Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Hyn a'r Llall. -I

News
Cite
Share

Hyn a'r Llall. I Gwneir ymdrech i gael yr Eisteddfod Gcn- edlacthol i'r Wyddgrug yn y flwyddyn 1923. Cymmer priodas le yn Llundain, dydd Llun, Medi laf, rhwng Syr Edgar Jones, A.S., a Miss Braekley. Gwneir ymgais gan drigolion Llanarmon a I Thregeiriog i gael cefnogaeth Cynghor Sirol Dinbycli i ffordd haiarn ysgafn i Lanarmon. Bu farw Elizabeth Clark, gwraig briod, Regis Place, Gwrecsam, wrth ddadleu gyda chymmydoges ar gareg drws ei thy, dydd Iau. Rhoed ugain punt o ddirwy ar y Mri. John Jones a'i Feibion, cigydd, Llandudno, am vverthu darn o gig tu hwnt i'r pris cyfreith- lawn. Cyflwynwyd anrlieg i Mr. Lewis Prothero, cyn-Brifgwnstabl sir Fon, dydd lau, ar ei ym- neillduad o'r heddlu, ar ol gwasanaethu or y flwyddyn 1894. x Dywedir fod mil o filwyr yn dyfod i wersyll Pare Kinmel yr wythnos lion, ac y dilynir hwy gan craill. Y mae hyn wedi achosi cryn foddhad yn Rhyl a'r cylch. or Cynnaliwyd arwest Glan Geiriooydd dydd c Iau. Yn mysg y rhai a dderbyniwyd i gylch a y beirdd yr oedd Syr Edward Clarke, K.C., yr hWll ocdd yn aros yn Bettwsycoed. Yr wvthnos ddiweddaf bu farw y Parch. F. T. Withered, iicer Hurley, yn 80ain mlwydd oed. Arferai ymdrochi yn y Dafwys bob dydd er's deng mlynedd ar hugain. Er boreu ddydd Llun y mae Mr. William Hughes Davies, chwarelwr, Tregarth, ger Bangor, ar goll. Nos Fawrth aeth infer llios- og o ddynion allan i chwilio am dano, ond yn oier. Pennodwyd Miss M. Irene Roberts, "merch hynaf Mr. a Mrs. John Roberts, Castle St., Rhuthyn, yn ddarlithydd mewn Daearydd- iaeth a Mathematics yn y Froebel College, Bedford. Mewn canlyniad i ffrwydrad yn ngwaith haiarn yr Eagle, Gwrecsam, cyfarfu Richard Edmondson a damwain angeuol, ac anahvyd gweithiwr arall o'r enw George Lloyd yn dra ifrifol. Yn llys ynadon Pwllheli, dydd Mercher, dirwywyd W. Fred Gapper, torwr beddau, Hanaelhaiarn, i ddeg swllt am ystorio ffrwydradau mewn aeler dan eglwys y plWyt.1 Dywedwyd wrtho y gallai yr eglwys gael ei chwythu i fyny. Cyflwynwyd aneTchiad oreuredg, a 'cheque' am 60p. i'r Parch. William Jones, Four Crosses, Pwllheli, yr wythnos ddiweddaf, ar ei ymneillduad o'r weinidogaeth, ar ol deu- gain mlynedd o wasanaeth. Cyflwynwyd an- rhegion hefyd i'w l briod, Mrs. Jones (Cerid- wen Peris). Dywedir fod nifer o dai mawrion a phalas- au sydd yn wag yn Llundain i gael eu troi yn flats I-Ite y gall amryw deuluoedd fyw yu- ddynt. Y rheswm am hyn ydyw, prmder tai. Oni tsllid trefnu i'r un peth gymmeryd lie mewn llawer i ardal yn Nghymru He y mae prinder tai yn bodoli ? Yr wythnos ddiweddaf boddodd bachgen ieuangc, o'r enw Isaac Thomas Goodwin, 17eg mlwyad oed, Isycoed, wrth ymdrochi yn y Ddyfrdwv. Gwnaed ymdrechion caled i w waredu gan ddwy eneth o Liverpool, ond er ymsudo o honynt i'r dwfr amryw weitlnau, methent ddyfod o hyd i'w gorph, Agorwyd I sale of work dan nawdd egl- wys Wesleyaid Bangor dydd Mercher, gan Lady Verney, yn absennoldeb