Kibbe J ei. dwyll wedi dyfod i'r golwg, saeth- odd ei hun yn ei "wely. -Cymerodd rhedegfa le o San Francisco i Sidney, Awstralia, rhwng yr agerlong Mikado a'r San Francisco, a bu yr olaf yn fuddugoliaethus drwy wneydy daith mewn 27 o ddyddiau, a'r Hall 30 Dyna y for- daith gyflymaf ar gofrestr.
PYNCIAU Y DYDD.
PYNCIAU Y DYDD. Amser enaid-gynyrfiol a dyddorol yn y wlad yma, yn ddiameu, a fydd y FLWYDD- YN GANMLWYDDOL HON, o hyn hyd ganol Gorphenaf; bydd llawer o ysgrifenu a llef- aru yn nghylch y Fabilon Fawr werinol hon a adeiladodd yr Yankee trwy gymorth cynifer o dramoriaid. Ac er y bydd llawer o wynt a gwag-ymffrost yn yr hyn a dra- ddodir, diau y bydd llawer o wirionedd dymunol iawn i adfyfyrio arno, i'w draethu am gynydd arthrol y Werin-lywodraeth fawr hon yn y can' mlynedd hynod sydd ar ddyfod i ben eleni. Pan welais awgrym yn y Newyddiaduron y bwriedir cael math o hanes cryno yn nghylch pob tref a phen- tref yn y wlad yma, a sefydlwyd o fewn y can' mlynedd hyn, mai peth dyddorol i'r Cymry fyddai math o ystadegau a chryn- odebau o hanes y gwahanol sefydliadau Cymreig sydd o fewn ein Gweriniaeth. Ond a fyddai gwerth a dyddordeb y cyfryw hanesion yn ngolwg .ein cenedl yu ddigon mawr ac ymarferol i dalu am y drafferth o gasglu a chyhoeddi hanesion felly, sydd bwnc arall. Bum hefyd yn dychymygu mor ddymunol, ar derfyn y ganrif Americ- anaidd hon, fyddai cael rhywbeth mawr Cymreig, o werth a phwysigrwydd parhaus i Gymry America fel math o Gofeb ac Ebenezer G,vmreig yn y wlad yma. Ond yr anhawsdra yw medru dyfeisio pa fath gofeb neu sefydliad felly y gellid cytuno i'w gael, Efallai y bydd miloedd )awer o Gymry wedi dyfod yn ngbyd o wahanol barthau o'r wlad eang yma i Philadelphia yn Gor- phenaf nesaf, i weled yr Exposition Mawr, ac i ddathlu y Centennial Fourth. A thra dyddorol fyddai cael y Cymry hyny yn nghyd mewn rhyw ystafell enfawr neu babell, i gael math o Gymanfa neu Eis- teddfod ardderchog, yn yr hon y gellid cael canu Cymreig gogoneddus, ac areithio, ac efallai rhyw bethau eraill gwell, i fod yn ddechreuad cyfnod newydd yn mysg ein cenedl. Ar adeg rhyw Lanw Mawr Can-mlwyddol fel hyn, hwyrach y gellid gwneyd yr hyn na ellid ar adegau cyffredin. Ond pan oeddwn ar ganol rhyw effro- freuddwydion fel hyn, ymbwyllais dipyn, gan feddwl am y gwahaniaeth dirfawr sydd rhwng cynllunio dychvmygol, a chael un- rhyw symudiad gwerthfawr i weithrediad. Maddeued darllenwyr y DRYCH i mi am "fytyrio peth ofer" fel hyn; neu yn hytrach am gyhoeddi y fath anelwig awgrymau. Er y gwnaed pethau mawr- ion anhygoel yn y wlad yma yn ystod can' mlynedd, eto anhawdd, yn y cysylltiad yma, yw peidio meddwl hefyd am hen ddi- areb yn nghylch I( MELINAU Y DUWTAU;" sef, The mills,of the gods grind slowly. 