Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Y PARCH. J. IDRISYN JONES,I
News
Cite
Share
Y PARCH. J. IDRISYN JONES, At Olygydd y Tyst. SYR,—A gaf fi trwy eich hynawsedd ychydig ofod i ddwyn y gwr parchedig hwn i sylw ein heglwysi Cymreig ? Mab ydyw i'r eirwog Idrisyn, esboniad Cymraeg yr liwn a fu o gymaint gwasanaeth i'n cenedl; ond yn wahanol i'w dad a'i frodyr, ni allai efe o gydwybod fyned yn offeiriad yn yr Eglwys Wladol, ac y mae wedi glynu wrth ei argyhoeddiadau Anghydffurfiol ar hyd ei fywyd cyhoeddus. Ar ol gweinidog- aethu am dymhor maith gyda chryn gymeradwy- aeth inewn nifer o eglwysi Seisonig pwysig yn Nghymru a Lloegr, y mae bellach wedi ymrydd- hau o'r fugeiliaeth, ac yn awyddus i bregethu, nid yn unig i'r Saeson fel o'r blaen, ond hefyd i'r Cymry yn eu hiaith eu hunain hyd eithaf ei allu. Brbyn hyn niae wedi ymaelodi yn eglwys Minny- street, Caerdydd, ac yn cael hyfrydwch mawr yn addoliad y Cymry. Ac un boreu Sul yn ddiw- eddar traddododd i'n cynulleidfa bregeth Gym- raeg, a daeth drwyddi yn llawer gwell nag y dysgwyliem, wrth ystyried mor lleied o ym- arferiad a gawsai yn yr hen iaith. Gwyr y rhai a'i hadwaenant fod Mr Idrisyn Jones yn wir foneddwr mewn ymddangosiad ac ymddygiad, ac yn siaradwr dymunol iawn. Bydd yn dda ganddo gael cyfleusderau i wasauaethu ei gyd- genedl yn Gymraeg ac yn enwedig lie byddo y ddwy iaith yn angenrheidiol, gall efe fod o was- anaeth sylweddol. Ei gyfeiriad presenol, yw, 56, Stacey-road, Roatli, Cardiff. Yr eiddoch, &c., Caerdydd. THOMAS HUGHES.
CYNADLEDD PYNCIAU CYMDEITHASOL.
News
Cite
Share
CYNADLEDD PYNCIAU CYMDEITHASOL. At Olygydd y Tyst, SYR,—Oddiwrth hysbysiad a geir mewn colofn arall, gwelir y bwriedir cynal Cynadledd gy- hoeddus er ystyried Perthynas yr Eglwysi Aunibynol a. Phynciau Cymdeithasol' yn Nghastellnedd ar ddydd Gwener, y I4eg o Hydref. Gan fy mod wedi ymgymeryd a, gweithredu fel cynullydd y Gynadledd, nid anmhriodol, efallai, fyddai gair o eglurhad ar y mater. Yn iighwrs rhai sylwadau o'm heiddo yn un o gyfarfodydd cyhoeddus yr Undeb yn Elanbedr, cyfeiriais at y ffaith fod y prif enwadau crefyddol Y11 Eloegr ac Ysgotland wedi sefydlu undebau neu bwyllgorau arbenig er cefnogi astudiaeth ddifrifol o bynciau cymdeithasol yn ngoleuni dysgeidiaeth Crist, ac er trefnu cyd- weithrediad yn ngwasanaeth ymarferol eu cyd- ddynion. Yn ddiweddarach, darfu-i'r Proff. D. Miall Edwards, M.A., yn nghwrs y papyr gwerthfawr a ddarllenodd yn Xghyuadledd Cwrdd Chwarter Brycheiniog, ac a gyhoeddwyd yn y TYST am Medi 14eg, wneyd cyfeiriad pellach at waith cyindeitliasol yr eglwysi yn IJoegr, gan grybwyll yn arbenig y Congregational Social Service Union, i'r hwn y mae y Parch Will Reason, M.A. (gynt o Mansfield House), wedi ei apwyntio yn drefnydd. Daeth i'm gwybodaeth fod Mr Reason yn dygwydd ymweled a. Chastell- nedd yn nglyu a gwaith arall ar y 13eg a'r 14cg o Hydref ac ar ol jangynghori a rhai cyfeillion, penderfynwyd mai doeth fyddai manteisio ar ei yiiiweliad er cael pob hysbysrwydd ganddo yn nghylch amcanion a chynlluniau y Congrega- tional Social Service Union, a natur y gwaith. y dichou yr eglwysi ymgymeryd ag ef. Darfu iddo yntau gydsynio gyda phob parodrwydd a'm cais ar iddo anerch cynadledd ar y cwestiwn, Gobeithiaffod hyn yn ddigon o eglurliad paham y cynelir y Gynadledd yn Nghastellnedd, ac ar y dydd penodol, a phaham, hefyd, yr ymddengys fy enw i fel cynullydd. Bycld y Gynadledd yn un berffaith agored, a mawr obeithiaf y bydd i nifer luosog o weinidogioti a Ueygwyr sir For- ganwg, a'r siroedd cylchynol, wneyd pob ym- drech i dd'od i Gastellnedd i gydymgynghori a Mr Reason ac a'u gilydd ar yr hyn a ellid ac a ddylid wneyd yn nglyn a, phwnc pwysig y Gynadledd. Yr eiddoch,F c&c., D. LI,EUFER THOMAS. _<n_-
IDIOLCHGARWCH.