Mrs. Lloyd George. Galwodd Syr Edward Clarice, y bar- gyfreithiwr enwog, yno yn ddamweiniol, a chaed anerchiad ganddo, yn talu teyrnged uchel i wasanaeth Mr. Lloyd George i'r deyrnas. Yn llys ynadon Caerdydd, yr wythnos ddi- weddaf, cyhuddwyd y Private William Ed- ward Emms, or Gatrawd Gymreig, o wneyd ymgais i lofruddio Sarah Elsio Parsons, fsvraig weddw, trwy ei llindagu tra yn cysgu. Yr oedd y carcharor wedi ei anafu yn ei ben, sic yn dioddef oddi wrth shell-shock.' Tra- ddodwyd ef i sefyll ei brawf yn y Frawdlys. Yn Ngwreesam, dyddLlun, cyhuddwyd mil- wr o'r enw Michael Melia o wneyd ymgais i lofruddio ei wraig. Bu yn ymladdfa rhyng- .ddynt mewn cae, a phan dybiodd y :\n.hjiror «i fod wedi lladd ei wraig aeth i roddi ei hun i fyny i'r heddgeidwaid. Cafodd y wraig ei symmud i'r ysbytty, a gwelwyd ei bod wedi ei hanafu yn lied ddifrifoL Dywedai y diffyn- < ydd fod ei wraig yn barhaus yn son am ddynion eraill/a phonderfynodd ei gorphen. Wedi gWrandaw tystiolaethau dros yr rfmddi- •fl'yniad penderfynodd yr ynadon newid y cy- liuddia* i fod yn un o ymosodiad, a dirwywyd Michael i ddeg punt. GALWAD. Defnyddia dy amser, fy ffrynd: Paid chware ar lannau a thraeth, Ystyria, mae'r amser yn myn'd, A thithau heb gychwyn dy waith. Fy mrawd, beth yw"r nod sydd o'th flaen: Oes gennyt yr un ar dy daith ? Wiyt foddlawn ar fywyd di-raen ? I b'le rwyt yn gollwng dy saeth ? Ti wyddost, mae'r byd yn.ei waed, A'i glwyfau yn ddyfnion bob un; Dos, cyfod, fy mrawd, ar dy draed, Rho brawfion o'r meddyg, y dyn. liy mrawd, ceisia ddeall y byd, Rhag iddo gael clwy heb wellhad Anturia i'r maes o dy grjd Mae'th eisiau ar Gymru, dy wlad. Cross Hands. T.P. YNHIRYNDOD. Pan ruai y rhyfel, pan syrthiai y dewrion, A galar rhieni yn dyrchu i'r nef, Meddyliwn disgwyliwn o ddyfndcr fy nghalon Wel'd lesu yn ffrwyno y storom groch, gref. Ymholed pob Cristion, pa beth sydd yn bod, Fod lesu ,r Canolwr cyn hired yn dod. ,Codymai cenhedloedd gwareiddiaf mewn hanes, Eneidiau ymrestrai o'u bywyd o hedd, Gwyddoniaeth ddyrcliafol o'i llwybyr dYll- garol A lusgwyd i helpu anghristiaeth y cledd. Ymholed pob Cristion pa beth sydd yn bod, Fod lesu'r Canolwr cyn hired yn dod. Cyfalaf a Llafur ymruthi-a i orwyllt Ymdrechfa, a esgor ar diodi a nwyd— Penaethiaid y ddwyblaid yn sur ymgyndynu, Tra miloedd deuluoedd yn llefain am fwyd. Ymholed pob Cristion pa beth sydd yn bod, Fod Jasu'r Canolwr cyn hired yn dod. Gor-elwyr dideimlad, di-galon, yn frigog, Duw Mammon a'i fysedd esgyrniog ar led, A Chorff y Crist Iesu yn fan ymraniadau— Moesoldeb yn gwywo yn naear Gwlad Cred I Ystyried pob Cristion pa beth sydd yn bod, Fod Jesu rCanolwr cyn hired yn dod. Henry Jones. Fioerdy, Llangeler. Y mae Cynghor Dosbarth Treftynnon yn parotoi i adeiladu nifer o dai newyddion yn Bagillt a Mostyn. Y mae Mr. Rees Thomas, Nefyn, wedi ei wahodd ar fwrdd cyfarwyddwyr y Mri. Mor- ris a Jones, Cyfyngedig, Liverpool. Yn Blaenau Ffestiniog, dydd Iau, anfon- wyd un Richard Jones i garchar am dri mis