0 mor araf, yn ol ein cyfrifiad ni, ddyn- ionach byr-hoedlog, y mae y Trefnwr Mawr yn dwyn yn mlaen ddiwygiadau a gwell- iantau yn y byd yma trwy wahanol fân- offerynau! Pwy o holl ddoethion yr oes- au a all ddweyd, pa nifer o fyrddiynau 0 flwyddi a aethant heibio cyn i'r hen ddaiar yma oeri a chaledu digon, a chasglu digon o bridd ar ei gwyneb cyn y gallasai math yn y byd o lysiau dyfu arni? Dywedir ar sail go sicr, fod eisiau o leiaf gan' mil o. flwyddi i ffurfio creigiau chalk Prydain. Adiau nad yw hyny ond y nesaf peth i ddim o'i gydmaru Ag oes y ddaiaren. 0 can lleied a ellir wneyd i ddiwygio dynion mewn canrif! Mae rhai yn gwawd-wenu wrth son am effeithiau arwynebol a byr- hoedlog ymdrechion adfywiadol Moody a .Sankey yn yr Hen Wlad yn ddiweddar, ac yn gresynu fod miloedd lawer o bunau wedi eu gwario yno i wrando y ddau Amer- cwr crefyddol hyny, ac nad oes nemawr ddim erbyn hyn o 61 eu llafur yno—mai fel poeri yn y mOr yw methiant y fath "ad- fywiad,"—fod Lloegr hen mor barod ag erioed i barotoi miloedd ar filoedd o'i dyn- ion dewraf i dywallt gwaed dynol ar feus- ydi rhyfel, ae mor anmharod ag erioed i wneyd cyfiawnder i'w gweithwyr a'i thy- lodion. Ond er mor anfeidrol fycban yw pob cyffroad o'r fath tuag at ddwyn yn mlaen yr hil ddynol i'w pherffeithrwydd goren, diameu fod angen am bob mymryn o gyffro, faint bynag o ffolineb dynol a all fod yn nglyn ag ef. Mae yn ddigon tebyg fod ar y byd eisiau dynion fel Moody a Sankey, yn gystal a dynion fel Tyndall a Darwin, i'w parotoi at y milflwyddiant mawr. Rhaid i ni wrth amynedd, canys nis gellir gwneyd ond y nesaf peth i ddim mewn canrif tuag at angeleiddio dynion. Ac er mai mwy dymunol fyddai edrych ar yr ochr oleu i bethau mewn blwyddyn fel hon, efallai fod yn llawn mor iachusol sylwi hefyd ar EIN PERYGL GWLADOL. Diau na chytuna pawb, o ran eu barn, beth yw ein prif berygl fel gwlad yn awr. Tybia rhai mai meddwdod yw, ac mai deddfau i atal diota fyddent ein hiachawd- wriaeth. Tybia eraill mai Pabyddiaeth yw ein prif elyn. Eraill a daerant mai "An- ffyddiaeth" a'n handwya. Wel, bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun; ond y mae Ilawer o le i ofni mai yr esgeulusdra a'r cam-arferiad o'r peth mawr a gyfrifir yn brif ogoniant ein gwladwriaeth sydd yn prysuro ein dinystr, neu o leiaf ein dyrys- wch, yn fwy na dim arall. Yr ydym yn ymffrostio fod y gallu llywodraethol yn 11 aw y Werin. Dyma ein gQgoniant, Ac yn hyn, odid, y mae ein gwarth gwladol penaf. Mae yn amlwg ddiarebol fod ein politics yn nwylaw rings o ddynion gwael- ion a drygionus iawn. Mae ein prif ddin- asoedd yn awr yn suddo mewn dyledion gorfawr, tra mae ein trethoedd trymion ac anghyfartal yn orlethol, ac yn myned i logellau lladron. Nid yw ein dynion