Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Pregethau Diangof.

News
Cite
Share

Pregethau Diangof. Y MAE bellach hanner canrif er pan adeiladwyd y capel cyntaf ym Mharkfield, Birkenhead; a nos Sadwrn a'r Saboth diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod pregethu i ddathlu'r Jiwbil dy- ddorol. Y ddau gennad a gaed ydoedd y Parch. John Williams, Brynsiencyn, a'r Prif- athro Owen Prys, M.A., Aber Ystwyth. Mr. Williams yn pregethu nos Sadwrn y Prif- athro (yn Saesneg) fore Sul Mr. Williams o prynhawn a'r ddau yn yr hwyr. Caed cyn- ulliadau lliosog ac astud, ac 'roedd yr addoldy nos Sul tan sang, ac ynddo frithiad o aelodau pob enwad ac agos bob eglwys o ddau tu'r afon. A thybed y clywd erioed amgenach na grymusach pregethu ? Y genadwri'n iach ac yn groyw yr iaith yn bur ac yn urddasol; a'r apel, oedd mor dyner a gwahoddgar, yn cael ei gwasgu adref gyda difrifwch angerddol. Hydref y 30ain, 1859, yr agorwyd y capel ac wele'r gweinidogion a weinyddodd y pryd hwnnw r—J. Ogwen Jones, B.A. John Pritchard, Amlwch Henry Rees John Phillips, Bangor D. Jones, Treborth; John Hughes y Mount Owen Thomas, D.D. a H. Stowell Brown (yn Saesneg).

Offrwm godidog.

Camrau'r Achos.

Advertising

I Cymry Manceinion.

MYFYRDODAU "CYFRIN."

Advertising