am ladrata o orsaf y ffordd haiarn. Dydd lau cynnaliwvd treialon cwn defaid yn Nghriccieth. Anfonwyd cwn yno o Pres- ton, Efrog, Sheffield, a. manau eraill. Y mae bywoliaeth Llandrillo yn Rhos,v Col- wyn Bay, wedi ei chynnyg gan esgob Llanel- wy i'r Parch. Evan Jones, ficer Wyddgrug. Cafodd plentyn bychan i Mr. R. T. Ed- wards, Chester Street, Wyddgrug, ei ladd dydd Gvvener, trwy i motor lorry redeg drosto. Yn Barri, nos Iau, boddodd bachgen pym- theg oed, o'r enw Donald Peterson Jones, ma 1) Mr. J. W. Jones, 8, Arthur Street, Am- xnanford. Dirwywyd y Mri. H. a J. Owen, chweg- llwyddwyr, Gloddaeth Street, Llandudno, i 10s., dydd Hun, am wertliu jam tu hwnli i'r pris cyfreithlawn." Yn Llandudno, dydd Llun, anfonwyd dyn ieuangc o'r enw William Hayes i garchar am chwe' mis, gyda llafur caled, am ladrata bi- sycl modur, gwertli 38p. Dygwyd swm man r o wlan i farchnad Caer- narfon yn ystod yr wythllosau diweddaf, i'w bwyso. Taiwyd o ddeutu 9001). i ffermwyr"am wlan mcAvn un diwrnod. Ih cld lau bu farw yr Hcnadur Rees Llew- elyn, U.H., Bwlifa House, Aberdar, goruch- wyliwr eyffredinol Glofa BwlIfa Dare. Yr oedd yn 68ain mhvydd oed. Y mae Mr. John Williams, efrvdvdd yn Ngholeg y Bala, a chyn-lilwr, wedi cael galw- ad i eglwys M.C. Bwcle a Mynviai Isa, fel olynvdd i'r Parch. Ellis Lloyd. Ar doriad y dydd, boreu ddydd Iau, caed corph marw Charles Jones, Fterm y Dryma, Sel vren, ar ochr y mynydd. Bernir mai an- hwyldeb y galon oedd achos ei farwolaeth. Dydd Sadwrn bu farw Mrs. Clifford, priod y Parch. Dr. John Clifford, y gweinidog adna- byddus o Lundain, yn 75ain mlwydd oed. Buont yn briod am gyfnod o 56ain mlynedd. Y mae Norman Morris, cyn o;l ",r, Drefnew- ydd, newydd ei anrhegu gair y Royal Hu- mane Society am arbed bywyd G. W. Roberts, ung fab y Parch. W. R. Roberts (W.), Dref- newydd. Y mae Mrs. Jones, gweddw Mr. Thomas Jones, cyn-bostfeistr Caernarfon, ac aelod- au eraill y teulu, wedi rhoddi nifer liosog o lyfrau i Lyfrgell y dref, pa rai a fawr wertlid fawrogir. Yn un o lysoedd Llundain, yr wythnos ddi- weddaf, cyhuddwyd Charles Edward Wright, bachgen 15eg oed, yr hwn oedd yn briod, o ladrata pedair potelaid o chwisgi, er prynu angenrheidiau i'w blleiity ii. Yn llys ynadon Caernarfon, dydd Llun, an- fonwyd Laura Jones, South Pen'rallt, i gar- char am bedwar diwrnod ar. ddeg am ymosod ar ei chymmydoges, Jane Gardiner. Gor- chymynwyd iddi dalu'r costau hefyd. Yn llys ynadon Colwyn Bay, dydd Sadwrn, cyhuddwyd Samuel Jones, cyn-filwr, o adael ei wraig, Elizabeth Ann Jones, yr hon a bri- ododd yn mis Ebrill. Gohiriwyd yr achos, er ceisio cael gan y partioif i ail gyfammodi. Y mae Bwrdd Gwarcheidwaid Llanfyllin uedi pennodi y Cadben Walter Milton Jones yn swyddog meddygol dros ranbarth Llanfyllin. Y mae Dr. Jones, ar hyn o bryd, yn gwasanaethu gyda'r R.A.M.C., yn Meso- potamia. ( Mae Miss Megan Thomas, merch Mr. John Thomas, arweinydd Cor Brenhinol Llanelli, i wneyd ei hymddangosiad ar y lhvvfan yn y Queen's Hall, Llundain. Mae'n