goreu yn ymwneyd dim a'r caucuses a'r elections/ gadewir hwy, o herwydd eu llygredd, yn nwylaw rhai anonest ac isel eu moesau. Ymgiprys dynion hunan-geisiol am swyddi a llwgr-wobrwyaeth ydynt yn arswydus o gyffredin, yn ol pob argoelion. Metha llawer 0'1,1 prif-ddinasoedd dalu hyd yn nod log eu dyledion. Dywedir yn rhai o'n Newyddiadnron penaf fod miloedd ar fil- oedd o bobl oreu ein gwlad yn gadael y bleidlais yn nwylaw y rhai mwyaf an- wybodus ac isel foes a rhyfygus. Os parha pethau i fyned yn mlaen fel hyn am ych- ydig amser eto, a'n gweriniaeth yn cael ei chario yn mlaen gan ei gwehilion gwaelaf, bydd yn hawdd gweled mai methiant fydd ein dull presenol o bleidleisio. Hawdd yw beio neu ganmol y "Republicans" neu y Democrats; ond nid yw y bobl oreu na'r bobl waethaf oil yn perthyn i'r naill mwy na'r llall o'r pleidiau hyn. Rhywbeth llawer dyfDach na'n pleidiau politicaidd sydd yn bwyta ein cryfder, ac yn bwgwth ein dinystr fel gwlad. Geneva, Ill. R. L. HERBERT.
HYNODION ST. HELENA.
HYNODION ST. HELENA. GAN TOM AP DAVIES, CHURCH HILL, OTRIG, Y Saeson yn alltudio Napoleon i'r Ynys! Wedi i frwydr byth-gofiadwy Waterloo gael ei hymladd yn mis Mehefin, 1815, ac i Ffrainc golli'r dydd, cafodd Napoleon ei hwtio a'i gasau gan holl benau coronog Ewrop, am y rheswm iddo ganiatau i'r Ffrancod ei ddewis yn ymerawdwr arnynt, yn nghyd a'i fod yntau yn meddu syniadau mor ryddfrydig, ac wedi dadleu, ac yn. penderfynu ymladd dros hawliau cyfartal i bob gradd o ddynion, yr hyn oedd dra chroes i syniadau y penau coronog, ac yn tueddu i ddadymchwelyd sylfaen eu llwydd- iant; ac nid oedd Ffrainc y pryd hwn yn addfed i dderbyn syniadau gwerinol; nid oeddynt wedi adnabod y dyn athrylithgar hwn, mwy nag y darfu i'r luddewon adna- bod Crist. Yr oedd peth arall yn peri i'r penau coronog eiddigeddu wrth yr Ymer- awdwr-yr oedd ei ofn arnynt oil—yroedd son am ei enw ynperi dychryn yn mynwes pob Sais, ac ofnent y buasai yn ail ymosod ac yn llwyddo. Yr oeddynt yn dra hys- bys o'i athrylith a'i ddewrder fel milwr.— Yr oedd ei elynion gwaethaf yn cydnabod na fu yr un bod dynol edoed yn meddu ar y fath athrylith. Geilw un awdwr ef "y penat yn nghreadigaeth Duw"—yn ogyf- uwch ag Alexander mewn medrnsrwydtl milwrol—yn fwy na. Justinian mewn add- ysg gyfreithiol—yn meddu ar dreiddgar- wch gwleidyddol Bacon, ac yn meddu ar allu llywodraethol Caesar; mewn gair, yr oedd yn berffaith hyddysgmewn pob caag- en o wybodaeth ddynol. Tra yn alltiid ar yr Ynys, siaradai ei feddwl yn hyawdl ar bob pwnc a berthynai i'w hanes blaenorol ei hun, yn nghyd a'i farn ar bob pwnc a berthynai i wleidiadaeth, moesoldeb a chrefydd; ac yr oeddwn i yn teimlo cryn ddyddordeb wrth wrando ar un hen wr yn adrodd yr hanes, tr yn eistedd wrth od.