News
Cite
Share
IDIOLCHGARWCH. At Olygydd y Tyst. SYR,—Dymuna Mr John Roberts, Glandwr House, Ttefor, a'r teuln, ddatgan eu diolcbgarwch i'r lluaws cyfeillion am eu llythyrau caredig iddynt yn eu trallod, gan eu sicrhau o'u gwerthfawrogiad o'u cydymdeimlad. Ar ran y teulu, THOMAS JOHN JONES.
A YW CHWAREUON YN FELLDITH?
News
Cite
Share
A YW CHWAREUON YN FELLDITH? At Olygydd y Tyst. SYR,-—Wei, wir, gwr pendant yw y brawd o Fforestfach. Meddwl yr oeddwn i, y buasai yn briodol i ymresymu tipyn, a threio cael gafael ar wreiddyn y peth ond nid dyna ei farn ef, mae'n eglur. Gwell ganddo haeru nag ymres- ymu, ac yn lie ateb fy sylwadau, a. yn mlaen i gamddefnyddio'r Ysgrythyrau, er mwyn dan- gos fod y Beibl o'i blaid ef. Rhy ddrwg frawd anwyl. Gwell peidio gwneyd defnydd o gwbl o'r Gair na'i gamddefnyddio. Er engraifft, nid oes a fyno 1. Cor., xiii. 11, â chwareu o gwbl. Nid oes dim o'r fath beth yn meddwl yr Apostol. Y Beibl yw ein safon i bob peth, onide ?' meddai y brawd. Ie, meddaf finau, ond rhaid cymeryd y drafferth i ddeall ystyr adnod cyn ei defnyddio. Amlwg yw na ddarfu i David Williams ddarllen y drydedd ar ddeg o Oyntaf Corinthiaid, cyn taila adnod ohoni at fy mhen er mwyn dadl. Wel, eto, dyma'r brawd o Fforestfach yn dyweyd yn bendant, na ddarfu i'r Gwaredwr chwareu erioed,—felly, melldith yw chwareu. Trueni mawr ei fod yn cymeryd pethau mor Uythyrenol. Wn i ddim a ddarfu i lesu chwareu. Gwn ei fod yn hoffi gweled plant yn chwareu. Gwn hefyd, ei fod yn hoffi bod mewn gwleddoedd priodasol, lie yr oedd pawb yn enjoyo. Gwn yn mhellach, ei fod yn llawdrwm ofnadwy ar y Phariseaid gor-grefyddol. Ond dyna, nid y peth wnaeth Ef yn llythyrenol, sydd o bwys, ond beth oedd ei ysbryd. Ag ond i ni edrvch i fewn i ysbryd yr lesu. amlwg yw i mi, fodd bynag, na fyddai gwg ar Ei wyneb anwyl wrth weled Ei ddysgyblion heddyw yn cael tipyn o hamdden,—myn'd o'r neilldu, a chwareu croquet. I mi, dyna ysbryd yr leau. Mae perygl mawr yn yr arferiad cyffredin yn mysg dosbarth anwybodus, o ddarllenwyr y Beibl,—sef, esbonio geiriau yn gul ac yn llyth- yrenol, ac wrth hyny, cael gafael yn unig yn y Jlythyrau sydd yn lladd, heb gael cymaint a golwg ar yr ysbryd yr hwn sydd yn bywhau. Gofyna David Williams, I B'le mae'r gwahan- iaeth rhwng yr Eglwys a'r byd i'w wel'd, os mai nid fel hyn?' Felly, dyma'r safon yn ol David Williams—chwareu, neu beidio chwareu, Yn wir, anhawdd credu ei fod yn dal hyn hefyd. Mae y peth mor gul, a masw, a gwrthun. Gwell genyf gredu ei fod yn anwybodus o sef- yllfa cymdeithas y tuhwnt i'w blwyf genedigol ei hun. Wel, os nad chwareu yw'r gwahaniaeth rhwng yr Eglwys a'r byd, beth yw'r gwahan- iaeth, tybed? Dyma rai o'r nodau, mi gredaf. Bod yn eirwir; bod yn onest; bod yn bur caru ein gilydd a chariad cywir; bod a Christ ynom; I Tyner ymaith oddiwrthych bob chwerwedd, a Ilid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni, a byddwch gymwynasgar i'ch gilydd, yn dosturiol, yn maddeu i'ch gilydd, megys y maddeuodd Daw er mwyn Crist i chwithau.' Dyna ddigon i ddangos ysbriid y bywyd newydd yn Nghrist. Ac ni welaf fi ddim yn hyn oil i ddangos fod tipyn o chwareu yn groes i'r gwir fywyd. Mae David Williams am i ni droi i weithio yn yr ardd, er mwyn exercise, yn hytrach na chwareu. Mae miloedd lawer ohonom yn y trefydd mawrion, heb yr un ardd i droi iddi. Ond, bywyd anmherffaith hollol yw bywyd heb fwynhad, a llawenydd, a chwareu ynddo. Drwg genyf nas gall y brawd wel'd grym y ffaith, fod football yn peri fod llai, ac nid mwij o gwrw yn cael ei yfed yn Nghymru. Ystad. egaefch y Llywodraeti-i yw sail yr hyn a ddy- wedais am hyn yn y llythyr o'r blaen. Yr eiddoch, &c., CHWAREUWR,
NODION.