gantores dalentog, a bu dan addysg yn Llundain er's rhai blynyddau. Mae y Frenhincs wedi derbyn darn o freth- yn tweed wedi ei wneyd a gwaith Haw gan gyn-fihvr. Cafodd ei weu yn y Cambrian Factory, Llanwrtyd, lie y mae nifer o gyn- tihvyr analluog yn cael eu dysgu i weu. Mae y Frenhines wedi anfon i ddiolch am y rliodd. Tra yr oedd cystadleuaeth bocsio yn cymmeryd lie yn Neuadd y Farchnad, Llan- elli, yr oedd cyfarfodydd gweddio arbenig yn cael eu cynnal gan yr eglwysi Ymnellduol, nos Lun. Gresyn meddwl fod cynnifer o ar- daloedd Cymreig wedi mabwysiadu pethau gwaelaf y Saeson gwagsaw. Yn nghynghor Dinesig Abersychan, dydd Mawrth, adroddodd y Swyddog lechyd tod llawer o achosion o orlenwi tai wedi dyfod dan ei sylw, ac i aros i dai newyddion gael eu hadeiladu, dylid gwneyd rhywbeth i wella'i tai presennol. Yr oedd rhai o'r tai ddim yn gynrmhwys i gwji fyw ynddynt. Cyn y gii,-Iawogydd dhveddar dywedwyd fod I y cyflenwad o ddwfr yn Llyn Fyrmvy-gwaith dwfr Liverpool—wedi bod yn is nag ar unrhyw adeg er pan wnaed y llyn, a liaerir ddarfod i rai personau, wrth rwyfo eu cychod ar wyneb y llyn, weled adfeilion hen bentref Llanwdd- yn, a gladdwyd yn y gwaelodion. W'rth ymdrochi yn agos i Borthygest, Porth- madog, dydd lau, boddodd dwy ferch ieu- aingc, sef Miss Sybil Reese, 30ain mlwydd oed, merch Mrs. J. J. Reese, gemydd, Porthmadog, a Miss Margaret Thomas, 18eg mlwydd oed, merch Mr. Percy Thomas, Cae'r- ogo, Porthmadog. Nis gallai yr un o'r ddwy nofio. » Yr oedd plcntyn pump oed i Mr. Robert Thomas Edwards, llafurwr, Price's Row, Chester Street, Wyddgrug, yn eistedd ar ochr clawdd, y dydd o'r blaen, pryd y daeth motor-lurry heibio gyda llwyth o farilau. Syrthiodd dau o'r barilau, a tharawyd y plentyn., gyda'r canlyniad iddo gael ei ladd yn y fan. Yn Porthcawl, dydd Mawrth, boddwyd nyrs, o'r enw Miss Olive Jordan, wrth ym- drochi. Gwnaed ymdrech galed i'w gwar- edu gan yr Heddgeidwad Alfred Brice a'i frawd-yn-nghyfraith, ac ar un achlysur yr oeddynt fel p2 mewn trobwl. Yr oedd Brice wedi darfod am dano yn liollol pan ddygvvyd ef i'r lan. Cynnaliwyd trengholiad dydd Sadwrn, yn Towyn, Meirionydd, ar gorph Madge Bailey, geneth 13eg oed, Harborne, Birmingham, yr hon a foddwyd wrth ymdrochi y diwrnod blaencrol. Gwnaed ymdrechion caled i'w gwaredu gan ei chwaer, ffermwr o'r enw Evan Jones, a charcharor Germanaidd oedd yn gweithio yn y gymmydogaeth. I Cafodd tri o blant, H.ettie Meyrick, 14, a'i dau frawd, Bertie, 11, a William, 13 oed, yn byw yn Melyn, ger Castell Nedd, ddiangia gyfyrig rhag boddi yn yr afon. Yr oeddynt yn chwareu yn y dwfr, ac heb sylwi ar y Hi yn dyfod i mewn, amgylchynwyd hwy. Cly- wyd plant yn gwaeddi am help, ac aeth Mr. H. M. Jones, St. Catherine., 'Uastell Nedd, a dau ddyn oedd yn ymdrochi, i acliub y plant. Yr oedd un o'r plant yn ddiymwybodol.

i I DEDDF YR EGLWYS .YN NGHYMRU.

DEWIS CWRAIC YN HYTRACH NA…

IAMAETHWYR-I AC I i AMAETHYDDIAETH.I

Y CYNGHOR RHYDDFRYDIGI cylaREIG.

Y CYFARFOD GWEDOI.