News
Cite
Share
rhyw felidith-wleidyddol wedi disgyn ar y Llafurwyr a'r Rhyddfrydwyr fel eu gilydd. Ceisia'r Llafurwyr yn awr wroi mesur Dyfarniad Osborne o flaen hyd yn nod Ty'r Arglwyddi; ac wele Ryddfrydwyr Cymru eto yn myned i dynu penog coch arall ar lwybr y wir helwriaeth. Credaf nad oes obaith am ddim gwerth ei gael i ni fel cenedl, hyd yn nod Dadgysylltiad, hyd nes bo danedd yr Arglwyddi wedi eu tynu. Wed'yn, bydd yn bosibl i ni gael Addysg Rydd, Dadgysylltiad, a Hunan- lywodraeth resymol, ond dim byd cyn hyny. Dyna'r gwir syml, coelied a goelio. Cynadledd y Feto. MAE'R sylw uchod yn fy arwain at y ffaith sydd yn rhwym o'n hwynebu ar unwaith, sef fod Cynadledd y Feto ar ben, ac na ddaw dim ohoni. Ni feddyliais erioed y deuai llawer ohoni ei hamcan penaf oedd rhoi amser i'r ddwyblaid i gael eu gwynt atynt, a bod yn barod erbyn ethol- iad yn Ionawr. Credaf mai ffug i gyd oedd yr oil o'r cychwyn ond mae wedi ateb ei ddyben. Nid oes cau llygaid i fod bellach i'r ffaith mai yr unig gwestiwn mawr—y cwestiwn sydd yn gyru pob un arall i'r cysgod—yw un yr Arglwyddi. Dyma amod pob deddfwriaeth effeithiol arall. I ba beth yr awn i drafod Addysg, Dadgysylltiad, Home Rule, mesurau llafur a diwygiadau cymdeithasol a masnachol, ac yn arbenig pwnc y tir, tra bo'r gallu yn llaw y tirlwyddi a'u Ty i ddifetha'r cwbl, a gwiieyd pob mesur yn aneffeithiol ? Yn wir, erbyn hyn maent wedi honi yr hawl i dori'r Senedd pan y mynont, os bydd mesur wedi ei basio gan Dy'r Cyffredin nas gallant hwy mo'i lyncu. Ac mae yn warth bythol i werin Prydain eu bod mor hir cyn ysgwyd i ftwrdd y gorthrwm canoloesol hwn sydd yn gor- Wedd fel hunllef arnynt. Parlysir yr holl beiriant gwleidyddol, ac ofer yw dysgwyl deddfwriaeth gyfiawn ac angen- rheidiol tra pery'r Arglwyddi i roi eu sprag yn mhob olwyn, Hyd nes y di- orseddir hwy, ni thyr y wawr ar y. werin. Dysgeidiaelh iesit Grist.' UN arall o Gyfres Ieuenctyd Cymru,' dan olygiaeth y Parch D. E. T>riViri<; Ditibvoh. vw J -IL" -J -7 .I' Dysgeidiaeth Iesu Grist,' ac nis gellid cynwys llyfryn rhagorach- yn y gyfres ragorol na hwn. Yr awdwr yw James Robertson, M.A., D.D., a'r cyfieithydd yw Mr Jenkins. I bawb sydd yn gwybod am y llyfr yii ei ddiwyg Saesoneg wreiddiol, tiid oes eisieu canmoliaeth iddo o fatli yn y byd. Mae yn glasur bychan, ac yn cynwys trafodaeth glir o gynwys ac arddull a phriodoleddau dysgeidiaeth y Gwaredwr. lpfurfia, ynddo ei liun gorlf bychan o dduwinyddiaeth y pedair Efengvl, wedi ei ysgrifenu yn y modd mwyaf tarawiadol a dyddorol. Dywedir rliywbeth ar bob congl o'r maes, a llawer iawn ar brif bynciau athrawiaeth v Ceidwad. Mae'r cyfieithydd yn hen law ar y gwaith, ac Hid yw wedi gwneyd dim erioed yn well llag yn y gyfrol hon. Cymeradwyaf hi yn Salonogol i efrydwyr ac athrawon ein lIysgolion Sul; ac 3m wir, i gyfarfod a rhyw biniwnau rhyfedd svdd yn y gwynt heddyw, anliawdd fyddai cael effeithiolach ateb nag a geir yn y gyfrol fechan ddestlus, feddylgar, hon. Y cyhoeddwr yw Iylewelyn Jenkins, Dinbych, a'r pris yw swllt net. H. -P-